Darganfyddwch ein hawgrymiadau ar gyfer sut i gronni eich cynilion ac i helpu lleihau eich taliadau llog. Gall cynilo ar gyfer ernes mwy gwtogi cost eich car nesaf gan gannoedd o bunnau.
Pam cynilo?
Gall cynilo ernes dorri cannoedd o bunnau oddi ar gost eich car.
Er enghraifft, gallai benthyca holl gost car am £7,000 olygu ad-daliadau o £265 y mis, gan godi’r pris llawn i £9,500.
Trwy gynilo ernes o £2,000, rydych yn benthyca llai, gan dorri’r ad-daliadau i £190 y mis, a’r gost lawn i £8,800. Dyna arbediad o £700.
Cam un – Ystyried eich opsiynau
Mae llawer o ffyrdd i dalu am gar :
- cymryd cyllid y masnachwr ei hunan
- cael benthyciad gan fanc neu gymdeithas adeiladu
- dewis cynllun credyd personol neu hurbwrcas
- neu hyd yn oed dewis prydlesu car yn lle prynu .
Ond, pa bynnag opsiwn a ddewiswch, gall talu ernes fwy dorri cost eich car yn sylweddol.
Mae rhai cynigion, fel cyllid 0%, ar gael dim ond os oes gennych ernes fawr.
Beth fyddwch yn ei dalu’n ôl wrth fenthyca £1,000
Os gallech fenthyca ar gyfradd llog rhad o 7% y flwyddyn, ar gyfer pob £1,000 rydych yn ei fenthyca dros gyfnod o dair blynedd, byddai rhaid i chi ad-dalu £1,108.
Os byddech yn cynilo £1,000 ychwanegol tuag at yr ernes, byddai’n torri £108 oddi ar gost y car.
Os byddai rhaid i chi dalu cyfradd llog lawer uwch o 19% y flwyddyn, byddai pob £1,000 y gallwch ei roi i lawr yn arbed £292 i chi pe byddech yn benthyca am dair blynedd a £508 pe byddech yn benthyca am bum mlynedd.
Mae faint o arian y gallwch ei arbed yn bersonol ar gost eich car nesaf yn dibynnu ar y llog a godir arnoch.
Po uchaf y gyfradd, po fwyaf eich budd trwy gynilo ar gyfer ernes.
Cam dau – Gweithio allan faint i’w gynilo bob mis
Os ydych yn gwneud ad-daliadau misol ar eich car presennol o hyd efallai’ch bod yn meddwl sut gallwch fforddio cynilo hefyd.
Ond mae dechrau cynilo hyd yn oed swm bach nawr yn golygu y byddwch yn gallu benthyca ychydig yn llai’r tro nesaf, a fydd yn torri’r ad-daliadau ar eich car nesaf.
Yna byddwch yn gallu fforddio cynilo ychydig yn fwy tuag at eich car nesaf, ac felly ymlaen. Cyn eich bod yn sylweddoli, gallech fod yn brynwr arian parod heb unrhyw ad-daliadau o gwbl.
Mae faint yr ernes rydych yn anelu ati’n dibynnu ar y car rydych wedi rhoi’ch bryd arno.
Ond byddwch yn realistig – os gosodwch eich targed cynilo’n rhy uchel, mae perygl y byddwch yn digalonni.
Y peth gorau yw gosod eich targed ar swm rydych yn teimlo’n gyfforddus yn ei gynilo bob mis a gallwch ychwanegu at hwn pryd bynnag y gallwch fforddio ychydig yn fwy.
Darganfyddwch fwy am Fynd i'r arfer o gynilo
Cam tri – Dechrau arni
Awgrym da
Sefydlwch daliad rheolaidd (debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog) i drosglwyddo swm penodol yn awtomatig i’ch cynilion bob mis.
Byddwch am glustnodi’r cynilion hyn yn arbennig ar gyfer eich car.
Efallai bod gennych eisoes gyfrif banc ar-lein sy’n gadael i chi sefydlu potiau ar wahân ar gyfer nodau gwahanol.
Fel arall, agorwch gyfrif cynilo ar wahân.
Gallech ddewis cyfrif mynediad uniongyrchol. Ond, os ydych yn bwriadu prynu car ymhen blwyddyn neu ddwy, gallech hefyd ystyried cyfrifon sy’n clymu’ch arian ond sy’n cynnig llog gwell.
Gwefannau cymharu prisiau
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.
Mae’r gwefannau canlynol yn cymharu cyfrifon cynilo :
Cofiwch:
- Ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch a nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr .
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Cael y gorau o wefannau cymharu
Cam pedwar – Gwylio eich cynilion yn tyfu
Gwiriwch eich cynnydd yn rheolaidd.
Cofiwch, gallai pob £100 yn eich cyfrif fod yn £10, £20, £50 neu fwy oddi ar gost lawn eich car nesaf.
Adolygwch eich cyfrif cynilo o leiaf unwaith y flwyddyn i wirio eich bod yn cael y gyfradd llog gorau. Gall cyfraddau llog fynd i lawr ar ôl i chi gael y cyfrif am gyfnod. Atgoffwch eich hun i newid cyfrifon pan gaiff y llog ei gostwng.
Beth i’w wneud nesaf
- Agorwch gyfrif cynilo os nad oes gennych gyfrif eisoes – ewch ar-lein neu ewch i’ch banc neu gymdeithas adeiladu.
Sefydlwch taliad rheolaidd i’ch cyfrif cynilion bob mis. Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw i Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog