Mae gorfodi dyledion yn digwydd pan ddefnyddir proses gyfreithiol i adennill arian sy’n ddyledus gennych i gredydwr. Gall hyn olygu tynnu arian o'ch cyflog neu gymryd eich eiddo o'ch cartref. Gall fod yn brofiad brawychus, a dyna pam ei bod yn hanfodol deall eich hawliau — dyma'r hyn sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw beilïaid, asiantau gorfodi, sheriff officers a’r Enforcement ofJudgements Office?
- Pwerau beilïaid ac asiantau gorfodi: beth y gallant a beth na allant ei wneud
- Beth i’w wneud os yw beili wrth eich drws
- Sut i wirio a yw’r person sy’n cysylltu â chi yn ddilys, a sut i osgoi sgamiau
- Ffioedd beilïaid a thaliadau gorfodi
- Bregusrwydd a gorfodi dyledion
- Cymru a Lloegr: Beilïaid a gorfodi llysoedd
- Yr Alban: sheriff officers a ‘diligence’
- Gogledd Iwerddon: Enforcement of Judgments Office (EJO) a gorfodi dyfarniadau
- Beth i’w wneud os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg
Beth yw beilïaid, asiantau gorfodi, sheriff officers a’r Enforcement ofJudgements Office?
Os oes arian yn ddyledus gennych i gwmni neu sefydliad, gelwir hwnnw'n gredydwr. Mae beili yn casglu arian ar ran credydwr.
Yng Nghymru a Lloegr, gelwir asiantau gorfodi yn feilïaid weithiau. Mae ganddynt awdurdod cyfreithiol i gasglu arian neu nwyddau oddi arnoch i dalu dyledion penodol, gan gynnwys ôl-ddyledion Treth Gyngor, dirwyon llys a dyfarniadau llys. Mae gan wahanol fathau o asiantau rolau gwahanol.
Yn yr Alban, mae sheriff officers yn gweithredu gorchmynion llys ac yn gorfodi dyledion, proses a elwir yn ‘diligence’.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Enforcement of Judgements Office (EJO) yn gorfodi dyfarniadau sifil drwy ei phroses ei hun.
Mae casglwr dyledion yn rhywbeth gwahanol. Gall casglwyr dyledion ofyn i chi dalu a thrafod trefniadau ar gyfer ad-dalu, ond nid yw bod yn gasglwr dyledion yn unig yn rhoi pwerau asiant gorfodi i rywun gymryd rheolaeth dros eich nwyddau.
Pwerau beilïaid ac asiantau gorfodi: beth y gallant a beth na allant ei wneud
Yng Nghymru a Lloegr, gall beili geisio cael taliad neu gymryd rheolaeth dros nwyddau penodol os oes ganddynt awdurdod cyfreithiol priodol i wneud hynny.
Rhaid iddynt:
- Ddilyn rheolau ynghylch rhoi rhybudd, mynediad, yr amser mynediad, a nwyddau sydd wedi'u diogelu.
Ni allant:
- Gymryd eitemau cartref hanfodol. Ni ddylent eich bygwth na'ch aflonyddu.
Mae'r pwerau hyn yn berthnasol ledled y DU.
Er enghraifft, mae angen exceptional attachment order ar sheriff officer yn yr Alban i gymryd eiddo cymwys o fewn cartref.
Gall yr EJO yng Ngogledd Iwerddon wneud gorchmynion gwahanol, gan gynnwys gorchymyn talu rhandaliadau — lle mae'n rhaid i chi dalu symiau sefydlog yn wythnosol neu'n fisol yn hytrach nag un swm mawr ar unwaith; atafaelu enillion — lle mae eich cyflogwr yn tynnu arian o'ch cyflog; neu orchymyn atafaelu nwyddau — lle gellir cymryd nwyddau nad ydynt wedi'u heithrio.
Os nad ydych yn siŵr beth sy'n berthnasol i chi, gall ymgynghorydd dyled egluro hynny i chi. Cael cyngor dyled am ddim cyn cytuno i unrhyw beth.
Beth i’w wneud os yw beili wrth eich drws
Fel arfer, nid oes rhaid i chi agor y drws na gadael i feili ddod i mewn i'ch cartref. Gallwch siarad drwy'r drws neu drwy ffenestr tra byddwch yn gwirio eu dogfen adnabod a'r ddyled.
Mae gennych yr hawl i:
- gadw drysau wedi'u cloi
- gwrthod eu gwahodd i mewn dim ond i drafod taliad
- gwneud taliad heb eu gadael i mewn
- gofyn am dderbynneb.
