Sut i siarad â phlant am gostau byw
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
07 Tachwedd 2022
Mae Emma yn awdur, athrawes a siaradwr cyhoeddus sydd yn aml yn ymddangos o fewn cyfryngau print cenedlaethol ac wedi bod ar y teledu, gan gynnwys This Morning, The One Show ac ITN News (a hefyd yn gystadleuydd ar Tipping Point – ond mae hynny’n stori arall!).
Mae Emma’n ysgrifennu am fagu plant a chyllid personol, a hi yw sylfaenydd y blog llwyddiannus Mums Savvy SavingsYn agor mewn ffenestr newydd a blog sydd wedi ennill sawl gwobr Emma and 3.Yn agor mewn ffenestr newydd
Mae llawer o rieni yn ystyried sut i gael sgwrs gyda’u plant am gostau byw. Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig iawn i gael sgyrsiau sy’n addas i’r oedran fel arall gall plant creu naratif eu hun a mynd yn ddryslyd. Yn ail os nad ydym yn cael y sgyrsiau ariannol pwysig bydd ein plant yn dod o hyd i ffynonellau eraill ac efallai ni fydd y rhain yn ddibynadwy - mae nifer o bobl ifanc er enghraifft yn cymryd ‘newyddion’ o blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Tik Tok sydd heb ei rheoleiddio ac yn fwy aml na pheidio yn anghywir.
Fel rhiant o blant yn eu harddegau mae gennym gyfrifoldeb i’w dysgu am les ariannol ac er mwyn i hynny ddigwydd mae’n rhaid i’r sgwrs ddechrau o oedran ifanc.
Dyma fy awgrymiadau da am drafod costau byw cynyddol:
- Peidiwch â defnyddio jargon, ni fydd plant yn deall y termau chwyddiant neu gap ar brisiau. Byddant yn clywed yr ymadroddion ond ddim yn deall yr effaith mae hwn yn cael ar arian go iawn. Rhowch enghreifftiau go iawn iddynt a siaradwch mewn rhifau. Yn y DU rydym yn aml yn gyfrinachol am arian a faint yw morgais ac yna’n disgwyl i bobl ifanc ddeall pob dim yn hudolus pan ddaw’r amser. Nid oes angen i chi ddatgelu faint yw eich morgais neu filiau’r cartref, ond gallwch ddweud eu bod wedi cynyddu gan £300 y mis a faint y bydd hwn yn effeithio ar incwm y teulu.
- Rhowch ddewisiadau - os oes angen i chi wneud newidiadau i’ch ffordd o fyw peidiwch â chuddio hwn. Yn lle siaradwch â’ch plant am eich blaenoriaethau a sut rydych yn torri’n ôl. Esboniwch fydd cludfwyd wythnosol yn stopio ond byddwch dal yn cael diwrnod allan yn y gwyliau. Mae’n hawdd i blant gor-feddwl a phoeni. Fel athrawes, roeddwn yn adnabod plant a oedd yn dweud bod eu rhieni yn dlawd gan nad oeddent yn prynu’r ffôn symudol diweddaraf neu nwyddau eraill. Nid oedd hyn yn wir, ond nid oes gan blant y cydsyniad o ba bethau sy’n costio a beth sy’n hanfodol. Mae cynnwys y teulu cyfan wrth wneud penderfyniadau yn rymusol, ac mae’n dysgu gwersi gwerthfawr iddynt am eu bywydau am weddill eu hoes.
- Atgoffwch nhw fod newidiadau bach i gyd yn cronni, gallwn i gyd gwneud ein rhan i wneud newid cadarnhaol. Cael y plant i gymryd rhan mewn gwneud arian hefyd, gallent helpu i drefnu eu heiddo a’u gwerthu - dywedwch wrthynt y bydd hwn hefyd yn helpu teuluoedd sydd yn cael trafferth gan eu bod yn prynu’n rhatach. Gall yr arian a enillwyd gael ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth neis. Mae rhai cynlluniau rheoli arian gwych hefyd fel aros 30 diwrnod cyn prynu rhywbeth rydych eisiau. Mae gwneud hwn yn helpu osgoi mympwyon ac yn eich helpu i benderfynu a ydych wir eisiau’r peth newydd.
Yn olaf, os yw’ch teulu yn ddigon ffodus i fod yn ymdopi’n iawn - atgoffwch nhw efallai na fydd teuluoedd eu ffrindiau mor ffodus. Bod rhaid i ni fel unigolion bod yn ystyriol o ffrindiau sy’n dweud na allant fynd i’r sinema dros y penwythnos gan nad oes arian ganddynt. Yn lle, edrychwch am ffyrdd i gael hwyl gyda ffrindiau sy’n costio llai neu sydd am ddim.