Os byddwch yn ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd neu’n byw gyda phartner newydd mae’n debygol o effeithio ar eich sefyllfa ariannol. Dylai olygu eich bod yn gwario llai oherwydd eich bod yn rhannu costau’r aelwyd a gallai hefyd olygu eich bod yn agor cyfrif banc ar y cyd neu yn cymryd morgais gyda’ch gilydd. Darganfyddwch beth yw’r ffordd orau i gael trefn ar eich arian.
Mae’n bwysig i chi siarad am y ffordd y byddwch yn cael trefn ar faterion ariannol yr aelwyd.
Efallai bod gan eich partner newydd syniadau gwahanol i’ch rhai chi am sut i dalu’r biliau a rheoli arian.
Neu efallai y byddwch am reoli’r materion ariannol – er enghraifft, os cawsoch brofiad drwg â phartner oedd yn rheoli popeth yn eich perthynas ddiwethaf.
Mae’n well os gallwch chi a’ch partner gytuno sut y byddwch yn rhannu’r biliau.
Nid yw’n hawdd siarad am arian bob tro. Os byddwch yn ei weld yn anodd, darllenwch ein canllaw Siarad am arian â’ch partner
Cytundebau cyn ac ar ôl priodas
Os ydych yn bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil â’ch partner newydd, efallai y byddwch am ddiogelu eich sefyllfa ariannol trwy lunio cytundeb cyn-briodasol (prenup) neu gytundeb ar ôl priodas (postnup).
Mae’r rhain yn ddogfennau cyfreithiol a fydd yn nodi’r hyn rydych wedi ei gytuno.
Er enghraifft, gall ddweud na fydd un ohonoch yn hawlio yn erbyn y llall am ran o’i fusnes, buddsoddiadau neu etifeddiaeth deuluol oedd ganddo ef neu hi cyn i chi briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.
Defnyddir cytundeb ar ôl priodas yn aml, sy’n cael ei lunio ar ôl i gwpl briodi neu ddod yn bartneriaid sifil, os bydd un partner yn etifeddu neu yn prynu ail eiddo.
Gellir ei ddefnyddio hefyd os oes newid yn yr amgylchiadau – er enghraifft, os cewch fabi.
Beth yw statws cyfreithiol cytundebau cyn ac ar ôl priodas?
Yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, nid yw cytundebau cyn ac ar ôl priodas yn gyfan gwbl rhwymol yn gyfreithiol. Ond maent yn cael eu hystyried gan y llysoedd os byddwch yn ysgaru neu yn diddymu eich partneriaeth sifil.
Yn Yr Alban, gellir gorfodi cytundebau cyn ac ar ôl priodas dan y gyfraith.
Byddai’r llys am wybod:
- eich bod chi’ch dau wedi cael cyngor cyfreithiol annibynnol
- nad oedd yr un ohonoch dan bwysau i lofnodi’r cytundeb cyn priodi
- ei fod yn deg (bydd yr hyn sy’n ‘deg’ yn dibynnu ar amgylchiadau eich achos)
- bod datgeliad ariannol llawn (eich bod wedi bod yn agored â’ch gilydd am eich arian).
Os ydych chi a’ch partner yn ystyried llunio cytundeb cyn neu ar ôl priodi, gofynnwch am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Bydd arnoch angen cyfreithiwr i lunio’r cytundeb.
Cytundebau byw gyda’ch gilydd
Mae’n syniad da llunio ‘cytundeb byw gyda’ch gilydd’ os byddwch yn symud i fyw gyda’ch partner newydd ond nad ydych yn bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil.
Mae hyn yn wir oherwydd mai ychydig iawn o hawliau sydd gan gyplau sy’n byw gyda’i gilydd yn gyfreithiol os daw’r berthynas i ben.
Petai’r gwaethaf yn digwydd a’ch bod chi a’ch partner yn gwahanu, gallai cytundeb byw gyda’ch gilydd arbed llawer o boen meddwl a gofid (a biliau cyfreithiol efallai).
