Ymddeol yn gynnar

Gall ymddeol yn gynnar ymddangos fel syniad da os cewch eich diswyddo neu rydych eisiau newid. Ond mae’n bwysig pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision. Treuliwch amser yn ystyried yn ofalus sut y byddwch yn ymdopi’n ariannol a sut allai hyn effeithio ar eich ffordd o fyw

Ymddeol yn gynnar – y manteision a’r anfanteision

Efallai y bydd gennych nifer o resymau da dros ymddeol yn gynnar.

Gall fod yn ddewis deniadol os nad ydych yn hoffi eich swydd, os ydych yn teimlo awydd newid eich ffordd o fyw neu os ydych yn meddwl y bydd yn fwy llesol i’ch iechyd.

Ond beth bynnag yw’r rhesymau, mae’n bwysig hefyd ystyried yr ochr negyddol – ac mae rhai cymharol fawr. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Pensiwn llai. Rydych yn debygol o gael pensiwn llai na phetaech yn gweithio hyd yr oed ymddeol arferol. Mae hyn oni bai bod eich cyflogwr yn cynnig pecyn wedi’i gynyddu’n sylweddol.
  • Dim Pensiwn y Wladwriaeth ar gael ar unwaith. Yr oedran ieuengaf y gallwch ddechrau cymryd pensiwn y gweithle yw 55 oed. Ond ni chewch Bensiwn y Wladwriaeth hyd nes y byddwch yn cyrraedd eich oedran pensiwn y wladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd

Buddion ymddeol yn gynnar eraill ddylech chi fod yn ymwybodol ohonynt

Bydd llawer o gyflogwyr yn ceisio gwneud eich pecyn ymddeol yn gynnar yn fwy deniadol trwy ychwanegu rhai cymhellion.

Bydd y cymhelliant y maent yn ei gynnig i chi yn dibynnu pa fath o bensiwn gweithle rydych ynddo.

Mae dau fath - cyfraniadau wedi’u diffinio a buddion wedi’u diffinio. Gallai’r cymhellion y mae eich cyflogwr yn eu cynnig gynnwys, er enghraifft:

  • rhoi cyfandaliad yn eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio i gynyddu gwerth eich cronfa
  • buddion pensiwn sy’n gweithio allan fel petaech wedi gweithio hyd oedran ymddeol arferol (petai gennych gynllun buddion wedi’u diffinio)

Bydd y naill gymhelliant neu’r llall yn rhoi gwell pensiwn i chi nag y buasai gennych hawl iddo fel arall.

Gofynnwch i’ch cyflogwr pa fath o bensiwn sydd gennych a pha fath o gymhellion sy’n cael eu cynnig.

Gwneud penderfyniad am ymddeol yn gynnar – ystyriwch yr holl ffeithiau

Wrth ystyried ymddeol yn gynnar, mae’n hawdd cael eich dylanwadu gan freuddwydion am aeaf yn yr haul, treulio dyddiau yn yr ardd neu fwy o amser gyda’ch teulu.

Yr hyn sydd ei angen yma, fodd bynnag, yw bod yn bwyllog ac agwedd ddisgybledig. Mae rhestr wirio yn syniad da.

Cyfrifwch faint o incwm fydd gennych

Mae eich incwm cyfan yn debygol o fod yn fwy cymhleth nag yr oedd pan oeddech chi ond yn derbyn eich cyflog ar ddiwedd bob mis.

Efallai eich bod yn cael incwm o fwy nag un pensiwn, yn ogystal ag o gynilion a budd-daliadau neu o swydd ran-amser.

Y cam cyntaf, felly, yw gweld beth yw’r cyfanswm.

  • Gofynnwch i’ch cyflogwr am eglurhad o’r pensiwn a gewch os ydych yn dewis ymddeol yn gynnar.
  • Gofynnwch am ragolwg o unrhyw bensiynau eraill sydd gennych os ydych yn bwriadu cychwyn y rheiny’n gynnar hefyd. Er enghraifft, pensiwn personol neu un gan gyflogwr blaenorol.
  • Os penderfynwch brynu blwydd-dal neu byddwch yn derbyn taliadau o bensiwn buddion wedi’u diffinio, dylech wirio a oes ganddynt gynnydd wedi ei gynnwys bob blwyddyn. Efallai yr hoffech oedi hawlio rhai pensiynau am y tro neu hyd yn oed cynilo’n ychwanegol os nad ydynt

Cyfrifwch eich ymrwymiadau ariannol a chostau rheolaidd

Bydd y ffordd rydych chi’n gwario eich arian yn newid os nad ydych yn mynd i’r gwaith bob dydd.

Er enghraifft, er bod costau teithio efallai yn lleihau, gall biliau cartref gynyddu.

Bydd yn rhaid i chi feddwl hefyd am golli buddion y gweithle, fel ffreutur gyda gostyngiadau, car cwmni neu yswiriant iechyd.

Yna ceir costau’r ffordd o fyw rydych chi am ei dilyn wedi ymddeol.

Darganfyddwch faint y gallai fod ei angen arnoch yn ddiweddarach mewn bywyd a faint fyddwch chi’n mynd i’w gael gyda’n Cyfrifiannell Pensiynau.

Darganfyddwch pryd y cewch chi gasglu eich Pensiwn y Wladwriaeth

Mae oed ymddeol y wladwriaeth yn codi. O 2020 ymlaen, oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a merched yw 66, gan godi i 67 erbyn 2028, a 68 ar ôl hynny. Bydd yr oedran y byddwch yn gallu casglu'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar pryd y cawsoch eich geni.

Eich dewisiadau pensiwn

Os ydych yn ymddeol yn gynnar, byddwch angen penderfynu beth i’w wneud gyda’ch cronfa bensiwn.

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, byddwch yn gallu tynnu cymaint o arian ag a fynnwch ohono.

Bydd chwarter yr hyn a gymerwch allan yn ddi-dreth. Mae’r gweddill yn drethadwy.

Ymddeoliad graddol

Mae llawer o bobl yn hoffi ymddeol yn raddol, heb roi’r gorau i waith yn gyfan gwbl..

Efallai bod cynllun eich gweithle yn caniatáu i chi dynnu dim ond rhan o’ch pensiwn am y tro, gan gynyddu’r swm yn nes ymlaen.

Os na, efallai yr hoffech ystyried trosglwyddo i bensiwn personol o’ch dewis chi.

Fodd bynnag, byddwch yn ofalus rhag trosglwyddo pe bai hynny’n golygu rhoi’r gorau i bensiwn gwerthfawr neu warantau.

Dewis arall fyddai mynd am gynnig ymddeoliad cynnar eich cyflogwr ac yna chwilio am swydd arall – efallai rhan-amser.

Ceisiwch gyngor

Gall cynllunio pensiwn fod yn gymhleth.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn â beth i’w wneud, mae’n bwysig i chi siarad ag ymgynghorwr ariannol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau mawr.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.