Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cael help a chyngor
  3. Ymgynghorwyr ariannol
Cael help a chyngor Ymgynghorwyr ariannol

Cael cymorth gyda phenderfyniadau ariannol: esboniad o arweiniad, cymorth wedi’i dargedu a chyngor

Darganfyddwch ble i gael cymorth gyda’ch penderfyniadau ariannol a phensiwn. Rydym yn esbonio’r gwahaniaeth rhwng arweiniad, cymorth wedi’i dargedu a chyngor ariannol.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Y mathau o gymorth sydd ar gael
  • Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau
  • Cymorth wedi’i dargedu ar gyfer pensiynau a buddsoddiadau
  • Cael cyngor ariannol

Y mathau o gymorth sydd ar gael

Gan y gall arian a phensiynau fod yn gymhleth, mae yna ychydig o ffyrdd y gallwch gael help a chymorth gyda’ch opsiynau a’ch penderfyniadau.

Y fath o gyngor Beth fyddwch chi’n ei gael

Arweiniad ariannol

Gwybodaeth am ddim am eich opsiynau i’ch helpu i wneud penderfyniad sy’n gywir i chi. 

Cefnogaeth wedi’i dargedu

Argymhellion am bensiynau a buddsoddiadau, yn seiliedig ar beth sy’n debyg i fod yn iawn i bobl sy’n debyg i chi – fel arfer am ddim.

Cyngor ariannol

Argymhellion amdanoch chi fel unigolyn ar yr hyn sydd orau i chi a’ch arian.

Gallwch ddefnyddio pob math neu ar wahanol adegau

Gallwch ddewis defnyddio un o’r rhain neu eu cyfuno. Er enghraifft:

  • defnyddio canllaw ariannol i ddeall sut mae buddsoddiadau’n gweithio a chofrestru gyda darparwr
  • ystyried awgrymiadau cynnyrch y darparwr o gymorth wedi’i dargedu
  • talu ymgynghorydd ariannol i ddeall eich sefyllfa, diffinio eich nodau ariannol a’ch paru â chynnyrch neu ateb i ddiwallu eich anghenion.

Gallech hefyd ddewis defnyddio gwahanol fathau ar wahanol adegau o’ch bywyd. Er enghraifft, arweiniad am ddim i ddeall sut i ddechrau pensiwn. Yna, ar ôl i chi gronni cronfa arian, cyngor ariannol ar y ffyrdd gorau o fuddsoddi a’i dyfu.

Nol i’r brig

Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau

Mae arweiniad ariannol yn egluro’r gwahanol opsiynau a allai fod gennych, sut maen nhw’n gweithio a beth i’w ystyried. Ond bydd angen i chi benderfynu beth sy’n iawn i chi.

Er enghraifft, gall arweiniad eich helpu i ddeall sut mae buddsoddi’n gweithio a’r opsiynau sydd ar gael - fel ISA Stociau a Chyfranddaliadau neu bensiwn personol hunan-fuddsoddi. Ond ni all ddweud wrthych pa un sydd orau i chi nac argymell cynhyrchion a chamau penodol y dylech eu cymryd.

Gall arweiniad eich helpu i:

  • ddeall manteision ac anfanteision gwahanol opsiynau
  • cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud eich penderfyniadau eich hun – os ydych chi’n gyfforddus yn gwneud eich ymchwil eich hun
  • paratoi’r cwestiynau cywir i’w gofyn i ymgynghorydd ariannol – os ydych chi’n dewis cael cyngor.

Ni fydd arweiniad yn:

  • argymell beth sydd orau i chi
  • dweud wrthych pa gynnyrch y dylech ei brynu.

Ble i gael arweiniad ariannol

Gallwch gael arweiniad ariannol o lawer o wahanol leoedd, gan gynnwys:

  • yma ar HelpwrArian – rydym yn wasanaeth a gefnogir gan y llywodraeth sy’n cynnig canllawiau diduedd am ddim
  • eich darparwr gwasanaethau ariannol, fel eich banc neu ddarparwr pensiwn
  • elusennau, fel Cyngor ar Bopeth neu Age UK.
Cael arweiniad HelpwrArian ar: Yr hyn rydym yn eu cwmpasu:

Budd-daliadau

Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill, gan gynnwys ein Cyfrifiannell budd-daliadau.

Arian bob dydd

Bancio, taliadau, credyd, cyllidebu, benthyg, cyllid car ac yswiriant.

Cartrefi

Morgeisi, prynu cartref a rhentu.

Trafferthion ariannol

Help gyda chostau byw, delio â dyled, trafferthion ariannol, cwynion a sgamiau.

Pensiynau ac ymddeoliad

Sut i ddechrau, rheoli, trosglwyddo a chymryd pensiwn. Hefyd, faint i gynilo ar gyfer ymddeoliad. 

Cynilion a buddsoddiadau

Sut i gynilo, mathau o gynilion, a buddsoddiadau.

Gwaith

Cyflogaeth, hunangyflogaeth a cholli eich swydd.

Gallwch gysylltu â ni am arweiniad diduedd ac am ddim ar-lein neu dros y ffôn. Mae hyn yn cynnwys:

  • Apwyntiadau Pension Wise i ddysgu sut allwch chi gymryd pensiwn cyfraniadau diffiniedig
  • Apwyntiadau pensiynau ac ysgariad neu ddiddymiad i ddeall yr opsiynau ar gyfer 

Rydych chi’n gyfrifol am unrhyw benderfyniadau a wnewch

Os ydych chi’n defnyddio arweiniad ariannol i wneud penderfyniad ac yn ddiweddarach mae’n troi allan i fod yn anaddas, ni allwch gwyno i ddarparwr yr arweiniad.

Mae hyn oherwydd eich bod chi’n gyfrifol am unrhyw benderfyniad a wnewch. Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud ar ôl defnyddio arweiniad ariannol, ystyriwch gael cymorth wedi’i dargedu neu gyngor ariannol.

Nol i’r brig

Cymorth wedi’i dargedu ar gyfer pensiynau a buddsoddiadau

Efallai y bydd eich darparwr yn gallu eich helpu i benderfynu beth i’w wneud am eich pensiynau neu fuddsoddiadau trwy awgrymu camau gweithredu i chi. Mae hwn yn wasanaeth newydd o’r enw cymorth wedi’i dargedu a lansiwyd ym mis Ebrill 2026.

Nod cymorth wedi’i dargedu yw eich helpu i wneud dewisiadau ariannol mwy hyderus. Mae’n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac fel arfer darperir awgrymiadau am ddim.

Er enghraifft, efallai y bydd eich darparwr yn gallu awgrymu:

  • cynhyrchion os ydych chi am ddechrau cymryd incwm o’ch pensiwn
  • ble i fuddsoddi’ch arian os oes gennych arian sbâr, gan gynnwys cost unrhyw ffioedd am fuddsoddi.

Bydd eich darparwr yn defnyddio’r wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanoch chi – fel eich oedran – i’ch paru ag awgrym. Efallai y byddan nhw hefyd yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth i helpu i sicrhau bod yr awgrym yn iawn.

Mae cymorth wedi’i dargedu wedi’i gynllunio ar gyfer grwpiau o bobl

Mae awgrymiadau cymorth wedi’u targedu yn seiliedig ar yr hyn sy’n debygol o fod yn iawn i grŵp o bobl debyg. Er enghraifft, os ydych chi’n bwriadu cymryd eich pensiwn, efallai y byddwch chi’n cael yr un awgrym â rhywun arall sydd:

  • o oedran tebyg
  • ag amgylchiadau tebyg i chi.

Mae hyn yn golygu nad yw’n ystyried eich holl anghenion ariannol, nodau neu amgylchiadau eraill fel unigolyn. Bydd angen i chi benderfynu o hyd a yw’r awgrym yn iawn i chi.

