Ydy dy blentyn di’n colli allan ar brydau ysgol am ddim?
Achos dyw hanner y rhieni sydd bellach yn gymwys ddim yn gwybod eu bod nhw’n gallu cael e.
Felly, os wyt ti’n cael Credyd Cynhwysol, ydy dy blentyn di’n gallu cael prydau ysgol am ddim?
Yr ateb yw – wrth gwrs! O fis Medi 2026, os wyt ti’n cael Credyd Cynhwysol, mae dy blentyn yn gallu cael prydau ysgol am ddim.
Felly, cyn belled â dy fod ti’n cael Credyd Cynhwysol, mae cinio ysgol wedi’i dalu.
Ond mae’n rhaid i ti gofrestru i hawlio prydau ysgol am ddim i dy blentyn. Mae’n rhaid i ti wneud cais drwy dy gyngor lleol.
Gelli di wneud hyn ar-lein, ac fel arfer mae’n cymryd tua 10 munud.
Felly, gwna’n siŵr bod dy blentyn yn cael ei bryd ysgol am ddim!