Dyma pa mor hir sydd gan eich darparwr pensiwn a'ch cyflogwr ar gyfer gwneud taliadau, trosglwyddiadau a delio â cheisiadau eraill. Hefyd, beth i'w wneud os ydynt yn methu'r terfyn amser.
A yw eich darparwr pensiwn yn cymryd gormod o amser?
Mae'n debygol y bydd eich darparwr pensiwn yn rhestru ei amserlenni gweithio ar-lein – yn aml, gelwir rhain yn 'safonau gwasanaeth'. Os na allwch ddod o hyd iddynt, gofynnwch i'ch darparwr pensiwn anfon copi atoch.
Caniateir i ddarparwyr bennu rhai o'r terfynau amser eu hunain, ar yr amod bod y cyfnod aros yn 'rhesymol', ond mae cyfyngiadau amser cyfreithiol y mae'n rhaid iddynt eu bodloni ar gyfer rhai ceisiadau.
Math o gais | Amserlen |
---|---|
Gwybodaeth am gynlluniau neu fuddion |
Dau fis |
Gwerthoedd trosglwyddo gyfwerth ag arian parod (CETV) |
Tri mis |
Trosglwyddiadau pensiwn |
Chwe mis |
Dylai eich darparwr pensiwn ddweud wrthych os na all fodloni'r terfyn amser ac egluro pam, gan y gallai fod rhesymau dilys dros yr oedi.
Er enghraifft, os ydych yn trosglwyddo'ch pensiwn i ddarparwr newydd, byddant yn gwirio i sicrhau nad yw'n sgam. Gallai hyn olygu bod eich trosglwyddiad yn cael ei oedi neu ei stopio nes eich bod wedi cael apwyntiad Canllaw Diogelu Pensiwn.
Os nad ydych yn fodlon ar ba mor hir y mae pethau'n cymryd, gallwch gwyno i'ch darparwr pensiwn.
A yw eich cyflogwr yn cymryd gormod o amser i wneud cyfraniadau?
Os oes gennych bensiwn gweithle cyfraniadau wedi'u diffinio, fel arfer mae gan eich cyflogwr tan yr 22ain o'r mis canlynol i basio cyfraniadau pensiwn pob mis i'ch cynllun pensiwn. Mae ganddyn nhw tan y 19eg os ydyn nhw'n talu trwy siec.
I weld pryd y gwneir eich cyfraniadau, gwiriwch eich datganiad pensiwn ar-lein neu gofynnwch i'ch darparwr pensiwn am gopi drwy'r post neu e-bost.
Os nad yw'ch cyflogwr yn talu'ch cyfraniadau ar amser, neu o gwbl, gofynnwch i'ch cyflogwr ymchwilio i'r mater a'i gywiro. Fel arfer, mae'n well gwneud hyn yn ysgrifenedig er mwyn i chi allu cadw cofnod.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Help os bydd eich cyflogwr yn methu â thalu i mewn i’ch pensiwn
Sut i atal oedi rhag cael eich pensiwn
Pan fyddwch yn barod i hawlio'ch pensiwn, bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn anfon gwaith papur atoch i'w gwblhau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau popeth yn gyflym a bob amser yn gwirio ddwywaith am wallau, yn enwedig eich manylion banc, oherwydd gall camgymeriadau achosi oedi.
Fel arfer bydd angen i chi ddarparu ID, fel pasbort neu drwydded yrru, fel y gall eich darparwr pensiwn sicrhau ei fod yn talu'r person cywir. Mae'n werth gofyn pa ID y bydd eich darparwr pensiwn yn ei dderbyn ymlaen llaw, fel y gallwch gasglu unrhyw beth nad oes gennych.
Oedi i’ch Pensiwn y Wladwriaeth
Ni fyddwch yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig – mae'n rhaid i chi wneud cais. Dysgwch sut i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth yn ein canllaw ar sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio.
Weithiau, gall oedi eich cais am Bensiwn y Wladwriaeth gynyddu eich taliadau. Gelwir hyn yn Bensiwn y Wladwriaeth wedi’i ohirio. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw ar ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth a bod eich taliadau wedi'u hoedi, cysylltwch â:
- Gwasanaeth Pensiwn os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
- Canolfan Bensiwn Gogledd Iwerddon os ydych yn byw yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
- Canolfan Bensiwn Ryngwladol os ydych yn byw dramorYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i gwyno am eich darparwr pensiwn
Gallwch gwyno am eich darparwr pensiwn am unrhyw reswm, dyma sut:
- Dywedwch wrth eich darparwr pensiwn pam rydych yn anhapus a beth rydych am iddynt wneud i gywiro pethau. Gallai hyn gynnwys gofyn am iawndal am oedi, yn enwedig os ydych wedi colli arian o ganlyniad. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt pensiwn yn GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Arhoswch hyd at wyth wythnos i'ch darparwr pensiwn ymchwilio ac ymateb.
- Ewch â'ch cwyn i'r Ombwdsmon PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn anhapus ag ymateb terfynol eich darparwr pensiwn, neu ar ôl i wyth wythnos fynd heibio.
Am fwy o wybodaeth a chymorth, gweler ein canllawiau: