Os bydd problem gyda’ch pensiwn, mae yna sefydliadau a all eich helpu. Darganfyddwch wrth bwy y gallwch gwyno a’r hyn i’w ddisgwyl.
Cwynion Pensiwn y Wladwriaeth
Am y rhan fwyaf o broblemau Pensiwn y Wladwriaeth, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 0469Yn agor mewn ffenestr newydd neu ymweld â GOV.UK am ragor o wybodaeth gyswlltYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n anhapus gyda'r canlyniad, gallwch ofyn i'ch cwyn fynd at uwch-reolwrYn agor mewn ffenestr newydd ac apelio at yr Archwiliwr Achos Annibynnol.
Problemau gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol
Os yw'ch cwyn yn ymwneud â'ch cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi gwyno i CThEFYn agor mewn ffenestr newydd yn lle.
Cwynion pensiwn cyfraniadau diffiniedig
Mae sut i gwyno yn dibynnu ar y broblem rydych chi'n ei hwynebu
Os ydych chi'n anhapus am sut mae'ch cynllun pensiwn yn cael ei redeg
Dilynwch y camau hyn i gwyno am y cynllun pensiwn ei hun:
- Cysylltwch â'r cwmni wnaethoch ddefnyddio i ymuno â'r cynllun pensiwn - fel arfer y darparwr pensiwn neu gynghorydd ariannol. Mae Resolver yn wasanaeth rhad ac am ddimYn agor mewn ffenestr newydd a all eich helpu i wneud eich cwyn.
- Os na allwch ddatrys y broblem, gallwch fynd â'ch cwyn i'r Ombwdsmon PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, bydd angen i chi wneud hyn o fewn tair blynedd i'r broblem ddigwydd gyntaf, neu pan oeddech yn ymwybodol o'r mater am y tro cyntaf.
Os ydych chi'n credu bod eich pensiwn wedi'i gamwerthu
Os ydych chi'n credu eich bod wedi cael gwybodaeth anghywir neu eich cynghori ar gam am eich pensiwn, dilynwch y camau hyn:
- Cwynwch wrth y darparwr pensiwn neu'r cynghorydd ariannol, os gwnaethoch ddefnyddio un.
- Os ydych chi'n anhapus â'u hatebYn agor mewn ffenestr newydd, gallwch fynd â'ch cwyn at Financial Ombudsman Service (FOS) am ddim.
Er enghraifft, gallech gwyno os cawsoch eich cynghori i gymryd pensiwn personol pan ddylech fod wedi ymuno â'ch cynllun gweithle.
Os yw'ch darparwr pensiwn wedi mynd i'r wal
Os yw'ch darparwr pensiwn wedi mynd allan o fusnes ac methu talu'ch pensiwn, gallwch wneud cais i'r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd
Gweld Pa mor ddiogel yw eich pensiwn? am fwy o wybodaeth.
Cwynion pensiwn buddion wedi'u diffinio
Os oes gennych broblem gyda phensiwn buddion wedi'u diffinio (fel cyflog terfynol neu bensiwn cyfartaledd gyrfa), dilynwch y camau hyn:
- Cwyno wrth weinyddwr eich cynllun pensiwn. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid iddynt gael gweithdrefn gwyno ffurfiol.
- Os ydych chi dal yn anhapus, gofynnwch am gyfeirio eich cwyn gan ddefnyddio Proses Datrys Anghydfod Mewnol (IDRP) eich cynllun. Os nad yw hynny'n gweithio, siaradwch ag un o'n harbenigwyr hyfforddedig ar gyfer canllawiau pensiynau am ddim.
- Yr opsiwn terfynol yw mynd â'ch cwyn i'r Ombwdsmon PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, bydd angen i chi wneud hyn o fewn tair blynedd ar ôl i’r broblem ddigwydd gyntaf, neu pan oeddech yn ymwybodol o'r mater am y tro cyntaf.
Hawlio iawndal os cawsoch gyngor anaddas i drosglwyddo allan
Cyn y gallwch drosglwyddo allan o bensiwn buddion wedi'u diffinio, fel arfer bydd angen i chi gael cyngor ariannol rheoledig. Mae hyn oherwydd bod y cynlluniau'n gymhleth a gallai rhai penderfyniadau olygu gallwch golli llawer o arian.
Ond mae llawer o bobl wedi derbyn cyngor anaddas ac fe allai fod â hawl i gael iawndal, yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Dyma beth i'w wneud:
- Gwiriwch a gawsoch gyngor trosglwyddo pensiwn gwael gan ddefnyddio Advice Checker yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
- Gweler Sut i gwyno am ymgynghorydd ariannol am beth i'w wneud nesaf. Os gwnaethoch drosglwyddo allan o Gynllun Pensiwn Dur Prydain, mae gan yr FSCS dudalen gymorth benodolYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw'ch cyflogwr yn mynd i'r wal
Os bydd y cwmni rydych chi'n gweithio (neu oeddech arfer gweithio iddo) yn mynd allan o fusnes, bydd y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) yn:
- Gwirio faint o arian sydd gan eich cynllun pensiwn.
- Penderfynnu pwy sydd orau i barhau i'w redeg - fel arfer darparwr arall, yswiriwr neu'r PPF eu hunain (trwy daliadau digolled).
Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn cael y cyfan neu'r rhan fwyaf o'r hyn yr oedd eich pensiwn yn ei dalu neu wedi addo ei dalu.
Gweler ein canllaw i’r Y Gronfa Diogelu Pensiwn am fwy o wybodaeth.
Sut i gwyno am gynghorydd ariannol
Os ydych chi’n anhapus â'r cyngor a gawsoch gan gynghorydd ariannol, dilynwch y camau hyn:
1. Cwyno wrth y cynghorydd. Dylai fod ganddynt broses gwyno ffurfiol y gallwch ei dilyn. Os yw'r ymgynghorydd wedi mynd allan o fusnes, gwnewch gaisYn agor mewn ffenestr newydd i'r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
2. Mae gan y cynghorydd wyth wythnos i ymchwilio a rhoi ymateb terfynol i chi. Os nad ydych yn cytuno o hyd, neu os yw wyth wythnos wedi mynd heibio, gallwch fynd â'ch cwyn i'r FOSYn agor mewn ffenestr newydd
Nid oes angen i chi dalu rhywun i reoli'ch cwyn
Nid oes angen i chi ddefnyddio cwmni rheoli hawliadau i wneud cwyn. Mae'n rhad ac am ddim ac yn syml i chi wneud eich hun.
Os oes angen help arnoch, gallwch gysylltu â ni i drafod eich sefyllfa..