Rheoli eich arian

Gall cymryd yr amser i reoli eich arian yn well dalu ar ei ganfed. Bydd deall beth i ganolbwyntio arno nawr ac yna rhoi cynllun hirdymor ar waith yn eich helpu i ymdopi’n well â’ch anghenion presennol ac yn y dyfodol.

Cael eich dyledion dan reolaeth

Os oes gennych fenthyciadau neu ar arian ar gardiau credyd, mae fel arfer yn gwneud synnwyr talu'r ddyled sy'n codi'r gyfradd llog uchaf neu sydd â ffi am daliadau hwyr yn gyntaf. Er enghraifft, mae cardiau credyd neu siop fel arfer yn codi mwy o log na benthyciadau personol gan fanciau.

Er na fydd prynu cytundebau Prynu Nawr Talu Wedyn yn codi llog, byddwch yn wyliadwrus o unrhyw ffioedd am daliadau hwyr. Mae'n bwysig sicrhau nad ydych yn torri telerau eich cytundebau, neu efallai y byddwch yn cael cosb neu log ychwanegol.

Cofiwch, os ydych yn canolbwyntio ar dalu un ddyled i lawr mae'n rhaid i chi dalu o leiaf yr isafswm taliad ar unrhyw gardiau credyd a'ch taliadau gofynnol misol ar gytundebau benthyciad.

Os ydych eisoes wedi methu taliadau cerdyn credyd neu fenthyciad, neu os ydych chi ar ei hôl hi gyda dyledion eraill, mae'n bwysig cael help.

Creu cyllideb

Ar ôl i chi adnabod unrhyw ddyledion y mae angen i chi eu talu, y cam nesaf i gymryd rheolaeth o'ch cyllid yw gosod cyllideb.

Bydd yn cymryd ychydig o ymdrech, ond mae'n ffordd wych o gael cipolwg cyflym o'r arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan.

Mae sefydlu cyllideb yn eich helpu i gadw golwg ar eich arian, fel rydych yn gwybod pryd allwch wario a sut i osgoi mynd i'r coch.

Beth sydd ei angen arnoch

I ddechrau ar eich cyllideb, bydd angen i chi gyfrifo faint rydych chi'n gwario ar:

  • filiau cartref
  • costau byw
  • cynhyrchion ariannol, fel yswiriant, taliadau banc neu log
  • teulu a ffrindiau, gallai hyn gynnwys anrhegion a theithio i ddigwyddiadau fel priodasau
  • teithio, fel trafnidiaeth gyhoeddus neu gostau car fel profion MOT a thanwydd
  • hamdden, gan gynnwys gwyliau, ffioedd campfa, prydau bwyd allan neu adloniant arall.

Cael eich cyllideb yn ôl ar y trywydd iawn

Os ydych yn gwario mwy nag sydd gennych yn dod i mewn, mae'n bwysig adolygu'ch treuliau. Efallai y bydd ffyrdd y gallwch wneud arbedion.

Fe allech gadw dyddiadur gwariant a chadw nodyn o bopeth rydych chi'n ei brynu mewn mis. Neu, os gwnewch y rhan fwyaf o'ch gwariant gyda cherdyn credyd neu ddebyd, edrychwch ar ddatganiad y mis diwethaf a gweithio allan i ble mae'ch arian yn mynd.

Nid oes un ffordd i greu cyllideb. Dyma rai syniadau:

  • Rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio. Gallwch arbed eich gwybodaeth a dod yn ôl ati unrhyw bryd y dymunwch.
  • Sefydlwch gyllideb gan ddefnyddio taenlen neu ysgrifennwch y cyfan i lawr ar bapur.
  • Mae yna rai apiau cyllidebu am ddim gwych ar gael os oes gwell gennych reoli pethau ar-lein.
  • Darganfyddwch a oes gan eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu teclyn cyllidebu ar-lein sy'n cymryd gwybodaeth yn uniongyrchol o'ch trafodion.

