Mae Llogi Contract Personol (PCH) yn ffordd o logi a gyrru car newydd heb y bwriad o’i brynu.
Beth yw Llogi Contract Personol?
Mae Llogi Contract Personol (PCH) yn ffordd o rentu (lesio) car am ychydig flynyddoedd.
Byddwch yn cytuno ar hyd contract ac yn gwneud taliadau misol sefydlog. Bydd angen i chi hefyd dalu ffi ymlaen llaw a’r rhan fwyaf o gostau rhedeg, fel yswiriant a thanwydd.
Byddwch yn gyfyngedig o ran faint o filltiroedd y gallwch yrru’r car, a byddwch yn cael cosb os ewch dros y terfyn hwn (neu achosi unrhyw ddifrod arall i’r car).
Fel arfer ni fydd unrhyw opsiwn i brynu’r car, a byddwch yn ei ddychwelyd i’r deliwr unwaith y daw eich contract i ben.
Gwiriad credyd
Fel arfer bydd angen i chi basio gwiriad credyd pan fyddwch yn lesio car.
I gael rhagor o wybodaeth a sut i wirio'ch adroddiadau am ddim, gweler ein canllaw Sut i wella'ch sgôr credyd
Beth fyddwch chi'n ei dalu wrth lesio car
Ffi ymlaen llaw
Byddwch yn gwneud taliad mwy ar ddechrau eich cytundeb. Mae hyn fel arfer yn hafal i rhwng tri a chwe mis o daliadau.
Bydd rhai delwyr yn eich temtio gyda thaliadau misol isel, ond blaendal mawr. Cyfrifwch yn union beth fyddwch chi'n ei dalu i wirio a yw hyn yn dal i roi cytundeb da i chi.
Taliadau misol
Byddwch yn cytuno ar gost taliad misol yn seiliedig ar:
- werth y car rydych yn ei logi
- y swm yr ydych yn ei dalu mewn ffioedd ymlaen llaw
- y lwfans milltiredd, a
- hyd eich contract.
Gall contract hirach leihau costau misol, ond bydd y car yn colli gwerth dros amser. Meddyliwch a fyddwch chi’n dal yn hapus gyda’ch cytundeb bum mlynedd i mewn i gontract – os na, efallai y byddwch chi’n cael eich hun yn gaeth i gytundeb nad yw’n teimlo fel gwerth da mwyach.
Os ydych chi'n bwriadu gostwng eich costau misol, efallai y byddwch chi'n gweld bod lesio car llai costus ar gontract byrrach yn opsiwn gwell.
Costau rhedeg
Er mai eich deliwr yw perchennog y car, chi fydd yn gyfrifol am:
- yswiriant
- tanwydd
- costau gwasanaethu
- unrhyw docynnau parcio neu goryrru (bydd y deliwr yn trosglwyddo'r rhain atoch).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyllidebu ar gyfer y rhain i gyd. Bydd rhai delwyr yn cynnig yswiriant fel rhan o’ch cytundeb, ond efallai y cewch chi gytundeb gwell yn rhywle arall.
Atgyweiriadau a chynnal a chadw
Fel arfer byddwch yn gyfrifol am unrhyw waith atgyweirio a chynnal a chadw sydd ei angen ar eich car ar les, oni bai bod hyn wedi’i gynnwys yn eich cytundeb les.
Mae'n bwysig gofyn i'ch deliwr:
- pwy fydd yn gyfrifol am unrhyw fân atgyweiriadau
- pwy fydd yn talu am unrhyw ddifrod mawr
- pa gyflwr y byddant yn disgwyl i'r car fod ynddo ar ddiwedd y les.
Traul derbyniol
Bydd y rhan fwyaf o werthwyr yn disgwyl rhywfaint o draul erbyn diwedd eich les, ond byddant yn codi tâl am unrhyw ddifrod sy'n mynd y tu hwnt i hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth fyddan nhw'n chwilio amdano pan fyddwch chi'n rhoi'r car yn ôl.
Weithiau gall hyd yn oed crafiadau ar hubcaps neu gan anifeiliaid anwes gael eu gweld fel difrod gan ddelwyr. Mae canllaw defnyddiol ar draul derbyniol gan British Vehicle Rental and Leasing Associations (BVRLA),Yn agor mewn ffenestr newydd neu gallwch archebu copi caledYn agor mewn ffenestr newydd
Lwfans milltiredd
Pan fyddwch yn cytuno ar les, gosodir terfyn ar faint o filltiroedd y caniateir i’ch car eu gwneud bob blwyddyn.
Gallwch drafod hyn, ond bydd lwfans milltiredd uwch yn golygu taliadau misol uwch. Mae hyn oherwydd y bydd eich car yn llai gwerthfawr os bydd mwy o filltiroedd arno pan fyddwch yn cyrraedd diwedd eich les.
Cosbau am fynd dros eich terfyn
Mae’n werth treulio ychydig o amser yn gweithio allan beth fydd eich milltiredd. Os yw'n rhy uchel, byddwch chi'n talu mwy nag sydd angen.
Ond os yw’n rhy isel a’ch bod yn mynd dros eich milltiroedd, byddwch fel arfer yn wynebu cosb. Gall y rhain fod yn ddrud os nad ydych yn ofalus, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’ch contract.
Ai lesio yw'r dewis cywir?
Manteision lesio
-
Os ydych angen neu eisiau mynediad at gar mwy newydd, gall hyn fod yn ffordd fforddiadwy o wneud hynny.
-
Bydd eich taliadau misol yn rhatach na Thaliad Contract Personol (PCP) neu Hurbwrcas (HP).
