Os yw’r busnes lle rydych yn gweithio’n cael amser tawel, efallai bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio llai o oriau bob wythnos (sef gweithio amser byr) neu gymryd diwrnodau cyfan i ffwrdd o’r gwaith (sef terfynu cyflogaeth dros dro).
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Gweithio amser byr
- Terfynu cyflogaeth dros dro
- Cam 1 – Cael cyngor
- Cam 2 – Darllen eich contract
- Cam 3 – Hawlio’r hyn sydd ar gael i chi
- Cam 4 – Hawlio unrhyw fudd-daliadau a chredydau treth
- Beth i’w ystyried os byddwch yn wynebu llai o oriau
- Am ba hyd y gellir eich rhoi ar oriau llai?
- Ffyrlo
- Newidiadau yn eich contract
- Beth petaech chi a’ch cyflogwr yn anghytuno?
Gweithio amser byr
Mae gweithio amser byr yn golygu bod eich cyflogwr yn cwtogi’ch oriau gweithio.
Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi weithio dri diwrnod yr wythnos, yn hytrach na phum diwrnod.
Os collwch eich swydd, neu'ch rhoddir i weithio amser byr, mae gennych yr hawl i gael tâl llawn oni bai bod eich cytundeb yn dweud y gellir gofyn i chi gymryd absenoldeb heb dâl neu derfynu eich cyflogaeth dros dro â llai o gyflog.
Darganfyddwch fwy am y cymorth sydd ar gael yn ystod yr achos o goronafeirws os ydych yn weithiwr cyflogedig
Terfynu cyflogaeth dros dro
Os nad oes digon o waith i chi, gallai’ch cyflogwr ofyn i chi beidio â dod i’r gwaith, neu gymryd absenoldeb heb dâl.
Terfynu cyflogaeth dros dro yw pan fyddwch i ffwrdd o’r gwaith am isafswm o un diwrnod gwaith.
Darganfyddwch fwy am derfynu cyflogaeth dros dro, gweithio amser byr, tâl gwarant a’ch hawliau ar wefan GOV.UK
Cam 1 – Cael cyngor
Mae’n bwysig peidio â gwneud unrhyw benderfyniadau byrbwyll. Os oes gennych un, trafodwch eich dewisiadau â’ch cynrychiolydd cyflogeion neu’ch undeb. A rhowch amser o’r neilltu i drafod y peth â’ch teulu – gan bydd yn effeithio arnynt hefyd.
I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth edrychwch ar workSMART canllaw’r TUC i bob agwedd ar eich hawliau cyflogaeth
Cam 2 – Darllen eich contract
A all eich cyflogwr gwtogi’ch oriau, neu derfynu eich cyflogaeth dros dro? Yr ateb syml yw – dim ond os yw’ch contract cyflogaeth yn caniatáu hynny.
Os na, bydd rhaid i’ch cyflogwr negodi newid yn eich contract.
Yn nodweddiadol, bydd hyn yn cynnwys llawer o aelodau staff. Bydd rhaid iddynt hwy, neu eu hundeb, gytuno i’r trefniant newydd.
Dylech hefyd holi a yw’ch contract yn eich caniatáu i dderbyn swydd arall â thâl tra byddwch yn gweithio llai o oriau.
Cam 3 – Hawlio’r hyn sydd ar gael i chi
Mae gan gyflogeion sy'n cael eu diswyddo neu'n cael eu rhoi ar waith amser byr hawl i dalu am ddiwrnodau nad ydynt yn gweithio o gwbl. Gelwir hyn yn 'dâl gwarant statudol' a dyma'r isafswm cyfreithiol y mae rhaid i gyflogwr ei dalu.
Mae’n cael ei dalu am uchafswm o bum diwrnod mewn unrhyw gyfnod tri mis, ac mae’n cael ei gapio ar £30 y dydd am 5 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 3 mis - felly uchafswm o £150.
Bydd gweithwyr sydd fel arfer yn ennill llai na £30 y dydd yn cael eu cyfradd ddyddiol arferol.
Os yw gweithwyr yn gweithio'n rhan-amser, cyfrifir eu hawl yn gymesur â'u horiau rhan-amser.
Fodd bynnag, gallech gael mwy na hynny os yw wedi’i nodi yn eich contract cyflogaeth.
Cam 4 – Hawlio unrhyw fudd-daliadau a chredydau treth
Credyd Cynhwysol
Efallai gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gweithio amser byr neu os terfynwyd eich cyflogaeth dros dro.
Os oes angen help arnoch â phethau fel costau tai neu fagu plant, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Credydau treth
Os ydych yn cael credydau treth, mae rhaid i chi gysylltu â Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0345 300 3900 os yw eich incwm neu’ch oriau gwaith wedi cael eu heffeithio.
Os yw hwn yn ostyngiad dros dro o hyd at bedair wythnos, ni ddylai effeithio ar eich credydau treth.
Beth i’w ystyried os byddwch yn wynebu llai o oriau
Yn ôl pob tebyg, arian fydd ar frig eich rhestr. Sut bydd llai o oriau’n effeithio ar incwm eich cartref?
Os oes swyddi eraill ar gael lle rydych yn byw, efallai byddwch yn cael eich temtio i adael – hyd yn oed am ychydig llai o arian.
Ond cofiwch, os byddwch yn gadael o’ch gwirfodd, gallech golli hawliau dileu swydd gwerthfawr.
Am ba hyd y gellir eich rhoi ar oriau llai?
Gan ddibynnu ar eich contract, nid oes terfynau ar yr amser y gallwch fod yn gweithio oriau byr neu y gall eich cyflogaeth gael ei therfynu dros dro.
Fodd bynnag, os ydych wedi bod yn y sefyllfa hon am bedair wythnos yn olynol (neu chwe wythnos heb fod yn olynol mewn cyfnod o 13 wythnos), dylech fod yn gallu hawlio tâl dileu swydd os penderfynwch eich bod wedi cael llond bol.
Ffyrlo
Galluogodd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, neu gynllun ffyrlo, cyflogai nad oeddent yn gallu gweithio oherwydd y pandemig i barhau i dderbyn hyd at 80% o’u cyflog. Daeth y cynllun ffyrlo i ben ym mis Medi 2021.
Newidiadau yn eich contract
Efallai bydd eich cyflogwr am newid y telerau yn eich contract, fel torri’ch tâl neu newid i weithio rhan-amser, ond ni all wneud hynny heb eich caniatâd.
Cyn cytuno i newid, holwch eich cyflogwr sut byddai’n effeithio ar unrhyw hawliau a buddion cysylltiedig â thâl y gallwch eu hawlio, fel
- tâl salwch
- tâl diswyddo yn y dyfodol, a
- cyfraniadau pensiwn y cyflogwr
Beth petaech chi a’ch cyflogwr yn anghytuno?
Ni all eich cyflogwr gyflwyno newid yn eich contract heb eich bod yn cytuno.
Fodd bynnag os byddant yn gwneud newidiadau a na fyddwch yn gwneud nac yn dweud dim, efallai caiff ei weld fel eich bod yn derbyn y newidiadau.
Mae’n bwysig gwybod eich hawliau felly siaradwch â’ch cynrychiolydd undeb llafur, os oes un gennych. Neu cysylltwch ag un o’r gwasanaethau cynghori gweithle:
- Ffoniwch Linell Gymorth Acas ar 0300 123 1100 neu fynd i wefan Acas (Cymru, Lloegr, a’r Alban).
- Ffoniwch y Labour Relations Agency Helpline ar 028 9032 1442 neu fynd i wefan y Labour Relations Agency (Gogledd Iwerddon).