Ar gyfer y rhan fwyaf o ddyledion, ni all beilïaid orfodi mynediad i'ch cartref ar yr ymweliad cyntaf. Gall eithriadau cyfyngedig fod yn berthnasol i ddirwyon troseddol heb eu talu a rhai dyledion treth; yn yr achosion hyn, gellir defnyddio gorfodi mynediad fel dewis olaf.
Os yw asiant yn honni bod ganddo hawl i orfodi mynediad, gofynnwch pa awdurdod y mae'n dibynnu arno, a cheisiwch gyngor brys am ddim ar ddyledion.
Rhaid i feilïaid cael mynediad yn gyfreithlon
Rhaid i feilïaid cael mynediad drwy ddrws, nid ffenestr, ac ni allant fynd i mewn os mai dim ond plant o dan 16 oed neu bobl fregus sy'n bresennol. Ni allant gael mynediad rhwng 9yh a 6yb. Gallant ymweld yn ystod y dydd ar benwythnos. Gwiriwch y rheolau ar gyfer pan fydd beilïaid yn ymweld â'ch cartrefYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK.
Beth gall beilïaid ei gymryd?
Yng Nghymru a Lloegr, gall beili gymryd rheolaeth dros nwyddau nad ydynt yn hanfodol ac sy'n perthyn i chi, fel teledu neu gonsol gemau.
Ni allant gymryd:
- dillad ac eitemau cartref hanfodol, fel eich popty neu oergell
- teclynnau a chyfarpar sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith, hyd at y gwerth a ddiogelir – Yng Nghymru a Lloegr, mae hyn yn £1,350. Yn yr Alban, mae tua £1,000 (am symiau penodol, gweler Advice Scotland i gael gwybodaeth am yr hyn y gall Sheriff Officers ei gymrydYn agor mewn ffenestr newydd)
- nwyddau sy'n perthyn i rywun arall.
Os yw eitem yn perthyn i'ch partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw, casglwch brawf, fel derbynneb neu gytundeb cyllid.
A all beili gymryd fy nghar?
Gall asiant gymryd rheolaeth dros gar y tu allan i'ch cartref, hyd yn oed os nad ydych yn eu gadael i mewn.
Os yw'r car yn destun cytundeb cyllid, dywedwch wrth yr asiant ar unwaith a dangoswch y cytundeb: mae'r cwestiwn a ellir ei gymryd yn dibynnu ar bwy sy'n berchen arno a'r math o gyllid. Cael cyngor dyled am ddim ar unwaith os yw'r car wedi'i gloi â chlamp.
A oes ffordd y gallaf gadw fy eitemau?
Gall asiant restru eich eitemau mewn cytundeb nwyddau dan reolaeth a chaniatáu i chi barhau i'w defnyddio tra byddwch yn gwneud y taliadau y cytunwyd arnynt. Ceisiwch gyngor ar ddyledion am ddim cyn llofnodi os nad ydych yn deall y cytundeb neu os na allwch fforddio'r taliadau.
Sut i wirio a yw’r person sy’n cysylltu â chi yn ddilys, a sut i osgoi sgamiau
Byddwch yn derbyn llythyrau, dogfennau llys neu hysbysiad sy'n cynnwys cyfeirnod achos neu gyfrif cyn i ymweliad gorfodi ddigwydd. Fodd bynnag, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod llythyr yn ddilys dim ond oherwydd ei fod yn edrych yn swyddogol.
Beth allwch chi ei wneud os ydych yn credu y gallai rhywbeth fod yn sgam
Gofynnwch am enw'r person, ei sefydliad, ei ddogfen adnabod, y credydwr y mae'n gweithredu ar ei ran, y math o ddyled, pa awdurdod sydd ganddo i'w gorfodi, a dadansoddiad o'r balans a'r ffioedd.
Os oes rhywun wrth eich drws, gallwch ofyn iddynt ddangos eu dogfen adnabod trwy ffenestr, neu ofyn iddynt roi'r manylion trwy'r blwch llythyrau.
Pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi:
-
Byddwch yn ofalus os yw rhywun yn gwrthod nodi pwy ydynt, yn mynnu eich bod yn trosglwyddo arian i gyfrif anghyfarwydd, neu'n gofyn i chi dalu gan ddefnyddio cardiau rhodd neu cryptoarian.
-
Cysylltwch â'r credydwr, y llys neu'r cwmni gorfodi gan ddefnyddio rhif rydych chi wedi'i ddarganfod eich hun.