Sut i gael cymorth wedi’i dargedu

Efallai y bydd eich darparwr yn cynnig cymorth penodol ac yn anfon awgrymiadau yn rhagweithiol, heb i chi orfod gofyn:

  • nid yw pob darparwr yn cynnig cymorth wedi’i dargedu
  • efallai na fydd y cymorth wedi’i dargedu maen nhw’n ei gynnig yn cwmpasu’r sefyllfa rydych chi’n chwilio am help gyda hi.

Gall darparwyr ond cynnig cymorth wedi’i dargedu ynghylch pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio a buddsoddiadau. Rhaid iddynt hefyd gael caniatâd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), felly gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u rhestru ar Wiriwr Cwmnïau’r FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Mae lleoedd nodweddiadol a allai gynnig cymorth wedi’i dargedu yn cynnwys:

  • darparwyr pensiwn
  • darparwyr buddsoddiad
  • banciau a chymdeithasau adeiladu.

Bydd eich darparwr yn ei gwneud yn glir eu bod yn darparu awgrym cymorth wedi’i dargedu.

Gallwch gwyno os bydd rhywbeth yn mynd o’i le

Os ydych chi’n anfodlon â’r gwasanaeth a gewch, gallwch gwyno i’ch darparwr.

Os nad ydych chi’n credu bod ymateb terfynol eich darparwr yn deg, neu os yw wyth wythnos wedi mynd heibio, gallwch fynd â’ch cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) am ddimYn agor mewn ffenestr newydd

Am ragor o help, gweler ein canllaw Sut i gwyno i’ch banc, benthyciwr neu ddarparwr cerdyn.

Nol i’r brig

Cael cyngor ariannol

Gall ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig roi barn neu argymhelliad i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol. Er enghraifft, gallant:

  • ddweud wrthych beth sydd orau i chi a’ch arian
  • eich helpu i ddiffinio a diwallu eich anghenion a’ch nodau ariannol.

Gallai hyn gynnwys cyngor am gynnyrch sydd gennych eisoes neu argymhellion ar gyfer cynhyrchion newydd i’w cymryd.

Rhaid i ymgynghorydd fod wedi ei reoleiddio i roi cyngor, felly gwnewch yn siŵr bob amser:

  • bod eu cwmni wedi’i restru ar Wiriwr Cwmnïau’r FCAYn agor mewn ffenestr newydd
  • bod yr ymgynghorydd yn ymddangos ar Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Byddwch yn cael adroddiad personol gydag argymhellion

Bydd ymgynghorydd ariannol yn darganfod mwy am eich sefyllfa ac yn gwirio a allai cyngor ariannol wella’ch amgylchiadau.

Er enghraifft, gallai ymgynghorydd argymell i chi:

  • ddefnyddio lwfansau treth i leihau eich bil treth
  • newid eich cynlluniau os bydd y farchnad ariannol yn newid.

Gallant hefyd amcangyfrif:

  • eich incwm, gwariant, treth a chynilion yn y dyfodol i weld a ydych chi ar y trywydd iawn i gyrraedd eich nodau – fel ymddeol o’r gwaith neu ad-dalu eich morgais
  • pa elw y gallech chi ei gael pe byddech chi’n gwneud y newidiadau a argymhellir ganddynt, fel cynyddu eich cyfraniadau pensiwn neu ble rydych yn buddsoddi eich arian.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A oes angen ymgynghorydd ariannol arnaf?

Nid oes angen i gyngor ariannol fod yn adolygiad llawn bob amser

Nid oes angen i gyngor fod yn adolygiad llawn o’ch cyllid a’ch sefyllfa bersonol bob amser.

Er enghraifft, os ydych am gael cyngor am benderfyniad penodol neu ddigwyddiad bywyd, efallai na fydd ymgynghorydd ariannol yn ystyried eich amgylchiadau’n llawn cyn rhoi argymhellion i chi.