Mae’n nodi’r hyn rydych wedi ei gytuno i’w wneud am eich cartref, yr eiddo rydych wedi ei brynu neu rydych yn berchen arno, biliau a dyledion.
Petai eich anghydfod yn cyrraedd y llys, gall y llys anwybyddu rhannau ohono - ond os oes gennych gytundeb byw gyda’ch gilydd mae’n debyg ei bod yn well na pheidio â chael dim o gwbl.
Darganfyddwch fwy am lunio cytundeb byw gyda’ch gilydd ar wefan advicenow
Cyfrifon banc ar y cyd neu ar wahân
Un penderfyniad y bydd rhaid i chi a’ch partner ei wneud fydd a ydych am agor cyfrif banc ar y cyd.
Gall cyfrif ar y cyd fod yn fwy cyfleus, ond mae anfanteision hefyd. Y prif un yw y gall eich banc neu gymdeithas adeiladu ofyn i’r naill neu’r llall ohonoch dalu’r ddyled gyfan ar gyfrif ar y cyd (fel gorddrafft) os dymunant.
Bydd hynny’n golygu, petaech chi a’ch partner newydd yn gwahanu a’i fod ef neu hi yn gwrthod talu, y gallech orfod talu pob ceiniog.
Mae’n werth edrych ar ein canllaw A ddylech reoli arian ar y cyd neu ar wahân?
Benthyciadau a dyledion ar y cyd – beth gallai hyn ei olygu i’ch arian
Cyn i chi a’ch partner newydd gymryd benthyciadau ar y cyd, fel benthyciad banc neu forgais, mae’n bwysig bod yn glir beth gallai hyn ei olygu i chi’ch dau.
Yn gyntaf, rydych chi’ch dau’n gyfrifol am dalu’r ddyled gyfan.
Yn ail, pan fyddwch yn cymryd unrhyw fath o gredyd ar y cyd, mae eich cofnodion credyd (sy’n dangos pa mor brydlon yr ydych wedi ad-dalu arian yr ydych wedi ei fenthyca) yn cael eu cysylltu.
Bydd hyn yn golygu os byddwch chi neu eich partner yn gwneud cais am gredyd yn y dyfodol, y bydd y darparwr benthyciadau yn gallu gwirio eich cofnodion credyd chi’ch dau.
Os na fydd eich partner wedi talu eu dyledion mewn pryd, neu, – yn waeth na hynny – wedi cael ei ddatgan yn fethdalwr, bydd yn effeithio ar eich gallu i gael credyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd
Yswiriant bywyd i chi a’ch partner
Efallai y bydd angen i chi adolygu’r yswiriant sydd gennych ar ôl i chi a’ch partner newydd symud i fyw gyda’ch gilydd.
Os oes gennych forgais ar y cyd, dylech gymryd yswiriant bywyd (neu wirio bod y polisïau presennol yn cynnig yr yswiriant cywir).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant bywyd - dewis y polisi a'r yswiriant cywir.
- Efallai y bydd angen i chi gynyddu maint yr yswiriant ar eich yswiriant cartref hefyd. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Adolygu yswiriant ar gyfer eich cartref ac eiddo ar ôl gwahanu.
Newidiadau i daliadau cynhaliaeth a chynnal plant
Os byddwch yn ailbriodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil newydd, bydd unrhyw gynhaliaeth i ŵr neu wraig (gelwir yn periodical allowance yn yr Alban) yn dod i ben.
Ac os byddwch yn symud i fyw gyda’ch partner newydd, heb briodi neu ffurfio partneriaeth sifil, gall y taliadau barhau ond gall y swm newid.
Gall newidiadau ddigwydd hefyd i daliadau cynhaliaeth plant os bydd gan y rhiant sy’n talu blant eraill yn ei gartref - fel llysblant neu blant a aned i bartner newydd.