Er y gallai talu mwy o’ch benthyciad leihau’r llog a godir arnoch ar eich benthyciad myfyriwr, efallai y byddai’n dal yn werth hawlio ad-daliad.
Yn y flwyddyn dreth 2022/23 y gordalodd graddedigion tua £110 miliwntuag at eu benthyciad myfyriwr.
Mae pobl wedi adennill miloedd o bunnoedd gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ac mae’n hawdd darganfod a oes ad-daliad yn ddyledus i chi.
Ni fydd y rhan fwyaf o bobl a ddechreuodd yn y brifysgol rhwng 2012 a 2022 byth yn talu eu benthyciad myfyriwr yn gyfan gwbl, felly efallai na fydd gordalu yn arbed unrhyw arian mewn llog i chi.
Os na fyddwch yn ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr yn llawn, caiff ei ddileu rywbryd yn y dyfodol. Mae pryd mae hyn yn dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch chi ddechrau eich cwrs ac a oes gennych chi fenthyciad myfyriwr o'r Alban.