Cyhoeddwyd ar:
12 Mai 2023
Gall cynilo am flaendal bod yn rhwystr mawr pan fyddwch chi’n ceisio prynu eich cartref cyntaf, ond os oes gennych forgais 100% ni fydd angen un arnoch. Darganfyddwch fwy am sut mae morgeisi 100% yn gweithio, ac a allai un fod yn iawn i chi.
Fel arfer, pan fyddwch yn gwneud cais am forgais, bydd eich benthyciwr yn gofyn am flaendal o leiaf 5% o werth yr eiddo. Os ydych yn talu blaendal, y ganran sy’n weddill o’r pris prynu yw pris y benthyciad (LTV), ar gyfer blaendal o 10% byddai eich LTV yn 90%.
Gyda morgais 100%, byddai’r banc neu gymdeithas adeiladu yn cynnig morgais i chi am werth llawn yr eiddo, heb orfod talu blaendal. Nid yw hyn yn golygu na fydd angen cynilo o gwbl - bydd angen i chi dalu ffioedd ar gyfer eich cyfreithiwr, chwiliadau, syrfewyr, costau symud ac o bosibl ffi prisio morgais.
Er nad yw morgeisi 100% newydd wedi cael eu cynnig yn eang am y 15 mlynedd diwethaf, roeddent yn eithaf cyffredin. Maent wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd bod cynnyrch newydd wedi'i ryddhau sy'n cynnig morgais 100% heb fod angen gwarantwr.
Bydd eich benthyciwr yn ystyried eich incwm a’ch gwario cyn eich derbyn am forgais. Gall ein Cyfrifiannell Morgais rhoi amcangyfrifiad cyflym o faint y gallwch ei fenthyg, hyd yn oed os nad oes gennych flaendal.
Mae’n dibynnu ar eich benthyciwr, ond mae rhai morgeisi 100% yn gofyn am warantwr. Dyma rywun a fyddai’n gyfrifol am dalu eich morgais os byddwch yn methu unrhyw daliadau. Bydd eich benthyciwr yn edrych ar ffeil credyd eich gwarantwr a’n gwneud gwiriadau fforddiadwyedd arnynt i sicrhau y gallant dalu eich taliadau morgais ar ben morgais ei hunain neu unrhyw ddyledion eraill.
Gall dod o hyd i rywun sy’n ymddiried ynoch i dalu ar amser bob mis, ac sy’n bodloni’r meini prawf i fod yn warantwr fod yn anodd. Mae morgeisi 100% yn risg i’r benthyciwr, fel unrhyw forgais arall, os nad ydych yn gwneud ad-daliadau, gallant adfeddu eich eiddo a’i werthu er mwyn talu cost eich benthyciad, ond os na wnaethoch dalu blaendal gallant golli arian os yw prisiau tai’n cwympo.
Mae gan fenthycwyr nad ydynt yn gofyn am warantwr amodau eraill i bobl fod yn gymwys i gael morgeisi 100%. Gallai hyn fod yn hanes o dalu rhent a biliau ar amser, neu ‘flaendal teulu’ lle mae rhywun sy’n perthyn i chi’n cadw canran o bris yr eiddo mewn cyfrif cynilo fel gwarant. Gall brocer morgais edrych ar eich amgylchiadau a dod o hyd i ba forgeisi rydych yn debygol o gael eich derbyn amdanynt.
Os na allwch fforddio cynilo am flaendal, gallai morgais 100% fod yn opsiwn da i chi. Yn hytrach na gwario arian ar rent bob mis, gallwch fod yn cronni ecwiti ar eich cartref cyntaf. Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Morgais i weld os bydd eich ad-daliadau misol yn llai na’ch rhent.
Os yw gwerth eich tŷ neu fflat yn gostwng, gallwch fynd i ecwiti negyddol - mae hyn yn golygu mae mwy na gwerth eich eiddo yn ddyledus gennych. Pan fyddwch am ail-forgeisi, os ydych yn ceisio benthyg mwy na gwerth eich cartref, ni fyddwch yn gallu dod o hyd i fargen newydd, a byddwch yn symud i’r gyfradd amrywiol safonol (SVR). Mae bod ar forgais SVR fel arfer yn golygu y bydd eich taliadau misol llawer yn uwch nag os oeddech ar forgais sefydlog neu gyfradd tracio, a gall eich taliadau newid o fis i fis.
Nid morgeisi 100% yw’r unig opsiwn i’ch helpu i brynu eich cartref cyntaf. Mae gan ein canllaw ar gynlluniau’r llywodraeth ar gyfer prynwyr tro cyntaf restr o’r holl ffyrdd y gallwch chi hybu eich blaendal neu dalu llai o flaendal gyda pherchnogaeth ranedig a chynlluniau eraill.