Prynu car trwy hurbwrcasu

Mae hurbwrcasu (HP) yn gynllun ariannu car. Ar ôl talu blaendal cymharol isel, rydych yn hurio’ch car gyda’r opsiwn o’i brynu erbyn diwedd y contract. 

Beth yw hurbwrcasu?

Ffordd i gyllido prynu car newydd neu ail-law yw hurbwrcasu. (Fel arfer) rydych yn talu blaendal ac ad-dalu gwerth y car mewn rhandaliadau misol, gyda’r benthyciad wedi’i ddiogelu yn erbyn y car .

Mae hyn yn golygu na fyddwch yn perchen ar y cerbyd hyd nes y telir y taliad olaf. 

Sut mae hurbwrcasu yn gweithio

Fel arfer, bydd rhaid i chi dalu blaendal ar y car y dymunwch ei brynu. Ar gyfer y rhan fwyaf o gytundebau hurbwrcasu bydd hyn yn 10% neu ragor o werth y cerbyd.

Byddwch wedyn yn talu gweddill gwerth y car mewn rhandaliadau, dros gyfnod o 12 i 60 mis (un i bum mlynedd).

Trefnir hurbwrcasu gan y gwerthwr ceir, ond mae broceriaid yn cynnig y gwasanaeth hwn hefyd. Yn aml mae’r cyfraddau’n gystadleuol iawn ar gyfer ceir newydd, ond yn llai cystadleuol ar gyfer ceir ail law. Ar gyfer ceir ail law gall y gyfradd ganrannol flynyddol amrywio rhwng 4% - 8%. Po isaf yw’r ganran, gorau oll.

Gallai’r gyfradd fod yn uwch os, er enghraifft, nad oes gennych sgôr credyd da. Gallwch wirio’ch sgôr credyd am ddim â:

Mae’r benthyciad wedi ei ddiogelu yn erbyn y car, a dyma pam na chewch fod yn perchen arno hyd nes i chi wneud y taliad olaf, gan gynnwys talu'r ffi Opsiwn i Brynu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall amodau a thelerau eich benthyciad cyn arwyddo’r cytundeb. Er enghraifft, ar ôl i’r holl ad-daliadau gael eu gwneud bydd angen i chi dalu ffi derfynol, a elwir yn ‘Opsiwn i Brynu' - wedi i chi dalu’r ffi honno, chi sydd yn perchen ar y car. Tua £100-£200 yw hyn fel arfer, ond gall amrywio felly cofiwch ofyn beth yw’r swm.

Manteision hurbwrcasu
  • Telerau ad-dalu hyblyg (o un i bum mlynedd) i helpu i gydfynd â’ch cyllideb fisol – ond po hwyaf y tymor po fwyaf y byddwch yn ei dalu mewn llog.

  • Blaendal cymharol isel yn ofynnol (fel arfer 10% o bris y car).

  • Cyfraddau llog sefydlog felly gwyddoch yn union beth rydych yn ei dalu bob mis am hyd y tymor.

  • Ar ôl ichi dalu hanner cost y car, mae’n bosibl y byddwch yn gallu ei ddychwelyd heb orfod gwneud unrhyw daliadau eraill.

  • Os nad yw’ch sgôr credyd yn uchel iawn efallai y byddai’n haws i chi hurbwrcasu yn hytrach na chael benthyciad heb ei ddiogelu, gan fod y car yn cael ei ddefnyddio fel sicrwydd cyfochrog ar gyfer y benthyciad.

  • Nid yw’n cynnwys cyfyngiadau o ran milltiroedd fel arfer.

  • Yn wahanol i PCP, nid oes angen i chi ddod o hyd i swm mawr o arian i brynu’r car.

Anfanteision hurbwrcasu
  • Nid ydych yn perchen ar y car tan i chi wneud eich taliad olaf, sy’n golygu, os ewch i anawsterau ariannol, y gallai’r cwmni cyllid ei gymryd oddi arnoch.

