Os oes gennych anghenion gofal neu anabledd – neu os ydych yn gofalu am rywun sydd – mae budd-daliadau i’ch helpu i ymdopi gyda’r costau ychwanegol. Ni effeithir rhai o’r budd-daliadau hyn gan incwm neu gynilion ac efallai y gallwch eu cadw os bydd angen i chi fynd i gartref gofal.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa fudd-daliadau y gallaf wneud cais amdanynt?
- Pam ei bod yn bwysig gwneud cais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Gostyngiadau ac eithriadau Treth Cyngor
- Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn
- Help gyda chostau tai
- Budd-daliadau eraill
- Budd-daliadau i ofalwyr
Pa fudd-daliadau y gallaf wneud cais amdanynt?
Dyma’r prif fudd-daliadau y gall rhywun wneud cais amdanynt i helpu gyda chostau ychwanegol eich anghenion gofal personol neu anabledd:
- Lwfans Gweini, Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), neu Daliad Anabledd Oedolion (ADP) yn yr Alban (os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth) - mae’r rhain wedi’u cynllunio i helpu gyda’r costau ychwanegol rydych yn eu hwynebu oherwydd eich anghenion gofal neu anabledd. Nid ydynt yn dibynnu ar brawf modd felly nid ydynt yn dibynnu ar eich incwm neu gynilion.
- Gostyngiad Treth Cyngor - mae rhai o’r rhain yn ymwneud â’ch anabledd neu’ch trefniadau gofal ac nid ydynt yn dibynnu ar brawf modd.
- Credyd Cynhwysol – mwy o fanylion isod.
Os yw eich incwm a’ch cynilion yn isel
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael budd-daliadau prawf modd i ychwanegu at eich incwm. Gan ddibynnu ar eich oedran a’ch amgylchiadau gallai’r rhain gynnwys:
- elfen costau tai Credyd Cynhwysol os ydych o dan oedran pensiwn y wladwriaeth
- Budd-dal Tai os ydych (a’ch partner os oes gennych un) wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth
- cymorth costau tai
- gostyngiad Treth Cyngor
- Credyd Pensiwn (a allai gynnwys swm ychwanegol os oes gennych anabledd).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa fudd-daliadau anabledd a salwch gallaf eu hawlio?
Os yw rhywun yn treulio llawer o amser yn gofalu amdanoch ac mae ganddynt incwm isel, efallai y gallant wneud cais am fudd-daliadau gofalwr. Gallai hyn cynnwys Lwfans Gofalwr ac elfen gofalwr Credyd Cynhwysol.
Pam ei bod yn bwysig gwneud cais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
Nod y budd-daliadau hyn yw helpu pobl yn eich sefyllfa i fyw’n ddiogel, yn gyffyrddus ac mor annibynol â phosibl.
Hyd yn oed os ydych yn teimlo y gallwch ymdopi hebddynt, os ydych yn gymwys - mae gennych hawl i wneud cais amdanynt.
Dyma rai rhesymau pam ei bod yn bwysig gwneud cais:
- Gall gwneud cais am bopeth mae gennych hawl iddo nawr helpu’ch incwm a’ch cynilion i bara am fwy o amser.
- Pan fydd eich awdurdod lleol (neu’r ‘Health and Social Care Trust’ yng Ngogledd Iwerddon) yn asesu eich anghenion gofal, byddant fel arfer hefyd yn cynnal asesiad ariannol. Mae hyn er mwyn gweld a fyddant yn helpu i dalu am gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Byddant yn eich helpu i asesu pa fudd-daliadau y mae gennych hawl i wneud cais amdanynt. Ond bydd angen i chi sicrhau eich bod yn hawlio’r budd-daliadau hyn gan eu bod yn tybio eich bod yn eu cael.
Lwfans Gweini
Oeddech chi’n gwybod?
Nid yw rhai budd-daliadau salwch ac anabledd yn ystyried eich cynilion, a gallai’r terfyn cynilo ar eraill fod yn uwch nag yr ydych chi’n meddwl.
Mae Lwfans Gweini yn ddi-dreth ac nid yw unrhyw gynilion nac incwm a allai fod gennych yn effeithio arno.
Efallai y bydd gennych hawl iddo os:
- ydych yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu drosodd
- ydych angen help gyda gofal personol oherwydd salwch neu anabledd. Gallai hyn fod yn anabledd corfforol neu feddyliol, neu’n anhawster dysgu.
- yw eich anabledd yn golygu eich bod angen help i ofalu amdanoch chi’ch hun neu oruchwyliaeth i sicrhau diogelwch eich hun neu eraill.
Mae rhaid eich bod wedi bod angen gofal a chefnogaeth am o leiaf chwe mis. Fodd bynnag, os ydych yn derfynol wael, gallwch wneud cais am Lwfans Gweini ar unwaith ac ni fydd rhaid i chi aros chwe mis.
Mae Lwfans Gweini yn seiliedig ar y gofal rydych ei angen - nid lefel gofal rydych yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Felly hyd yn oed os nad ydych yn derbyn cefnogaeth gan ofalwr ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hawl o hyd i’r budd-dal hwn.
