Pedair nodwedd cyfrif banc myfyrwyr i’whystyried
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
25 Ebrill 2021
Os ydych chi ar fin dechrau yn y brifysgol, rydych chi'n mynd i gael eich taro gyda chynnig ar ôl cynnig i wneud i chi ddewis un banc dros un arall. Efallai y bydd y freebies hyn yn ymddangos fel arian hawdd, ond a yw’r cyfrif yn addas ar eich cyfer?
Mae banciau'n awyddus i ddenu myfyrwyr fel cwsmeriaid oherwydd eu bod yn gwybod bod llawer yn aros gyda'r un banc ar ôl graddio, ac yna efallai’n agor cardiau credyd neu hyd yn oed yn cymryd morgais gyda nhw yn nes ymlaen.
Felly, cyn i chi gofrestru am gerdyn rheilffordd am ddim neu daleb £50, darllenwch y pedair nodwedd hyn rydyn ni'n meddwl sy'n bwysig – gallai olygu eich bod ychydig yn well eich byd yn ystod eich bywyd prifysgol.
1. Gorddrafftiau di-log
Y gwahaniaeth mawr rhwng cyfrif arferol a chyfrif myfyriwr yw y bydd llawer o'r banciau yn rhoi gorddrafft di-log i chi.
Pan fyddwch chi'n defnyddio gorddrafft rydych chi'n benthyg arian gan y banc, felly mae'n debyg mai un di-log yw'r ffordd rhataf y byddwch chi'n gallu benthyg arian fel myfyriwr.
Nid yw hynny'n golygu y dylech ei drin fel eich arian i'w wario! Dylech ei drin fel byffer ar gyfer argyfyngau neu yn agos at ddiwedd y tymor cyn i'r taliad benthyciad nesaf fod yn ddyledus.
Yr anfantais yw, os ydych yn mynd dros y terfyn gorddrafft gall fod rhai ffioedd a thaliadau drud iawn ynghlwm.
Hefyd, mae angen talu'r cyfan yn ôl, ac ar ôl i chi raddio mae'n debygol y byddwch chi'n gorfod talu llog ar unrhyw arian sy’n ddyledus gennych o hyd.
Ond, mae'n opsiwn gwell na benthyciadau arian parod cyflym sydd â chyfraddau llog uchel iawn. Os ydych chi'n meddwl bod angen gorddrafft arnoch, dylai cael y cytundeb gorau fod yn flaenoriaeth.
2. Llog
Nid yw cyfraddau llog yn wych ar hyn o bryd, ond edrychwch i weld a allwch chi ennill unrhyw arian ar yr arian parod sydd yn eich cyfrif.
Mae rhai banciau yn cynnig llog mor uchel â 5%, ond dim ond ar symiau bach o arian.
3. Apiau a changhennau
Mae cadw golwg ar eich arian yn allweddol i wneud yn siŵr nad ydych chi'n gorwario. Yn ffodus, mae gan y rhan fwyaf o fanciau ap y gallwch ei gyrchu ar unrhyw adeg i weld eich balans a phryd y bydd biliau yn ddyledus.
Efallai yr hoffech ystyried a oes gan y banc rydych chi'n ei ddewis y nodweddion sydd eu hangen arnoch ar ei ap. Efallai y byddwch chi'n gweld cyllidebu ychydig yn haws os gallwch ddefnyddio cronfeydd cynilo neu weld eich balans ar ôl i filiau gael eu cymryd. Mae banciau modern sy'n seiliedig ar apiau yn boblogaidd iawn ar gyfer nodweddion fel hyn, ond efallai yr hoffech hefyd gael cyfrif banc myfyriwr traddodiadol ar gyfer mynediad at orddrafft di-log.
Mae hefyd yn werth meddwl a fyddwch chi eisiau ymweld â changen, ac os felly, a oes un yn agos atoch chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyllidebu ar gyfer coleg neu brifysgol
4. Pethau am ddim
Ar ôl i chi ystyried a yw'r nodweddion uchod yn mynd i weithio i chi, yna gallwch edrych ar y freebies. Mae rhai yn werth mwy o arian nag eraill, ond os nad ydych chi'n mynd i gymryd trên, a oes pwynt cael cerdyn rheilffordd?