Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Cymryd eich pensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Cymryd eich pensiwn

Gwiriwch am nodweddion arbennig cyn cymryd neu drosglwyddo’ch pensiwn

Mae rhai pensiynau yn cynnwys nodweddion arbennig gwerthfawr a allai gael eu colli os byddwch chi'n cymryd arian yn rhy gynnar neu'n trosglwyddo i ddarparwr arall. Gall hyn effeithio ar faint rydych chi'n ei gael a'ch opsiynau ar gyfer cymryd arian. Dyma beth i wirio amdano. 

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn am fanylion eich buddion 
  • Gwiriwch sut mae eich pensiwn yn gweithio – efallai bod gennych fath arbennig 
  • Gwiriwch a oes gan eich cynllun pensiwn unrhyw warantau neu fonysau 
  • Gwiriwch a oes gan eich cynllun pensiwn unrhyw amddiffyniadau 
  • Cael arweiniad am ddim ar gymryd eich pensiwn a throsglwyddiadau  
  • Ystyriwch dalu am gyngor ariannol 

Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn am fanylion eich buddion 

Mae nodweddion arbennig fel arfer wedi'u rhestru yn eich dogfennau polisi pensiwn gwreiddiol neu reolau'r cynllun. Ond fel arfer nid ydynt yn cael eu hegluro ar unrhyw ddatganiadau blynyddol y gallech fod wedi'u derbyn. 

Mae hyn yn golygu y gall fod yn hawdd methu cyfyngiadau, amodau neu warantau y gallai fod gan eich pensiwn.

Osgoi rhoi’r gorau i fuddion nad oeddech chi’n sylweddoli bod gennych  

Cyn penderfynu trosglwyddo neu gymryd arian o'ch pensiwn, cysylltwch â'ch darparwr neu weinyddwyr y cynllun bob amser a gofynnwch iddynt esbonio: 

  • y buddion sy'n berthnasol i chi 
  • sut rydych chi'n gymwys ar eu cyfer – er enghraifft, aros i gymryd arian ar ôl dyddiad penodol 
  • os byddech yn colli unrhyw fuddion trwy drosglwyddo'ch pensiwn i ddarparwr newydd. 

Mae hyn yn bwysig er mwyn osgoi rhoi'r gorau i fuddion nad oeddech chi'n sylweddoli bod gennych. 

Er enghraifft, os nad yw darparwr newydd yn cynnig yr holl nodweddion sydd gan eich cynllun ar hyn o bryd, byddech chi'n colli'r buddion hynny trwy drosglwyddo'ch pensiwn. 

Nol i’r brig

Gwiriwch sut mae eich pensiwn yn gweithio – efallai bod gennych fath arbennig 

Mae sut a phryd y gallwch gymryd eich pensiwn yn dibynnu ar y math sydd gennych. Mae gan rai pensiynau reolau neu nodweddion arbennig sy'n effeithio ar eich opsiynau. 

Mae dau brif fath o bensiwn: 

  • cynlluniau cyfraniadau wedi'u diffinio, lle mae'r swm rydych chi'n ei gael yn dibynnu ar faint sy'n cael ei dalu, pa mor dda mae'r buddsoddiadau yn perfformio a sut rydych chi'n dewis cymryd yr arian  
  • cynlluniau buddion wedi'u diffinio, lle rydych chi'n cael incwm ymddeol rheolaidd gwarantedig yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir y gwnaethoch weithio i'r cyflogwr hwnnw.  

Ond efallai y bydd gennych amrywiad gwahanol, megis: 

  • Pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio gyda rhywfaint o incwm sydd wedi'i warantu, a elwir yn aml yn bensiwn hybrid. 
  • Contract blwydd-dal ymddeol lle efallai y bydd angen i chi hawlio rhyddhad treth eich hun. Caeodd y rhain ym 1988 ond efallai y bydd gennych un y gallwch dalu i mewn iddo.  
  • Polisi allbryniad lle mae yswiriwr yn rhedeg eich pensiwn, fel arfer i alluogi’ch cyflogwr gau eu cynllun i lawr. Mae hyn yn golygu y bydd fel arfer yn gweithio yn yr un ffordd â'ch pensiwn gwreiddiol.   

Bydd eich darparwr pensiwn neu weinyddwyr cynllun yn gallu esbonio'r union fath sydd gennych. 

Nol i’r brig

Gwiriwch a oes gan eich cynllun pensiwn unrhyw warantau neu fonysau 

Os yw'ch pensiwn yn cynnig unrhyw warantau neu fonysau, gall y rhain fod yn werthfawr. Maent hefyd yn annhebygol o gael eu cynnig gan ddarparwyr eraill, felly gallech golli'r buddion hyn trwy drosglwyddo'ch pensiwn i rywle arall. 

Oherwydd hyn, os yw'ch pensiwn yn werth dros £30,000 ac mae ganddo rai gwarantau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gyngor ariannol cyn y gallwch ei drosglwyddo. 

Incwm ymddeol gwarantedig 

Dyma lle bydd eich pensiwn yn bendant yn talu swm penodol pan fyddwch yn cyrraedd oedran ymddeol arferol eich cynllun. Er enghraifft, cyfandaliad, incwm rheolaidd neu'r ddau. 

Mae hyn yn fwyaf cyffredin mewn cynlluniau buddion wedi'u diffinio, ond gallai rhai pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio gynnwys math o incwm gwarantedig. 

Cyfraddau blwydd-dal gwarantedig ar gyfer incwm rheolaidd uwch

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, fel arfer gallwch ddewis sut a phryd i gymryd eich arian. Un opsiwn yw trosi rhywfaint neu'r cyfan o'ch pensiwn yn incwm gwarantedig trwy brynu blwydd-dal.  

Mae swm yr incwm y byddwch chi'n ei gael yn dibynnu ar y gyfradd blwydd-dal y bydd darparwr yn ei roi i chi ar y pryd, sy'n seiliedig ar bethau fel eich oedran, iechyd a chyfraddau llog y farchnad. Er enghraifft, byddai cyfradd blwydd-dal o 5% yn rhoi incwm blynyddol o £500 i chi am bob £10,000 rydych chi'n ei drosi. 

Ond mae rhai cynlluniau pensiwn yn cynnig cyfraddau blwydd-dal gwarantedig (GARs), a oedd fel arfer yn cael eu gosod ar ddechrau'r polisi. Gan fod cyfraddau blwydd-dal wedi gostwng yn gyffredinol dros amser, gallai cyfradd blwydd-dal gwarantedig gynnig incwm uwch i chi nag y gallech ei gael trwy siopa o gwmpas heddiw.   

Gwiriwch bob amser a yw'ch cynllun yn cynnig GAR ac a oes unrhyw amodau i'w ddefnyddio. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gymryd y blwydd-dal ar oedran penodol, ei brynu gan y darparwr gwreiddiol neu dderbyn math penodol o flwydd-dal.  

Isafswm Pensiwn Gwarantedig 

Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, efallai y bydd gan eich cynllun isafswm y mae'n rhaid iddo ei dalu os gwnaethoch eithrio o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth rhwng: 

  • 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 1997 – a elwir yn Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP) 
  • 6 Ebrill 1997 a 5 Ebrill 2016 – a elwir yn hawliau Adran 9(2B). 

Mae hyn oherwydd, drwy eithrio, mae eich cyfraniad i'r rhan hon o Bensiwn y Wladwriaeth yn mynd i'ch pensiwn preifat yn lle hynny. 

Er mwyn sicrhau nad oeddech chi'n colli allan, mae'r isafswm gwarantedig hwn fel arfer yr un fath, neu'n fwy na, y swm o Bensiwn y Wladwriaeth y byddech wedi'i gael pe na baech wedi eithrio. 

Taliadau bonws o gronfeydd gydag-elw 

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio , mae eich arian yn cael ei fuddsoddi felly dylai dyfu dros amser. 

Fel arfer nid oes unrhyw warantau gyda buddsoddi, felly gall gwerth eich pensiwn ostwng neu godi nes i chi gymryd yr arian. 

Ond os yw'ch darparwr pensiwn yn defnyddio cronfeydd gydag-elw, mae hyn yn aml yn golygu na fydd y gwerth yn disgyn yn is na'r swm sydd wedi'i dalu fewn. 

Yn lle hynny, ychwanegir taliad bonws os yw'r buddsoddiadau'n perfformio'n dda. Mae hyn fel arfer ychydig o weithiau y flwyddyn ond gallai gynnwys bonws aeddfedrwydd terfynol ar ddyddiad penodol. 

Gwiriwch bob amser sut mae unrhyw fonysau yn gweithio a phryd y byddant yn cael eu cymhwyso. Er enghraifft, os ydych chi'n trosglwyddo neu'n cymryd eich pensiwn cyn i fonws gael ei gymhwyso, byddwch fel arfer yn ei golli. 

Efallai na fydd eich datganiad pensiwn hefyd yn dangos gwir werth eich pensiwn os nad yw'n cynnwys y bonysau hyn. Gofynnwch i'ch darparwr esbonio'r rheolau i chi bob amser. 

Taliadau gwarantedig ar ôl i chi farw (buddion marwolaeth) 

Bydd rhai pensiynau yn gwarantu talu incwm neu gyfandaliad i'ch dibynyddion neu fuddiolwyr eraill ar ôl i chi farw. Gelwir y rhain yn fuddion marwolaeth. 

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth sy’n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw?
Nol i’r brig

Gwiriwch a oes gan eich cynllun pensiwn unrhyw amddiffyniadau 

Mae rheolau pensiwn wedi newid dros amser. Os wnaethoch ymuno â'ch cynllun dipyn yn ôl, efallai y byddech wedi cadw rhai o'r telerau hŷn, mwy hael. Gelwir y rhain yn amddiffyniadau. 

Gallech golli'r amddiffyniadau hyn os byddwch chi'n trosglwyddo'ch pensiwn i ddarparwr newydd, felly mae'n werth gwirio cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau. 

Arian parod di-dreth wedi’i warchod – cymerwch fwy na 25% o’ch pensiwn yn ddi-dreth 

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o bob un o'ch pensiynau heb dalu Treth Incwm, cyn belled â'i fod yn cael ei gymryd fel cyfandaliadau ac nad yw'r cyfanswm yn fwy na'r lwfans cyfandaliad (LSA) – sydd ar hyn o bryd yn £268,275 i ran fwyaf o bobl.  

Ond mae gan rai cynlluniau pensiwn swm arian parod di-dreth wedi'i warchod, a allai adael i chi gymryd mwy na 25% yn ddi-dreth. 

Byddwch yn ymwybodol bod y mwyaf y byddwch chi'n ei gymryd fel cyfandaliad di-dreth nawr, y lleiaf y bydd gennych i ddarparu eich incwm ymddeoliad yn nes ymlaen.

Oedran pensiwn gwarchodedig – cymerwch eich pensiwn cyn 55 oed 

Y cynharaf y gallwch chi gymryd arian o'ch pensiwn fel arfer yw 55 oed (yn codi i 57 o fis Ebrill 2028). Gelwir hyn yn isafswm oedran pensiwn arferol (NMPA). 

Ond efallai y byddwch yn gallu cymryd eich pensiwn yn gynharach os: 

  • mae angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael, neu  
  • mae gan eich cynllun pensiwn NMPA gwarchodedig sy'n caniatáu mynediad cynharach. 

O 6 Ebrill 2028, mae'r NMPA yn codi i 57 oed. Os ydych chi'n 55 neu 56 oed pan fydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch chi'n colli mynediad i’ch pensiwn nes i chi droi'n 57 oed – hyd yn oed os ydych eisoes wedi cymryd arian. Gwiriwch gyda'ch darparwr pensiwn i ddeall sut mae hyn yn effeithio arnoch chi. 

Nol i’r brig

Cael arweiniad am ddim ar gymryd eich pensiwn a throsglwyddiadau  

Am gymorth cam wrth gam gyda throsglwyddiadau pensiwn, gweler ein canllaw A ddylwn i drosglwyddo neu gyfuno fy mhensiynau?

Am help gyda chymryd eich pensiwn, gweler Sut i gymryd eich pensiwn: canllaw cam wrth gam.

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn y DU, rydym hefyd yn cynnig apwyntiadau Pension Wise am ddim i'ch helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich arian. 

Cysylltwch â'n harbenigwyr pensiwn am gymorth am ddim 

Gallwch gysylltu â'n harbenigwyr pensiwn am gymorth ac arweiniad am ddim – does dim bwys pa fath o bensiwn sydd gennych neu beth yw eich oed. 

Gallwch:

  • ddefnyddio ein gwesgwrs neu WhatsApp
  • ffonio ar 0800 756 1012 neu +44 (0)20 7932 5780 os ydych tu allan i’r DU
  • defnyddiwch ein ffurflen ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd

Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig

Ystyriwch dalu am gyngor ariannol 

Gall y penderfyniad ynghylch pryd a sut i gymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus fydd eich ymddeoliad.    

Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad, gan gynnwys:    

  • argymell cynhyrchion a darparwyr i’w defnyddio
  • cynghori ble i fuddsoddi eich arian
  • egluro eich opsiynau i leihau’r dreth y gallech fod angen ei thalu.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd pensiwn neu ymddeoliad
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a’n gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn ei wneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cymryd eich pensiwn

Sut i gymryd eich pensiwn

  • Sut i ddod o hyd i’r cytundeb gorau wrth gymryd eich pensiwn
  • Sut i gymryd eich pensiwn: canllaw cam wrth gam
  • Gwiriwch am nodweddion arbennig cyn cymryd neu drosglwyddo'ch pensiwn
  • Sut i fuddsoddi eich pensiwn ar ôl tynnu arian allan
Looking for us? Now, we’re MoneyHelper

MoneyHelper is the new, easy way to get clear, free, impartial help for all your money and pension choices. Whatever your circumstances or plans, move forward with MoneyHelper.

Continue to website
Looking for us? Now, we’re MoneyHelper

MoneyHelper is the new, easy way to get clear, free, impartial help for all your money and pension choices. Whatever your circumstances or plans, move forward with MoneyHelper.

Continue to website
Looking for us? Now, we’re MoneyHelper

MoneyHelper is the new, easy way to get clear, free, impartial help for all your money and pension choices. Whatever your circumstances or plans, move forward with MoneyHelper.

Continue to website

Sut i gymryd eich pensiwn

  • Sut i ddod o hyd i’r cytundeb gorau wrth gymryd eich pensiwn
  • Sut i gymryd eich pensiwn: canllaw cam wrth gam
  • Gwiriwch am nodweddion arbennig cyn cymryd neu drosglwyddo'ch pensiwn
  • Sut i fuddsoddi eich pensiwn ar ôl tynnu arian allan
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012