Cynilo i bensiwn

Peidiwch ag anghofio bod pensiwn yn fuddsoddiad i roi incwm i chi yn y dyfodol. Os ydych yn talu llai i'ch cronfa nawr, bydd gennych lai o arian pan fyddwch yn rhoi'r gorau i weithio.

Ceisiwch gydbwyso'ch anghenion heddiw â'ch anghenion yn y dyfodol, felly nid ydych yn difaru lleihau eich cynilo pensiwn nawr. Cofiwch:

  • Os ydych mewn pensiwn yn y gweithle, bydd eich cyflogwr fel arfer yn cyfrannu hefyd - dyna arian parod nad ydych am golli allan arno os yn bosibl.
  • Fel rheol, byddwch yn elwa o'r llywodraeth bob tro y byddwch yn talu arian i mewn, felly po leiaf y byddwch chi'n talu i mewn, y lleiaf o ychwanegiad y byddwch yn ei gael.
  • Eich pensiwn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithlon o ran treth i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad. Os ydych chi, fel y mwyafrif o bobl, yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, byddwch yn cael rhyddhad 20% gan y llywodraeth ar eich cyfraniadau pensiwn yn awtomatig.

Darganfyddwch fwy am pam ei bod yn bwysig cynilo i bensiwn.

Cronni cronfa brys

Mae cael rhywfaint o gynilion brys yn ffordd wych o baratoi ar gyfer treuliau annisgwyl, yn enwedig pan fydd pethau'n mynd o chwith fel peiriant golchi neu foeler yn torri.

Os yn bosibl, anelwch at gael o leiaf dri mis o dreuliau hanfodol ar gael mewn cyfrif cynilo mynediad ar unwaith.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilion brys - faint sy'n ddigon?

Diogelu eich hun a’ch teulu

Ar ôl i chi gael eich cronfa cynilion brys ar waith, meddyliwch am ddiogelu eich incwm yn y dyfodol i sicrhau eich bod yn cael eich diogelu pe bai'r gwaethaf yn digwydd.

Mae yna wahanol fathau o yswiriant y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich incwm, iechyd, morgais, taliadau benthyciad neu bobl sy'n dibynnu arnoch.

Y prif beth yw penderfynu pa ddiogelwch sydd ei angen arnoch a phwyso a mesur risgiau a buddion yswiriant diogelu yn erbyn y gost a'r cynnwys. Chi sydd i benderfynu beth sy'n bwysig a sut y byddwch chi'n ei ddiogelu.

Y cam cyntaf yw gosod nod i chi'ch hun. Beth neu bwy sydd angen i chi ei ddiogelu fwyaf? Gallai hyn fod yn darparu ar gyfer eich plant, yn talu am eich taliadau morgais, neu yn syml eich enillion.

Nesaf, ystyriwch pa ddiogelwch sydd gennych chi eisoes. Er enghraifft, os ydych chi'n gyflogedig efallai y bydd gennych becyn budd-daliadau sy'n cynnwys math o yswiriant bywyd, neu diogelwch incwm am gyfnod penodol os na allwch weithio oherwydd salwch neu anaf.

Yn olaf, gweithiwch allan pa yswiriant diogelwch rydych ei eisiau, yn seiliedig ar y cynnwys sydd gennych eisoes a phwy neu beth rydych am ei ddiogelu.

I ddarganfod mwy, gweler ein hadran ar Yswiriant, sy'n eich tywys trwy'r gwahanol fathau o yswiriant a sut i ddewis y polisi cywir i chi.

Gosod nod cynilo

Efallai y byddai'n anodd meddwl am neilltuo unrhyw arian fel cynilion. Y ffordd orau i arbed arian yw talu rhywfaint o arian i gyfrif cynilo bob mis. Dyma rhai nodau cynilo posib:

Wrth i'ch cynilion ddechrau tyfu, efallai yr hoffech feddwl am fuddsoddi rhywfaint o'ch arian i gyflawni'ch nodau hirdymor, a allai roi mwy o enillion i chi os ydych yn barod i'w gloi i ffwrdd am ychydig flynyddoedd.

Am awgrymiadau ac arweiniad ar gynilo, gweler ein hadran ar Gynilion.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.