Faint o flaendal sydd ei angen arnaf ar gyfer morgais?
Diweddarwyd diwethaf:
13 Mai 2024
Fel arfer mae angen blaendal mawr arnoch i gael morgais a phrynu cartref - fel arfer o leiaf 5% o werth yr eiddo. Dyma sut mae'n gweithio a chynlluniau i'ch helpu i arbed, fel bonws ISA Gydol Oes.
Beth yw blaendal ar gyfer morgais?
Cyn y gallwch gael morgais, bydd angen i chi ddod o hyd i gartref i'w brynu a chytuno ar bris.
Yn syml, y blaendal yw'r rhan o hyn y byddwch chi'n ei dalu gan ddefnyddio'ch arian eich hun.
Pam bod angen blaendal arnaf i brynu cartref?
Siarad yn fanwl gywir, nid oes angen blaendal arnoch i gael cartref. Mae morgeisi 100% heb unrhyw flaendal yn opsiwn, ond fel arfer:
- nid oes llawer i ddewis ohonynt, ac
- mae risgiau ynghlwm.
Er enghraifft, os yw gwerth eich cartref yn gostwng, gall fod bydd arnoch fwy o arian i'ch benthyciwr morgais na'i werth – gelwir hyn yn ecwiti negyddol. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd iawn gwerthu neu gael cytundeb morgais newydd (ailforgeisio).
Felly, mae talu blaendal yn ei hanfod yn rhoi mynediad i chi i fwy o gynigion morgais, sy'n aml yn rhatach dros y tymor hir.
Faint o flaendal sydd ei angen arnaf?
Bydd y swm y bydd ei angen arnoch yn dibynnu ar:
- bris prynu'r eiddo, a
- chytundeb eich morgais – mae'r rhan fwyaf angen blaendal o leiaf 5% o werth yr eiddo.
Er enghraifft, i brynu cartref sy'n werth £280,000, fel arfer byddai angen o leiaf £14,000 arnoch fel blaendal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilo arian ar gyfer blaendal morgais.
Mae blaendal mwy fel arfer yn rhoi cynnig morgais rhatach i chi
Mae'r ystod o forgeisi y gallech fod yn gymwys amdanynt yn dibynnu ar faint eich blaendal. Po uchaf yw eich blaendal, y lleiaf o risg i fenthyca iddo yr ydych. Y rheswm am hyn yw y gall banciau fentro mynd i fewn i ecwiti negyddol os na fyddwch yn talu'ch morgais ac mae'n rhaid iddynt adfeddiannu'ch cartref (ei dynnu oddi arnoch a'i werthu ymlaen).
Mae hyn yn golygu bod cynnigion morgais fel arfer yn rhatach os oes gennych flaendal mawr. Mae'r rhataf fel arfer os oes gennych flaendal sy'n werth o leiaf 40% o werth yr eiddo.
Mae benthycwyr morgeisi yn galw hyn yn Fenthyciad i Werth (LTV).
Esboniad o Fenthyciad i Werth (LTV)
Mae Benthyciad i werth yn ffordd ffansi o ddweud faint o'r eiddo rydych chi'n ei brynu gan ddefnyddio morgais.
Dyma enghraifft ar gyfer cartref gwerth £200,000:
- swm eich blaendal yw £20,000 (10%)
- rydych yn cael morgais am £180,000 (90%)
- eich LTV yw 90%.
Cynlluniau i'ch helpu i arbed ar gyfer blaendal
Gall arbed ar gyfer cartref fod yn anodd, yn aml mae'n cymryd blynyddoedd lawer i arbed digon (bydd ein cyfrifiannell Cynilo yn gweithio allan i chi).
Ond mae yna gynlluniau a allai helpu:
- rhoi bonws ychwanegol i chi ar eich cynilion, fel ISA Gydol Oes, neu
- cynnig ffyrdd eraill o brynu, fel rhanberchnogaeth.
I ddarganfod os ydych yn gymwys, gweler ein canllaw Cynlluniau Llywodraeth ar gyfer prynwyr tai tro cyntaf a pherchnogion tai presennol.
Cofiwch gyllidebu ar gyfer ffioedd cyfreithiol a chostau eraill
Ar ben y blaendal, fel arfer bydd angen i chi dalu costau eraill hefyd, fel:
- ffioedd cyfreithiwr
- Arolygiadau adeiladau, a
- ffioedd cwmni symud.
Efallai y byddwch hefyd am gyllidebu i brynu dodrefn ac eitemau cartref eraill pan fyddwch yn symud i mewn.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau: