Ecwiti negyddol yw pan fydd eiddo yn werth llai na'r swm sy'n weddill i'w dalu ar y morgais. Darganfyddwch beth yw ecwiti negyddol, beth i'w wneud am y peth ac osgoi problemau cyffredin a achosir ganddo.
Beth yw ecwiti negyddol?
Pwysig
Os oes gennych forgais llog yn unig rydych mewn mwy o berygl o ecwiti negyddol na phe bai gennych forgais ad-dalu. Mae hynny oherwydd nad yw'ch taliadau misol yn mynd tuag at leihau gwerth eich dyled, dim ond tuag at y llog. Darganfyddwch fwy am ad-dalu morgais llog yn unig.
Ecwiti, yw gwerth eich eiddo heb y swm sy'n weddill oherwydd ar eich morgais. Gall eich ecwiti gynyddu wrth i chi ad-dalu'ch morgais neu os yw'r eiddo'n cynyddu mewn gwerth.
Ecwiti negyddol, yw pan fydd y swm sy'n ddyledus gennych i'ch benthyciwr morgais yn fwy na gwerth eich eiddo. Yr achos mwyaf cyffredin o ecwiti negyddol yw prisiau tai yn gostwng.
Dyma enghraifft:
Os gwnaethoch brynu eiddo am £250,000, a bod gennych falans morgais yn weddill o £220,000 ond mae'r eiddo wedi gostwng mewn gwerth i £200,000, byddech yn £20,000 mewn ecwiti negyddol.
Fodd bynnag, pe byddech wedi prynu eiddo am £250,000 a bod gennych falans morgais yn weddill o £220,000 ond bod gwerth yr eiddo wedi gostwng i £230,000, byddai gennych £10,000 mewn ecwiti cartref a pheidio â bodac na fyddech mewn ecwiti negyddol.
Amcangyfrifir y gallai fod cyn gcymaint â hanner miliwn o eiddo mewn ecwiti negyddol yn y DU, gyda rhai ardaloedd yn cael eu heffeithio yn fwy nag eraill.
Sut alla i wirio a ydw i mewn ecwiti negyddol?
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siŵr a ydych mewn ecwiti negyddol. Gallwch wneud dau wiriad syml a fydd yn eich helpu i gael darlun cliriach o'ch sefyllfa.
- Gwiriwch eich datganiad morgais neu cysylltwch â'ch benthyciwr i ddarganfod faint sy'n ddyledus gennych o hyd ar eich morgais.
- Gwiriwch y gwerth gyda'ch benthyciwr. Pan oeddech yn prynu eich eiddo byddai eich benthyciwr wedi gofyn am brisiad. Mae hyn yn gysylltiedig â'r Mynegai Prisiau Tai, a fydd yn cymryd i ystyriaeth cynnydd (neu ostyngiadau) yng ngwerth eich eiddo. Os nad yw hyn yn fyr o'r hynbydd hyn yn llai nag oeddech rydych yn ei ddisgwyl, gallech herio hyn gydag arolwg a gymeradwywyd gan RICS.
Os yw gwerth eich eiddo yn llai na'r hyn sy'n ddyledus gennych, yna rydych mewn ecwiti negyddol.
Beth i’w wneud os ydych mewn ecwiti negyddol
Mae bod mewn ecwiti negyddol yn golygu y gallech ei chael hi'n anodd symud tŷ neu gael cytundeb morgais newydd gan fod gwerth eich ased yn llai na'r swm sy'n ddyledus gennych. Fodd bynnag, ni fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar eich sgôr credyd. Er y dylai eich ffocws bob amser fod i wneud gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich ad-daliadau’n brydlon, mae rhai camau ychwanegol i'w cymryd os byddwch yn cael eich hun mewn ecwiti negyddol. Dyma beth i'w wneud os mai dyma yw eich sefyllfa.
Rydych yn ailforgeisio’ch eiddo
Gall fod yn anodd os ydych am newid benthycwyr trwy ailforgeisio. Y rheswm am hyn yw mai dim ond yn erbyn gwerth presennol yr eiddo y bydd benthycwyr newydd yn benthyca, fel y gallech fod â diffyg. Bydd hyn yn debygol o leihau eich opsiynau i siopa o amgylch benthycwyr eraill am gyfradd sefydlog newydd neu fargen rhatach.
Fodd bynnag, gallwch siarad â'ch benthyciwr presennol am gael cytundeb morgais newydd ganddynt: gelwir hyn yn drosglwyddiad cynnyrch. Mae hyn yn golygu cadw at eich lefel fenthyca bresennol (peidio â chymryd dyled ychwanegol) a newid i gyfradd newydd gyda'r un benthyciwr. Os ydych ar gyfradd sefydlog ar hyn o bryd sydd i fod i ddod i ben, gallwch siarad â'ch benthyciwr am drosglwyddiad cynnyrch hyd at chwe mis cyn hynny.
Os nad ydych yn dewis trosglwyddo cynnyrch, byddwch fel arfer yn cael eich symud yn awtomatig i gyfradd amrywiol safonol eich benthyciwr (SVR).
Rydych yn gwerthu eich eiddo
Os ydych mewn ecwiti negyddol, efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd gwerthu'ch cartref neu symud. Oni bai bod gennych gynilion i ad-dalu'r gwahaniaeth rhwng gwerth eich cartref a'r morgais - a allai fod yn £10,000au - bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd o dalu'r diffyg i'ch benthyciwr.
Os nad oes rhaid i chi werthu ac yn gallu aros yn eich eiddo tra'n parhau i dalu eich taliadau morgais bob mis, efallai na fydd ecwiti negyddol yn effeithio ar eich cyllid bob dydd.
Os oes rhaid i chi werthu'ch cartref a bod siawns y bydd y diffyg yn achosi i chi fynd i ddyled, dylech ofyn am gyngor ar unwaith. Defnyddiwch ein Teclyn lleoli cyngor dyled i ddod o hyd i gyngor am ddim a chyfrinachol ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu'n agos at ble rydych yn byw.
Beth i'w wneud os bydd angen i chi symud
Bydd pa mor hawdd yw symud yn dibynnu ar sawl ffactor, fel:
- faint o ecwiti negyddol sydd gennych
- gwerth yr eiddo rydych am symud iddo
- os ydych yn gyfredol â'ch morgais presennol, a
- faint o flaendal y gallwch ei godi ar gyfer yr eiddo newydd.
Siaradwch â'ch benthyciwr yn y lle cyntaf a darganfod pa gymorth y gallant ei roi i chi.
Morgeisi ecwiti negyddol
Mae nifer fach iawn o fenthycwyr yn cynnig 'morgeisi ecwiti negyddol', sy'n gadael i chi drosglwyddo'ch ecwiti negyddol i'ch eiddo newydd, ond bydd dal disgwyl i chi dalu blaendal. Ond fel rhybudd i chi - mae'r rhain yn aml yn dod â chyfraddau llog uwch.
Manteision
-
- Gallwch symud tŷ heb orfod talu i ffwrdd yr ecwiti negyddol ar eich morgais. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os oes angen i chi symud am resymau gwaith neu deulu ac na allwch ei oedi.
Anfanteision
-
- Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd ad-dalu cynnar ar eich morgais presennol – darllenwch eich telerau presennol neu os nad ydych yn siŵr ble i ddod o hyd i'r rhain, gofynnwch i'ch benthyciwr.
-
- Efallai y bydd ffioedd a thaliadau ychwanegol hefyd, ac efallai y bydd gan eich morgais newydd gyfradd llog uwch na'ch morgais presennol.
Lleihau eich ecwiti negyddol
Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i lunio cyllideb a dechrau tyfu eich cynilion.
Os yw'n bosibl, mae'n syniad da ceisio lleihau eich ecwiti negyddol trwy dalu mwy tuag at eich morgais. Gelwir hyn yn 'ordalu' ac mae llawer o fenthycwyr yn caniatáu hyn.
Yn gyntaf, gwiriwch a fydd eich morgais presennol yn gadael i chi wneud gordaliadau ac, os gallwch, faint y gallwch ei ordalu cyn i chi gael ffi ad-dalu cynnar.
Nesaf, cyfrifwch faint yn ychwanegol y gallwch fforddio ei dalu bob mis neu fel taliad un tro.
Gwiriwch gyfrifiannell gordaliad morgaisYn agor mewn ffenestr newydd fel hon gan MoneySavingExpert.
Bydd hyn yn dweud wrthych faint o wahaniaeth y gallai eich taliadau ychwanegol ei wneud.
Mae gan nifer o froceriaid morgeisi a benthycwyr y teclyn hwn hefyd.
Rhentu eich cartref os ydych mewn ecwiti negyddol
Gallai opsiwn arall fod i rentu eich cartref os bydd eich benthyciwr yn cytuno i hyn. Os yw'ch benthyciwr yn cytuno, cofiwch efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd llog uwch a/neu ffi flynyddol 'Caniatâd i Osod'. Mae'n rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich yswiriwr eich bod yn rhentu eich cartref allan.
Er y byddai hyn yn golygu eich bod yn cadw'r morgais presennol, byddai hefyd yn golygu dod o hyd i rywle i fyw yn y cyfamser. Byddwch hefyd yn parhau i fod yn gyfrifol am dalu ad-daliadau morgais os yw'r eiddo yn wag - a allai eich rhoi mewn sefyllfa ariannol waeth.
Darganfyddwch fwy am Sut i ddod o hyd i gartref rhent gallwch chi ei fforddio
Sut i baratoi ar gyfer cynnydd mewn cyfradd llog
Os bydd cyfraddau llog yn codi, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn dal i allu fforddio'ch taliadau morgais.
Mae'n arbennig o bwysig os ydych mewn ecwiti negyddol oherwydd gallech fod yn fwy agored i gael eich cartref wedi'i adfeddiannu.
Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud os yw cyfraddau yn mynd i fyny yn einch canllaw Sut i baratoi ar gyfer newid mewn cyfradd llog
Beth allwch chi ei wneud os ydych yn cael trafferth talu eich morgais
- Dylech bob amser siarad â'ch benthyciwr cyn gynted â phosibl os ydych yn cael trafferth, ceisiwch barhau i dalu'r hyn y gallwch. Gallwch weld mwy yn ein canllaw Help gyda thaliadau morgais.
- Os ydych eisoes mewn ôl-ddyledion ar eich morgais, siaradwch â'ch benthyciwr a chael cyngor gan un o'r elusennau sy'n rhoi cyngor ar ddyledion.
- Cysylltiadau defnyddiol:
- yng Nghymru a Lloegr, siaradwch â Chyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd neu ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
- yn yr Alban, siaradwch â Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu Shelter ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon, siaradwch â'r Gwasanaeth Hawliau TaiYn agor mewn ffenestr newydd