Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig

Penderfynu beth yw eich statws cyflogaeth

I weithio allan faint o dreth ac Yswiriant Gwladol y dylech ei dalu, yn gyntaf rhaid i chi wybod a ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.

Mae hyn yn ddigon hawdd fel rheol, ond weithiau mae’n fwy cymhleth. Er enghraifft, gallech fod wedi eich cyflogi mewn un swydd ac ar yr un pryd wedi'ch cofrestru fel bod yn hunangyflogedig mewn swydd wahanol.

Mae gan wefan Cyllid a Thollau EM (CThEM) declyn a all bennu eich statws cyflogaeth ar eich cyfer yn seiliedig ar eich atebion i gyfres o gwestiynau.

Byddwch yn wyliadwrus, dangosydd yn unig yw hwn ac ni fydd yn rhoi ateb pendant i chi ar eich statws cyflogaeth.

Cofrestru fel rhywun hunangyflogedig

Rhaid i chi roi gwybod i CThEM cyn gynted ag y byddwch yn dod yn hunangyflogedig.

Y dyddiad olaf y gallwch gofrestru gyda CThEM yw 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y daethoch yn hunangyflogedig.

Er enghraifft, os dechreuoch eich busnes ym mis Mehefin 2021, byddai angen i chi gofrestru gyda CThEM erbyn 5 Hydref 2022.

Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Os cofrestrwch yn rhy hwyr gallech wynebu cosb.

I gofnodi gyda CThEM, ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Faint allwch ei ennill yn ddi-dreth os ydych yn hunangyflogedig?

Os ydych yn hunangyflogedig, mae gennych hawl i gael yr un Lwfans Personol di-dreth â rhywun cyflogedig.

Ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24 y Lwfans Personol safonol yw £12,570. Eich Lwfans Personol yw faint y gallwch ei ennill cyn i chi ddechrau talu treth.

Os enillwch dros £100,000, tynnir £1 oddi ar y Lwfans Personol safonol o £12,570 am bob £2 o incwm dros £100,000 ar gyfer y flwydd dreth 2023/24.

Fodd bynnag, os oes gennych chi ddwy swydd ac mae un ohonynt yn hunangyflogedig, yna mae pethau ychydig yn fwy cymhleth.

Un Lwfans Personol gewch chi, sy’n gysylltiedig fel arfer i’r swydd a ystyrir gan CThEM fel eich prif gyflogaeth.

Mae’n arferol bod eich Lwfans Personol yn cael ei gysylltu â’r swydd sy’n talu fwyaf i chi.

Y ffordd hawsaf i wirio hyn yw drwy edrych ar y cod treth. Dylai’r cod treth 1257L fod wedi ei nodi yn erbyn eich prif swydd ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24. Bydd y cod treth BR, D0 neu D1 wedi ei nodi yn erbyn eich ail swydd.

Lwfans Masnachu ac Eiddo

Gallwch ennill hyd at £1,000 ychwanegol yn ddi-dreth drwy’r hyn a elwir yn lwfans masnachu neu eiddo.

Os yw eich incwm yn llai na £1,000, nid oes angen i chi ei ddatgan.

Os yw eich incwm yn fwy na £1,000, bydd angen i chi gofrestru gyda CThEM a llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio, os ydych yn hawlio’r lwfans hwn, ni allwch ddidynnu treuliau busnes.

A yw eich treuliau yn fwy na £1,000? Yna, rydych fel arfer gwell eich byd peidio â hawlio’r lwfans hwn ac yn didynnu eich treuliau ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Treth incwm pan rydych yn hunangyflogedig

Pan rydych yn hunangyflogedig, rydych yn talu treth incwm ar eich elw masnachu - nid ar eich holl incwm.

I gyfrifo’ch elw, didynnwch dreuliau a ganiateir eich busnes o gyfanswm eich incwm. Dyma’r swm y byddwch yn talu treth incwm arno.

Mae’r swm o dreth incwm y talwch ar eich elw'r un fath â phetaech yn gyflogedig.

Mae’r tabl isod yn dangos cyfraddau Treth Incwm, yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill. 

Cyfradd 2023/24 2023/24

Lwfans personol: 0%    

£0 i £12,570 ni fyddwch yn talu treth incwm ar eich elw

£0 to £12,570 ni fyddwch yn talu treth incwm ar eich elw

Lwfans sylfaenol: 20%

£12,571 i £50,270 byddwch yn talu 20% treth ar eich elw

£12,571 to £37,700 byddwch yn talu 20% treth ar eich elw

Lwfans uwch: 40%

£50,001 i £150,000 byddwch yn talu 40% treth ar eich elw

£37,701-£125,140 byddwch yn talu 40% treth ar eich elw

Cyfradd ychwanegol: 45%

Dros £150,000 byddwch yn talu 45% treth ar eich elw

Dros £125,140 byddwch yn talu 45% treth ar eich elw

Cofiwch nid ydych yn talu Treth Incwm ar yr un gyfradd ar eich holl elw masnachu. Rydych dim ond yn talu'r gyfradd Treth Incwm ar eich elw masnachu sydd yn y braced. Er enghraifft, os ydych yn ennill £55,000 y flwyddyn mae’r Dreth Incwm a delir am 2023/24 gennych yn cael ei weithio allan fel a ganlyn:

Elw masnachu Band treth incwm Treth rydych yn ei dalu

Hyd at £12,570

0%

Dim Treth Incwm ar y £12,570 cyntaf

Rhwng £12,571 a £50,270

20%

Treth Incwm o 20% ar eich elw masnachu nesaf o £37,500.

(£50,270–£12,570 = £37,700)

Rhwng £50,001 a £125,140

40%

Treth Incwm o 40% ar y £4,730 olaf.

(£55,000–£50,270=£4,730)

Cyfrifwch eich cyfraniadau Treth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn hunangyflogedig ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn byw yng Nghymru, mae eich cyfraddau Treth Incwm nawr yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, maent yr un peth a rhai Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24.

Os ydych yn byw yn yr Alban, mae eich cyfraddau Treth Incwm yn cael eu pennu gan Lywodraeth yr Alban ac maent yn wahanol.

Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am y cyfraddau Treth Incwm gwahanol y byddwch yn ei dalu yn ein canllaw Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol yn yr Alban.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych yn hunangyflogedig

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn talu am rai budd-daliadau penodol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Cynhwysol.

Mae rhai budd-daliadau penodol hefyd yn seiliedig ar y cyfraniadau a wnaed gennych.

A yw gweithwyr hunangyflogedig yn talu Yswiriant Gwladol?

Ydyn, mae’r rhan helaeth o bobl hunangyflogedig yn talu NICs Dosbarth 2 os yw eu helw yn £6,725 o leiaf yn ystod y flwyddyn dreth 2022/23. Neu £6,725 yn y flwyddyn dreth 2023/24.

Os ydych dros y trothwy hwn, yna fe dalwch £3.15 yr wythnos, neu £163.80 y flwyddyn ar gyfer 2022/23 (£3.45 yr wythnos neu £179.40 y flwyddyn am 2023/24).

Mae talu cyfraniadau Dosbarth 2 yn wirfoddol i bobl hunangyflogedig sydd ag elw o dan y Trothwy Elw Bach. Mae talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, hyd yn oed os ydy’ch elw yn isel, yn gallu helpu adeiladu hawliau cyfrannol i fudd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth.

Os yw eich elw yn £11,908 neu fwy yn 2022/23 (£12,570 yn 2023/24), byddwch hefyd yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4.

Os ydych dros y trothwy hwn, fe dalwch 9% ar elw rhwng £11,908 a £50,270 yn y flwyddyn dreth 2022/23 (£12,570 a £50,270 yn 2023/24) a 2% ar unrhyw beth uwchben hynny.

O fis Ebrill 2024, os ydych yn hunangyflogedig:

  • ni fydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 mwyach
  • bydd cyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yn cael ei dorri 1%.

Sut i dalu treth ac Yswiriant Gwladol fel rhywun hunangyflogedig

Treth Gorfforaeth

Ydych chi’n rhedeg cwmni cyfyngedig preifat (Ltd) neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP)? Yna, byddwch hefyd angen talu Treth Gorfforaeth ar elw eich busnes.

Efallai byddwch hefyd angen cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad am unrhyw arian rydych yn ei ennill trwy’r cwmni. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.