  • Ni chewch werthu neu addasu’r car dros gyfnod y contract heb gael caniatâd yn gyntaf.

  • Fel arfer mae taliadau misol yn uwch nag ar gyfer PCP a bargeinion lesio.

  • Bydd eich blaendal a hyd eich contract yn effeithio ar eich taliadau misol. Mae eich taliadau misol yn debygol o fod yn uwch po isaf fydd eich blaendal a po fyrraf fydd cyfnod y benthyciad.

  • Hyd nes i chi dalu traean o’r swm sy’n ddyledus gall y darparwr benthyciadau adfeddiannu’r car heb orchymyn llys.

  • Gall fod yn ddull drud os mai cytundeb tymor byr yn unig yw’ch dymuniad.

Enghreifftiau o’r gost o brynu car trwy drefniant hurbwrcasu

Ar gyfer car sydd â phris o £25,000:

  • blaendal: £2,500
  • APR: 5.7%
  • cyfnod (hyd y cytundeb: 60 mis (5 mlynedd)
  • taliadau misol ar gyfartaledd: £431
  • Cyfanswm i’w dalu: £28,411
  • (blaendâl + benthyciad + llog: £2500 + £22,500 + £3,411).

 

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn gwirio a oes unrhyw ffioedd a thaliadau ychwanegol ar eich benthyciad.

Er mwyn eich helpu i gyfrifo faint y bydd benthyciad yn ei gostio, defnyddiwch gyfrifiannell benthyciad Money Saving ExpertYn agor mewn ffenestr newydd

Sut i gael y fargen orau wrth hurbwrcasu

Ceir dau brif ddewis yma:

  • cael y cyllid drwy’r gwerthwr ceir sy’n gwerthu’r car i chi
  • cael cyllid drwy frocer ar-lein
  • cael cyllid drwy eich banc.

Mae’n ddefnyddiol chwilio ar-lein yn gyntaf er mwyn i chi gael ychydig o ffigurau i’ch helpu i fargeinio gyda’r gwahanol werthwyr ceir. Gall bargeinion amrywio’n sylweddol ar-lein a rhwng gwerthwyr ceir felly mae’n hanfodol cael mwy nag un ddyfynbris.

I’ch helpu i gymharu’r gwahanol gynigion gofynnwch am:

  • yr APR y byddwch yn ei thalu
  • y cyfanswm i’w dalu’n ôl
  • cyfanswm cost y credyd
  • unrhyw ffioedd ychwanegol.

Siopa o gwmpas ar gyfer bargeinion hurbwrcasu

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r fargen HP orau, rydym yn awgrymu naill o'r ddwy wefan canlynol:

Awgrymiadau da ar gael y fargen orau

  • Ymchwiliwch yr APR – yr APR yw cyfradd ganrannol flynyddol y llog ar eich benthyciad. Cyn ymweld â’r gwerthwr ceir, defnyddiwch rai o’r gwefannau cymharu prisiau i weld pa APRs a gynigir i chi a chael argraff o beth yw bargen dda.
  • Cofiwch ystyried cyfanswm y gost – gallech gael eich temtio i edrych ar ad-daliadau misol isel a phenderfynu bod hynny’n fargen dda. Ond cofiwch gynnwys y gost yn llawn – bydd ad-daliadau misol uwch dros lai o fisoedd yn golygu llai o log, a allai olygu bod cyfanswm y gost yn is.
  • Rhowch gynnig ar wahanol werthwyr ceir – gall pob gwerthwr, hyd yn oed gan yr un gwneuthurwr, gynnig bargeinion sy’n wahanol i’w gilydd. Os nad ydych yn cael cynnig pris da, gallwch roi cynnig ar werthwr arall a gweld beth sydd ar gael yno.
  • Bargeiniwch – gallwch fargeinio dros yr APR, nid dim ond pris y car yn unig. Gyda llai o log bydd eich taliadau yn gannoedd os nad miloedd o bunnoedd yn llai dros gyfnod y contract hurbwrcasu. Gallwch fargeinio dros flaendaliadau a ffioedd hefyd.
  • Peidiwch â brysio – nid oes rhaid i chi fodloni ar y cynnig cyntaf a gewch, ac os cewch chi gontract, sicrhewch eich bod yn cymryd eich amser ac yn darllen y cyfan, gan gynnwys yr amodau a’r telerau.
  • Defnyddiwch gerdyn credyd – ystyriwch dalu rhan o’r gost ar gerdyn credyd. Ni fydd llawer o ddelwyr yn eich galluogi i wneud hynny, felly gwiriwch gyda nhw. Mae talu dim ond 1c o’r blaendal ar gerdyn credyd yn rhoi diogelwch gwerthfawr i chi o dan Adran 75: diogelwch taliad cerdyn credyd.
  • Gwiriwch y bwlch – ystyriwch unrhyw ychwanegion yn ofalus. Er enghraifft, mae yswiriant bwlch wedi’i ddylunio i gynnwys y gwahaniaeth rhwng y swm bydd eich yswiriwr car yn ei dalu os caiff eich car ei ddwyn, neu ddileu, a’r pris wnaethoch dalu am eich car. Darganfyddwch fwy ar wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd

Gwerthwr ceir masnachfreiniol neu annibynnol

Pan brynwch gar, rydych yn debygol o fynd at un ai werthwr ceir annibynnol (un a redir gan fusnes ac sy’n cadw ceir gan amryw o wahanol wneuthurwyr) neu un fasnachfreiniol (un sy’n cydweithio â gwneuthurwr fel Ford neu Volkswagen ac ati).

Bydd gan werthwyr annibynnol ddewis mwy helaeth o geir gan ei bod yn haws iddynt gadw stoc gan wahanol wneuthurwyr ceir. Ceir ail law welwch gan amlaf hefyd, sy’n gerbydau rhatach fel arfer.

Fel arfer ni fyddwch yn medru cael bargeinion cyllid 0% na bargeinion â chyfraniad blaendal sylweddol a bydd yr APR rhwng tua 5-20% - er bydd eich hanes credyd yn effeithio’r gyfradd a fydd ar gael i chi.

Gwerthwyr ceir masnachfreiniol yw’r lle i fynd i gael car newydd – er cofiwch fod ceir newydd yn colli eu gwerth yn sgil dibrisiad yn gyflym iawn.

Gall masnachfreinio gynnig bargeinion cystadleuol iawn hefyd fel cyllid 0% neu gyfraniadau rhwng £500-£2,000 ar flaendal ar gar. Mae’r bargeinion hyn yn fwy cyffredin ar geir newydd, ond bydd angen hanes credyd da iawn arnoch i fod yn gymwys am y bargeinion gorau.

Hurbwrcasu a phryniant amodol

Mae pryniant amodol yn debyg i hurbwrcasu ond chi fydd yn berchen ar y car ar ddiwedd cytundeb pryniant amodol. Yn wahanol i hurbwrcasu, nid oes ffi ‘Opsiwn i Brynu’ yn daladwy, felly chi fydd perchennog y car fel mater o drefn wedi i chi gwblhau’r holl ad-daliadau i’ch darparwr benthyciadau.

Fel arfer nid ydych yn perchen ar y car hyd nes i chi dalu’r rhandaliad terfynol a gallai darparwr y benthyciad gymryd y car yn ei ôl os methwch â thalu’ch taliadau’n brydlon.

Dewisiadau eraill yn hytrach na hurbwrcasu

Mae amryw o ddulliau i brynu car, o ddefnyddio arian parod ar ôl cyfnod o gynilo, i gael benthyciad gan fanc neu ddefnyddio ffordd arall i gael cyllid. 

Beth i’w wneud os na allwch fforddio’ch ad-daliadau

Os ydych yn ei chael yn anodd talu’ch ad-daliadau hurbwrcasu car yn brydlon, mae rhai opsiynau ar gael i chi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.