Os byddwch yn cael cyngor ariannol penodol, dylid dweud wrthych sut mae’r cyngor yn gyfyngedig a’r wybodaeth y mae’n seiliedig arni. Gelwir hyn yn aml yn gyngor wedi’i symleiddio.

Fel arfer mae angen i chi dalu am gyngor ariannol

Mae bron bob amser cost am gael cyngor ariannol, ond efallai na fydd yn rhaid i chi dalu ffi ymlaen llaw ym mhob achos.

Er enghraifft:

  • efallai y byddwch yn talu ffi isel (neu ddim ffi o gwbl) os yw ymgynghorydd yn cael comisiwn gan ddarparwr am werthu cynnyrch penodol i chi - fel morgais neu yswiriant
  • gellir ychwanegu cost cyngor at unrhyw daliadau misol am gynnyrch.

Rhaid i ymgynghorydd ddweud wrthych sut mae cost cyngor yn cael ei godi a’i dalu.

Os ydych chi’n talu ffioedd, fel arfer byddwch chi naill ai’n talu:

  • Ffi sefydlog am yr holl gyngor.
  • Cyfradd fesul awr - yn aml rhwng £100 a £350 yr awr.
  • Ffi yn seiliedig ar ganran o’r arian rydych chi’n ei fuddsoddi – fel arfer 1-3% i ddechrau a 0.5%-1% am gyngor parhaus. Os oeddech chi’n buddsoddi £100,000, mae hyn yn golygu y byddech chi’n talu rhwng £1,000 a £3,000 i ddechrau a £500 i £1,000 am gyngor parhaus.

Gallai cyngor ariannol symlach gostio llai nag adolygiad llawn, gan mai dim ond gwybodaeth benodol y mae’n ei hystyried. Ond gwnewch yn siŵr bob amser bod y cyngor yn iawn i chi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Faint mae ymgynghorydd ariannol yn ei gostio?

Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig

Mae llawer o ymgynghorwyr ariannol yn gymwys i roi cyngor cyffredinol ar bob maes o gynllunio ariannol, tra gallai eraill arbenigo mewn maes penodol. Gall ein canllawiau eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd rheoleiddiedig.

Beth hoffech help gyda Ble i ddod o hyd i ymgynghorydd

Cyngor ariannol neu bynciau lluosog

Sut i ddewis ymgynghorydd ariannol

Pensiynau neu gynllunio ymddeoliad

Sut i ddod o hyd ymgynghorydd pensiwn neu ymddeoliad

Morgeisi neu ryddhau ecwiti

Prynu neu gwerthu eich cartref: dod o hyd i weithiwr proffesiynol

Yswiriant

Pryd i ddefnyddio brocer yswiriant

Gallwch gwyno a gofyn am iawndal os cewch gyngor gwael

Mae defnyddio ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig yn golygu y gallwch gwyno a gofyn am iawndal os yw’r cyngor a roddwyd i chi yn troi allan i fod yn anaddas. Er enghraifft, os dywedwyd wrthych wybodaeth anghywir neu gamarweiniol neu os na chafodd eich argymhellion cytunedig eu gweithredu – neu’n hwyrach nag a addawyd.

Am gymorth cam wrth gam, gweler Sut i gwyno am gyngor ariannol anaddas.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Share this article
E-bost Facebook X
Share this with
WhatsApp LinkedIn
Copy this link
Anfon e-bost
Copy this link
Ymgynghorwyr ariannol

Arweiniad a chefnogaeth wedi’i dargedu

  • Cael cymorth gyda phenderfyniadau ariannol: esboniad o arweiniad, cymorth wedi'i dargedu a chyngor

Arweiniad a chefnogaeth wedi’i dargedu

  • Cael cymorth gyda phenderfyniadau ariannol: esboniad o arweiniad, cymorth wedi'i dargedu a chyngor
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun i dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012