-
Cysylltwch â'ch banc os ydych wedi talu rhywun yr ydych yn amau ei fod yn sgamiwr. Po gyntaf y byddwch yn cysylltu â'ch banc ac yn rhoi gwybod am y twyll , gorau oll. Mae gan yr FCA yr holl wybodaeth am sut i roi gwybod am sgam
-
Peidiwch â defnyddio'r rhif ffôn na'r ddolen dalu mewn neges os ydych yn amau y gallai fod yn ffug.
Sut i wirio a yw rhywun yn ddilys
Yng Nghymru a Lloegr, mae GOV.UK yn egluro sut i wirio gwahanol fathau o feiliYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban, gallwch ofyn i sheriff officer am brawf o'i hunaniaethYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon, gwiriwch ohebiaeth yr EJOYn agor mewn ffenestr newydd gan ddefnyddio manylion cyswllt rydych chi wedi'u canfod yn annibynnol ar wefan Department of Justice.
Hysbysiad gorfodi a beth sy’n digwydd nesaf
Yng Nghymru a Lloegr, fel arfer rhaid i asiant gorfodi roi o leiaf 14 diwrnod o rybudd ymlaen llaw cyn cymryd rheolaeth dros nwyddau.
- Dylai'r hysbysiad nodi'r ddyled, y swm sy'n ddyledus, unrhyw ffioedd, a sut i ymateb.
- Gall ymgynghorydd dyled ofyn am fwy o amser mewn achos cymwys.
- Mae eithriadau cyfyngedig i roi hysbysiad ymlaen llaw; felly, ceisiwch gyngor ar ddyledion os credwch fod ymweliad wedi digwydd heb rybudd priodol.
Beth i’w wneud os cewch ffurflen llys?
Peidiwch ag anwybyddu ffurflenni llys, hysbysiad gorfodi, na 'charge for payment' yn yr Alban.
- Gwiriwch y dyddiad cau a chysylltwch â'r sefydliad a enwir gan ddefnyddio manylion dilys. Os aeth y dogfennau i hen gyfeiriad, os ydych wedi methu dyddiad cau, neu os ydych yn anghytuno â'r ddyled, rhowch wybod i ymgynghorydd dyled am ddim ar unwaith.
- Gofynnwch i'r credydwr a ellir atal y broses dros dro tra byddwch yn gwirio'r ddyled ac yn llunio cynllun fforddiadwy; nid yw gwneud cais yn golygu y bydd y broses orfodi yn dod i ben yn awtomatig.
Ffioedd beilïaid a thaliadau gorfodi
Yng Nghymru a Lloegr, gellir ychwanegu ffioedd ar wahanol gamau, gan gynnwys pan fydd asiant yn cychwyn yr achos, yn ymweld ac, lle bo'n berthnasol, yn symud neu'n gwerthu nwyddau.
- Gofynnwch am ddadansoddiad ysgrifenedig yn dangos y ddyled wreiddiol, pob ffi, ei dyddiad a pham y cafodd ei chodi.
- Cadwch hysbysiadau a derbynebau. Os yw tâl yn edrych yn anghywir, heriwch ef ar unwaith gyda'r cwmni gorfodi a'r credydwr, a cheisiwch gyngor ar ddyledion am ddim i ofyn i gynghorydd ei wirio.
Mae ffioedd a gweithdrefnau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wahanol i'r rhai yng Nghymru a Lloegr.
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, mae gan Gyngor ar Bopeth ganllawiau manwl ar y broses o dalu'r ddyledYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, mae gan StepChange ragor o wybodaeth am yr holl ffioedd a thaliadauYn agor mewn ffenestr newydd
Bregusrwydd a gorfodi dyledion
Os ydych chi'n sâl, ag anabledd, salwch meddwl, mewn galar neu'n cael anhawster deall llythyrau, gall hyn wneud gorfodi yn arbennig o anodd i'w reoli.
Os yw iechyd meddwl a beilïaid yn bryder i chi, dywedwch wrth y credydwr a'r cwmni gorfodi pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Gallwch:
- ofyn iddynt ystyried eich amgylchiadau
- gofyn iddynt ddefnyddio ffordd hygyrch o gysylltu â chi
- gofyn i berson dibynadwy eich helpu a rhoi amser i chi gael cyngor.
Yng Nghymru a Lloegr, mae mesurau diogelwch ychwanegol yn berthnasol lle mae pobl fregus yn gysylltiedig.
Os ydych chi'n derbyn triniaeth argyfwng iechyd meddwl, gall ymgynghorydd dyled wirio a all seibiant argyfwng iechyd meddwl fod yn berthnasol. Mae gan amddiffyniadau dyled eraill reolau gwahanol yn yr Alban.
Cael cyngor dyled am ddim gan ddefnyddio lleolwr cyngor ar ddyledion HelpwrArian i ddod o hyd i gymorth cyfrinachol ledled y DU.
Cymru a Lloegr: Beilïaid a gorfodi llysoedd
Ymhlith dyledion eraill, gall asiantau gorfodi weithredu ar:
- Ôl-ddyledion y Dreth Gyngor
- cosbau parcio
- dirwyon a dyfarniadau llys sirol.
Dylech gael hysbysiad gorfodi sy'n dweud wrthych fod camau gweithredu yn dechrau.
Gofyn pa ddyled ac awdurdod sy'n berthnasol yn eich achos chi. Ar gyfer rheolau sy'n ymwneud â mynediad, adnabod a nwyddau, defnyddiwch ganllawiau GOV.UK ar feiliYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw eich dyled yn ymwneud â Dyfarniad Llys Sirol (CCJ), edrychwch ar ganllaw HelpwrArian ar CCJs.
Yr Alban: sheriff officers a ‘diligence’
Yn yr Alban, defnyddir sheriff officers fel arfer. Yn dilyn camau llys, gelwir y broses gyfreithiol ar gyfer gorfodi taliad yn ‘diligence’.
Gall ymgynghorydd dyled hefyd wirio a allai trefniant ‘amser i dalu’ neu foratoriwm yn yr Alban fod o gymorth. Gallant roi mwy o amser i chi cyn i gamau gael eu cymryd.
Yn dibynnu ar yr achos, gall ‘diligence’ gynnwys:
- didyniadau o enillion,
- arrestment (rhewi) arian mewn cyfrif banc, neu
- attachment (atafaelu) nwyddau cymwys sy'n cael eu cadw y tu allan i'ch cartref.
Mae angen gorchymyn atafaelu eithriadol gan y llys i gymryd eitemau cymwys o'r tu fewn i'ch cartref.
Os bydd rhywun yn dweud y gallant fynd i mewn, gofynnwch am weld eu dogfen adnabod a'r gorchymyn sy'n rhoi awdurdod iddynt; mewn rhai amgylchiadau, gall sheriff officer sydd ag awdurdod i fynd i mewn defnyddio grym rhesymol.
Gweler canllaw mygov.scot am sheriff officersYn agor mewn ffenestr newydd, a'r esboniad sydd yno o ddyfarniadau dyled a ‘diligence’.
Gogledd Iwerddon: Enforcement of Judgments Office (EJO) a gorfodi dyfarniadau
Mae'r EJO, rhan o Northern Ireland Courts and Tribunals Service, yn gorfodi dyfarniadau sifil. Efallai y byddwch yn derbyn llythyr am fwriad i orfodi dyfarniad neu archwiliad o'ch cyllid.
Mae'n bwysig deall eich hawliau. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall yr EJO wneud:
- gorchmynion ar gyfer rhandaliadau
- didyniadau o'ch enillion
- tâl yn erbyn tir neu gymryd nwyddau cymwys.
Mae gan orchymyn atafaelu cyfyngiadau: er enghraifft, ni all yr EJO atafaelu nwyddau sy'n eiddo i rywun arall na dodrefn hanfodol y cartref.
Darllenwch bob hysbysiad, gwiriwch gyfeirnod yr achos a chysylltwch â'r EJO yn gyflym os ydych yn anghytuno â'r swm neu os na allwch dalu.
Dewch o hyd i'r llwybr cyswllt cyfredol a manylion y broses ar dudalen EJO y Department of JusticeYn agor mewn ffenestr newydd
Beth i’w wneud os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg
Mae'n bwysig cadw tystiolaeth o'r hyn a ddigwyddodd.
- Ysgrifennwch fanylion, gan gynnwys dyddiadau, amseroedd, enwau a'r hyn a ddywedwyd.
- Cadwch lythyrau, negeseuon testun, derbynebau a lluniau, a gofynnwch a ellir cadw fideo perthnasol o gamera a wisgir ar y corff.
- Eglurwch pa ganlyniad rydych chi ei eisiau, fel ffi gywir neu ddychwelyd nwyddau.
Ble i gwyno
Yng Nghymru a Lloegr, yn gyntaf mae angen i chi gwyno i'r beili a'r credydwr neu'r sefydliad y mae'n gweithio iddo.
Yna mae'r broses yn dibynnu ar y math o asiant a ddefnyddir - mae Gov.uk yn esbonio sut i gwyno am feiliYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban, cysylltwch â chwmni'r sheriff officer yn gyntaf a dilynwch ganllawiau cwyno mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon, gofynnwch i'r EJO sut i godi cwynYn agor mewn ffenestr newydd am ei driniaeth o'ch achos.