Os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu ddamwain, gallwch ofyn am gael eich pensiwn cyn 55 oed - y lleiafswm arferol. Dyma sut i apelio os bydd eich cais am ymddeoliad meddygol cynnar yn cael ei wrthod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae pensiwn salwch yn cael ei benderfynu
Pan fyddwch yn gwneud cais i gael eich pensiwn yn gynnar, fel arfer bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am ymddeoliad ar sail afiechyd a chynnwys y canlynol:
- prawf o'ch cyflwr meddygol neu ddiagnosis, a
- cytundeb gan eich cyflogwr nad ydych yn ymddeol am reswm arall.
Yna bydd eich darparwr pensiwn, ymddiriedolwyr neu gyflogwr yn adolygu eich cais ac yn gwneud penderfyniad teg a rhesymol yn seiliedig ar reolau eich cynllun. Gallai hyn gynnwys cael cyngor neu farn feddygol gan eich meddyg ac arbenigwyr eraill.
Byddwch wedyn yn cael gwybod y penderfyniad, gydag adroddiad yn esbonio sut y cafodd ei wneud. Bydd yr adroddiad yn dweud wrthych faint o amser sydd gennych i apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych yn anghytuno.
Os ydych o dan 75 oed a bod gennych salwch angheuol gyda llai na 12 mis i fyw, efallai y cynigir yr opsiwn i chi gymryd eich pensiwn cyfan yn ddi-dreth.
Os nad ydych wedi gwneud cais am ymddeoliad ar sail afiechyd eto, gweler ein canllaw Ymddeoliad iechyd gwael: ymddeoliad meddygol cynnar
Sut i apelio yn erbyn penderfyniad ymddeoliad ar sail afiechyd
Os gwrthodir eich cais am ymddeoliad ar sail afiechyd, gallwch herio'r penderfyniad. Edrychwch ar eich gwaith papur i weld a oes angen i chi apelio erbyn dyddiad penodol.
Dyma sut i apelio:
Cam 1: Gwiriwch eich adroddiad penderfyniad a rheolau’r cynllun yn ofalus
Dylech fod wedi cael gwybod y rhesymau pam y gwrthodwyd eich cais. Mae hyn yn golygu y gallwch gynllunio'ch apêl i ddarparu unrhyw beth a oedd ar goll y tro cyntaf.
Er enghraifft, os nad oedd y dystiolaeth feddygol a ddarparwyd gennych yn ddigon manwl, gallech ofyn i'ch gweithiwr meddygol proffesiynol am adroddiad wedi'i ddiweddaru.
Y peth pwysig yw herio lle rydych chi'n meddwl nad yw'r penderfyniad wedi cael ei wneud yn iawn, neu'n unol â rheolau eich cynllun. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn credu na wnaeth y penderfynwr adolygu'r holl dystiolaeth neu wedi camddeall rhywbeth.
Er enghraifft, os colloch eich swydd oherwydd eich salwch, efallai y byddwch eisiau apelio os cawsoch eich gwrthod am ymddeoliad ar sail afiechyd. Ond fe allai rheolau'ch cynllun ddatgan nad ydych chi'n gymwys os ydych chi'n gallu gwneud unrhyw swydd - nid dim ond y swydd roeddech ynddi.
Hyd yn oed os yw'ch meddyg yn cefnogi'ch cais, gall y sawl sy'n gwneud penderfyniadau ddewis y cyngor meddygol y mae'n credu sydd fwyaf priodol, heb unrhyw ofyniad i gynghorydd meddygol gwrdd â chi.
Cam 2: Anfonwch eich apêl at eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn
Ar ôl i chi baratoi eich apêl ac unrhyw dystiolaeth ychwanegol, cyflwynwch hi i'ch darparwr pensiwn, ymddiriedolwyr neu gyflogwr. Dylai eich adroddiad penderfyniad esbonio sut i wneud hyn a phryd y dylech ddisgwyl clywed yn ôl.
Yna bydd eich apêl yn cael ei hadolygu a bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud. Gallai hyn gynnwys y penderfynwr yn chwilio am opsiynau meddygol gwahanol.
Yn dibynnu ar eich cynllun pensiwn, efallai y bydd dau gyfle i apelio.
Cam 3: Cymerwch eich apêl i’r Ombwdsmon Pensiynau
Os ydych yn anghytuno â chanlyniad yr apêl, neu os nad ydych yn credu bod y broses gywir wedi'i dilyn, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Pensiynau ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch hefyd:
- ffônio Yr Ombwdsmon Pensiynau ar 0800 917 4487Yn agor mewn ffenestr newydd, neu
- e-bostio [email protected] Yn agor mewn ffenestr newydd.
Fel arfer mae gennych hyd at dair blynedd o ddyddiad eich cais ymddeoliad ar sail afiechyd cyntaf i wneud hyn.
Mae'r Ombwdsmon Pensiynau yn wasanaeth am ddim ac mae'n golygu y bydd rhywun annibynnol yn ymchwilio eich achos. Byddant yn penderfynu a wnaed y penderfyniad am eich ymddeoliad ar sail afiechyd yn deg neu os oes camgymeriad wedi'i wneud.
Os ydych yn cytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon Pensiynau ar eich achos, rhaid i'ch darparwr pensiwn, ymddiriedolwyr neu gyflogwr wneud fel y dywedant.
Os yw'r Ombwdsmon Pensiynau yn dyfarnu bod y penderfyniad gwreiddiol yn deg, efallai y byddwch yn dal i allu dechrau cais newydd am ymddeoliad ar sail afiechyd yn ddiweddarach.
Mae hyn yn ailgychwyn y broses ond mae'n golygu y bydd yn cael ei hadolygu eto, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth newydd y gallwch ei chael.