Fel rheol ni allwch gael Lwfans Gweini os ydych yn byw mewn cartref gofal ac mae’r awdurdod lleol yn talu am eich gofal.
Ond gallwch barhau i wneud cais am Lwfans Gweini os ydych yn byw mewn cartref gofal ac yn talu amdano eich hun.
Fe gewch gyfradd is os byddwch angen help yn ystod y dydd neu’r nos, a chyfradd uwch os byddwch angen help ddydd a nos.
Cyfradd uwch | Cyfradd is |
---|---|
£108.55 |
£72.65 |
Cymru, Lloegr neu’r Alban
Gogledd Iwerddon
Darganfyddwch fwy am Lwfans Gweini, gan gynnwys sut i wneud cais, yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Efallai eich bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael Taliad Annibyniaeth Personol yn lle Lwfans Gweini.
Taliad Annibyniaeth Personol
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael anhawster symud o gwmpas neu wneud tasgau dyddiol, neu’r ddau, gallwch wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Mae PIP yn ddi-dreth, yn cael ei dalu bob pedair wythnos ac nid yw eich incwm na chynilion yn effeithio arno.
Yn Yr Alban, mae PIP a DLA wedi cael eu disodli gan y Taliad Anabledd Oedolion (ADP). Mae’r meini prawf a’r dyfarniad yr un peth â PIP.
Os ydych yn barod yn hawlio PIP neu DLA yn Yr Alban, bydd Social Security Scotland yn cysylltu â chi am symud i ADP ar ryw adeg. Ni allwch hawlio ADP a PIP neu DLA ar yr un pryd. Gallwch wirio eich cymhwysedd am ADP ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes angen i chi wneud cais newydd am ADP, gallwch ddarganfod sut i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Mae dwy ran i PIP:
- Elfen symudedd - sy’n cael ei thalu os ydych angen help i symud o gwmpas. Mae rhai pobl yn ei galw’n lwfans symudedd.
- Elfen bywyd bob dydd - sy’n cael ei thalu os ydych angen help gyda gofal personol.
Rhaid eich bod wedi bod yn cael anhawsterau am o leiaf dri mis a disgwyl iddynt barhau am o leiaf naw mis. Fodd bynnag, os ydych yn derfynol wael gallwch wneud cais am PIP ar unwaith gan ddefnyddio proses llwybr carlam.
Mae dwy gyfradd ar gyfer y naill daliad - bydd pa un a gewch yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’ch anghenion
Elfen bywyd bob dydd | Elfen symudedd |
---|---|
Cyfradd safonol £72.65 |
Cyfradd safonol £28.70 |
Cyfradd uwch £108.55 |
Cyfradd uwch £75.75 |
Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud cais gwelwch wefan Cyngor ar Bopeth
Gostyngiadau ac eithriadau Treth Cyngor
Os oes gennych anabledd, efallai y byddwch yn gymwys i gael mwy nag un o’r gostyngiadau Treth Cyngor a restrir isod.
Gostyngiad person sengl
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, cewch ostyngiad person sengl o 25% ar eich bil treth cyngor.
Mae rhai pobl mewn sefyllfaoedd penodol hefyd yn cael eu ‘diystyru’ ar gyfer treth cyngor. Mae hyn yn golygu, os ydych yn byw gyda un neu fwy o bobl sydd wedi eu ‘diystyru’ cewch eich trin fel petaech yn sengl at ddibenion treth cyngor a chewch ostyngiad o 25% ar eich bil.
Mae pobl sydd â nam meddyliol ac unrhyw un sy’n ofalwr sy’n byw gyda’r cleient (cyn belled nad yw’r gofalwr sy’n byw gyda’r cleient yn bartner i’r person sy’n cael ei gofalu neu’n rhiant i blentyn o dan 18 oed) ymhlith y rhestr o bobl sy’n cael eu ‘diystyru’ ar gyfer Treth Cyngor.
Ni chewch y gostyngiad os oes mwy nag un oedolyn yn byw gyda chi nad yw’n gymwys.
Nid yw’ch incwm na’ch cynilion yn effeithio ar y gostyngiad hwn.
Gallwch wneud cais am hyn hyd yn oed os nad oes gennych anabledd nac anghenion gofal.
Darganfyddwch fwy am bwy sy’n cael eu ‘diystyru’ ar gyfer treth gyngor ar wefan Which?
Eithriad nam meddyliol difrifol
Ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Cyngor os yw’ch doctor yn tystio bod gennych nam meddyliol difrifol, fel clefyd Alzheimer ac rydych yn byw ar eich pen eich hun.
Nid yw’ch incwm na chynilion yn effeithio ar yr eithriad hwn.
Mae rhaid i chi ddefnyddio ffurflen gais arbennig a cewch ostyngiad o 100% os ydych yn gwymwys. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod mwy.