-
Ni fyddwch yn cael eich effeithio cymaint gan y car yn colli ei werth (dibrisio) dros amser.
Anfanteision lesio
-
Nid yw eich arian yn mynd tuag at fod yn berchen ar y car, felly ar ddiwedd y les ni fydd gennych unrhyw beth i'w ddangos am y taliadau rydych wedi'u gwneud.
-
Byddwch yn gyfyngedig o ran faint o filltiroedd y gall y car ei wneud.
-
Bydd y deliwr yn codi tâl arnoch am unrhyw ddifrod sy’n mynd y tu hwnt i ‘draul’ arferol.
-
Rydych chi ynghlwm wrth eich cytundeb am hyd y contract, ac ni allwch gyfnewid y car na'i roi yn ôl heb dalu ffi fawr.
Opsiynau Eraill
Ymuno â chlwb ceir
Mae clwb ceir yn ffordd arall o logi car. Byddwch yn talu ffi aelodaeth, ac yna byddwch yn gallu llogi ceir pan fyddwch eu hangen.
Dim ond am yr amser y byddwch yn defnyddio car y codir tâl arnoch. Felly, os mai dim ond car sydd ei angen arnoch bob hyn a hyn, gallai hyn weithio allan fel cytundeb rhatach.
Mae'r clwb ceir hefyd yn gofalu am danwydd, yswiriant a chynnal a chadw. Fodd bynnag, bydd gan rai clybiau ceir derfynau tynn ar filltiroedd – felly gallai teithiau pell rheolaidd fod yn ddrytach yn gyffredinol.
Gwiriwch a oes clybiau ceir yn eich ardal leol i weld a yw hyn yn opsiwn, a faint fyddai’n ei gostio.
Tanysgrifiadau car
Mae tanysgrifiadau car ychydig yn wahanol i glybiau ceir. Byddwch yn dewis car ac yn talu ffi fisol, weithiau heb fod angen blaendal ymlaen llaw. Mae’r cytundebau hyn fel arfer yn fwy tymor byr na PCH, ac weithiau’n gadael i chi newid eich car bob ychydig fisoedd.
Bydd tanysgrifiad car fel arfer yn haws i'w newid neu ei ganslo, ond mae'r taliadau misol yn aml yn ddrytach na PCH. Gallwch gymharu cytundebau tanysgrifiiad carYn agor mewn ffenestr newydd i weld a fyddai'r opsiwn hwn yn addas ar eich cyfer.
Prynu car yn gyfan gwbl
Os oes gennych chi ddigon o gynilion i allu prynu car gydag arian parod, dyma fydd eich opsiwn gorau fel arfer. Ni fyddwch yn talu llog a byddwch yn berchen ar y car ar unwaith.
Mae’n bwysig cael rhywfaint o arian o’r neilltu o hyd ar gyfer argyfyngau. Edrychwch ar ein canllaw Cynilion ar gyfer argfywng - faint sy'n ddigon?
Taliad Contract Personol (PCP)
Math arall o gyllid car yw Taliad Contract Personol (PCP). Byddwch yn:
- rhoi blaendal i lawr
- gwneud taliadau misol, ac yna
- cael y dewis i wneud ‘taliad balŵn’ mawr terfynol ar ddiwedd eich contract.
Mae’r taliadau misol hyn fel arfer yn uwch na les, ond byddwch yn rhoi arian tuag at fod yn berchen ar y car. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi dalu'r taliad balŵn ar y diwedd i brynu'r car yn gyfan gwbl, rhywbeth nad yw llawer o bobl yn ei wneud.
Hurbwrcas
Mae Hurbwrcas yn ffordd arall o brynu car yn gyfan gwbl. Byddwch yn rhoi blaendal ac yn gwneud taliadau misol i dalu am werth gweddill y car.
Bydd y taliadau misol hyn fel arfer yn uwch na les a PCP, ond byddwch yn rhoi arian tuag at fod yn berchen ar y car, ac ni fydd gennych daliad balŵn i’w wneud ar y diwedd.
Benthyciad personol
Gallech hefyd ystyried cael benthyciad personol i dalu am gar yn gyfan gwbl.
Gyda benthyciad byddwch yn gallu prynu’r car a’i fod yn berchen arno o’r diwrnod cyntaf, ond mae’n debyg y bydd eich ad-daliadau misol yn uwch na les.
Cael y cytundeb gorau ar eich les
Os ydych chi’n ystyried lesio car, cofiwch edrych ar ychydig o wahanol wefannau cymharu fel leasing.comYn agor mewn ffenestr newydd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wefannau cymharu i gymharu cytundebau ar:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu’r gost gyffredinol (gan gynnwys blaendal), a rhowch gynnig ar wahanol hyd contract i weld a all hyn wneud eich cytundeb yn rhatach.
Dod â les i ben yn gynnar
Os oes angen i chi roi’r car yn ôl yn gynnar, mae’n debygol y bydd angen i chi dalu ‘ffi terfynu’. Gall hyn fod yn gosb fawr, felly mae’n well peidio â chytuno ar les os ydych chi’n meddwl y bydd angen i chi ddod â hi i ben yn gynnar.
Mae’n bwysig gwirio’ch contract cyn dechrau eich cytundeb i weld a yw dod â’r les i ben yn gynnar yn opsiwn, a faint fydd angen i chi ei dalu i wneud hyn.
Os ydych yn cael trafferth fforddio ad-daliadau
Siaradwch â’ch cwmni cyllid car os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cadw i fyny â’ch taliadau.
Efallai y byddan nhw’n gallu dod o hyd i ateb, fel ymestyn eich les i ostwng eich taliadau misol.
Darganfyddwch ble y gallwch gael cyngor ar ddyledion am ddim.