Gofalu am eraill a’r effaith ar eich pensiwn

Weithiau mae angen i bobl stopio gweithio neu leihau eu horiau fel y gallant ofalu am deulu neu ffrindiau. Mae llawer o resymau pam y gallai fod angen i chi wneud hyn. Darganfyddwch rai o'r pethau i'w hystyried a'r sefydliadau a allai helpu.

Pethau i'w hystyried

Mae llawer o bobl yn ystyried stopio gweithio neu leihau eu horiau i ofalu am eraill, naill ai'n barhaol neu dros dro.

Er nad eich cynilion pensiwn neu ymddeol yw'r peth cyntaf ar eich meddwl, mae rhai pethau i'w hystyried a allai eich helpu'n ariannol yn y tymor hir.

Mae'n bwysig meddwl sut y bydd stopio gweithio neu leihau eich oriau yn effeithio ar eich pensiwn preifat neu weithle.

Pensiwn y Wladwriaeth

I gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn pan fyddwch yn ymddeol, mae rhaid eich bod wedi talu Yswiriant Gwladol am isafswm o flynyddoedd.

Efallai y gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol os nad ydych yn gweithio, ac fel rheol mae angen i chi fod yn hawlio rhai budd-daliadau’r Wladwriaeth.

Gall y credydau hyn helpu i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn diogelu’ch hawl i:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • budd-daliadau oedran gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau
  • budd-daliadau profedigaeth i'ch partner.

Fel rheol, gall y bobl ganlynol hawlio credydau Yswiriant Gwladol mewn rhai amgylchiadau:

  • gofalwyr
  • Rhieni a gofalwyr maeth
  • aelod o'r teulu sy'n gofalu am blentyn (fel arfer tra bo'r rhiant neu'r prif ofalwr yn gweithio)
  • y sawl sy'n cael tâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.

Rydych yn gymwys am gredydau Yswiriant Gwladol os ydych:

  • yn, neu wedi bod yn hawlio budd-daliadau oherwydd iechyd gwael neu ddiweithdra
  • ar, neu wedi bod ar dâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu
  • yn, neu wedi bod yn gofalu am blentyn o dan 12 oed
  • ar, neu wedi bod ar gwrs hyfforddi cymeradwy
  • yn briod i neu’n bartner sifil i aelod o’r lluoedd arfog ac wedi mynd gyda’ch partner ar benodiad dramor
  • ar, neu wedi bod ar, wasanaeth rheithgor
  • wedi cyflawni dedfryd carchar am euogfarn a gafodd ei dileu yn ddiweddarach.

Gall ceisiadau am rai credydau cael eu hôl-ddyddio am nifer o flynyddoedd, felly mae bob amser werth gwirio a ydych yn gymwys.

Os nad oes gennych hawl i gredydau Yswiriant Gwladol, efallai y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol.

Budd-daliadau’r wladwriaeth

Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn deall pa gymorth y gallai fod gennych hawl iddo gan y Wladwriaeth.

Efallai y bydd gennych chi, neu'r person rydych yn gofalu amdano, hawl i wahanol fudd-daliadau a lwfansau.

Mae'n bwysig hawlio cyn gynted â phosibl fel na fyddwch ar eich colled o ran unrhyw fudd-daliadau.

Os ydych wedi cael gwybod nad ydych wedi talu digon o Yswiriant Gwladol i wneud cais am fudd-dal, mae’n werth gwirio a ydych wedi hawlio’r credydau Yswiriant Gwladol rydych yn gymwys iddynt. Darganfyddwch beth i’w wneud os yw Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eich budd-daliadau ar wefan Cyngor ar Bopeth.Yn agor mewn ffenestr newydd

Sefydliadau a all helpu

Mae llawer o sefydliadau a all helpu os ydych yn gofalu am berson arall, gan gynnwys:

Cyngor Ar Bopeth

Canolfan Gwasanaeth Anabledd yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Macmillan – os ydych yn gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sydd â chancr.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.