Cynllun gostyngiad bandiau anabl
Efallai y gallwch ddangos bod angen cartref mwy arnoch oherwydd eich anabledd. Er enghraifft, oherwydd bod angen ystafell ychwanegol (fel ystafell wlyb i lawr grisiau) neu le ychwanegol arnoch i fynd o gwmpas mewn cadair olwyn (fel drysau ehangach).
Yn yr achos hwnnw, byddwch yn cael eich trethu fel pe bai’ch cartref mewn band is. Mae hyn yn lleihau’r swm y mae rhaid i chi ei dalu.
Nid yw’ch incwm na chynilion yn effeithio ar y gostyngiad hwn.
Ni fydd rhai addasiadau i’ch cartref yn eich gwneud yn gymwys am y gostyngiad hwn, fel lifft risiau neu ramp cadair olwyn allanol. Bydd y rhestr lawn o beth sy’n eich gwneud yn gymwys yn newid gan ddibynnu ar eich cyngor.
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am Ostyngiad Bandiau Anabl yn Disability Rights UK
Cynllun cymorth/gostyngiad Treth Cyngor
Os yw’ch incwm a’ch cynilion yn isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn eich bil.
Mae cynghorau’n gweithredu eu cynlluniau eu hunain, felly mae maint y gostyngiad yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Os byddwch yn symud yn barhaol i gartref gofal ac nad oes neb yn byw yn eich cartref blaenorol, nid oes rhaid i chi dalu Treth Cyngor.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud cais am ostyngiadau Treth Cyngor
Darganfyddwch eich cyngor lleol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Dim ond i bobl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban y mae Treth Cyngor yn berthnasol.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon a bod eich incwm a’ch cynilion yn isel, efallai y cewch ostyngiad yn eich treth trwy’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi.
Efallai y cewch gymorth ychwanegol os oes gennych anabledd neu os ydych yn ofalwr.
Darganfyddwch fwy am help i dalu am ardrethi yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn
Pensiwn y Wladwriaeth
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi incwm rheolaidd i chi pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych naill ai wedi’u talu yn y gorffennol neu wedi cael eich credydu fel petaech wedi eu talu - er enghraifft, wrth ofalu am blant.
Nid yw’r swm a gewch yn cael ei effeithio gan eich incwm neu gynilion eraill.
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich incwm wythnosol i isfaswm gwarantedig. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.
Credyd Pensiwn yw’r prif fudd-dal prawf modd i bobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn iau na hyn a bod eich incwm a’ch cynilion yn isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau eraill.
Gallwch fod yn gymwys i gael swm uwch o Gredyd Pensiwn - neu fudd-daliadau prawf modd i bobl iau - os ydych yn anabl iawn neu os ydych yn ofalwr.
Nid yw llawer o bobl sydd â hawl i Gredyd Pensiwn yn gwneud cais amdano. Mae hyn yn aml oherwydd nad ydynt yn gwybod amdano,
Fodd bynnag, mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal pwysig iawn. Mae ei gael yn golygu y gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol. Er enghraifft, taliadau ychwanegol i helpu gyda chostau byw, Budd-dal Tai, Trwydded Teledu am ddim a budd-daliadau eraill sy’n dibynnu ar brawf modd.
Gallwch wneud cais ar-lein, dros y ffôn neu trwy’r post.
Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Help gyda chostau tai
Rhent
Os ydych o oedran gweithio, yn rhentu’ch cartref ac mae’ch incwm a’ch cynilion yn isel - efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth â chostau tai. Byddai hyn drwy Gredyd Cynhwysol, i’ch helpu i dalu’ch rhent.
Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn, byddwch hefyd yn cael eich asesu’n awtomatig i weld a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai. Telir hyn gan eich awdurdod lleol. Felly mae’n bwysig i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud cais amdano os ydych yn cael trafferth â’ch rhent.
Morgais
A ydych yn cael Credyd Pensiwn (neu rai budd-daliadau prawf modd eraill), yn berchen ar eich cartref ac mae gennych forgais o hyd? Yna, gallwch wneud cais am gymorth y llywodraeth i dalu’r llog ar eich morgais trwy’r cynllun benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).
Mae defnyddio’r cynllun benthyciad SMI yn golygu bod y llywodraeth yn talu’ch llog morgais am y tro. Rydych yn ad-dalu’r llywodraeth o’r arian pan fydd eich cartref yn cael ei werthu yn y pen draw.
Darganfyddwch fwy am SMI a dewisiadau amgen eraill yn ein canllawiau:
Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)
Help gyda thaliadau morgais
Budd-daliadau eraill
Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau eraill a help gyda chostau iechyd.
Darganfyddwch fwy o’r sefydliadau hyn:
- Am help i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth arall, ewch i wefan Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd
- Darganfyddwch fwy am gymorth gyda chostau iechyd ar wefan GIGYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am fudd-daliadau eraill ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Budd-daliadau i ofalwyr
Os ydych yn gofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl, gall effeithio ar eich sefyllfa ariannol chi hefyd.
Mae cymorth ar gael – nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i’r sawl yr ydych yn gofalu amdanynt nac yn byw gyda’r unigolyn hwnnw.