Gwneud eich arian yn haws i’w reoli eich hun

Cam 1 – Cael eich talu yn syth i’ch cyfrif banc

Fel arfer mae’n llawer haws i drefnu i’ch holl incwm gael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc.

Gallwch ddal i wneud hyn os ydych yn derbyn budd-daliadau, tâl salwch neu os ydych yn gweithio rhan-amser.

Mae’n beth da cael eich talu fel hyn oherwydd:

  • mae’n arbed teithiau i’r banc i chi.
  • mae’n fwy diogel na chario arian gyda chi.
  • nid oes rhaid i chi aros i siec glirio cyn cael eich arian.

Os nad oes gennych gyfrif banc a’ch bod yn meddwl y gallech gael anhawster agor un oherwydd bod gennych incwm isel neu statws credyd gwael, gallech wneud cais am gyfrif banc sylfaenol.

Dyma’r cyfrifon banc hawsaf i’w cael.

Cam 2 – Defnyddiwch Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog ar gyfer biliau

Wedi i chi lunio eich cyllideb a gweld bod gennych ddigon o arian yn dod i mewn i gyd-fynd â’ch gwariant, newidiwch eich biliau rheolaidd i Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.

Mae hyn yn syniad da oherwydd:

  • nid oes rhaid i chi boeni am gyrraedd y banc neu flwch post
  • cymerir taliadau yn awtomatig felly ni fydd rhaid i chi wynebu unrhyw gosbau taliad hwyr
  • mae nifer o gwmnïau, cynghorau a sefydliadau yn rhoi gostyngiad i bobl sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.

Ond gwnewch yn siwr bod digon o arian yn eich cyfrif.

Gall Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog a wrthodwyd eich gadael yn wynebu taliadau banc mawr.

Cam 3 – Gwnewch daliadau ar-lein neu ddefnyddio bancio dros y ffôn

Ar gyfer biliau na allwch eu talu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog, edrychwch i weld a allwch eu talu drwy ddefnyddio’ch gwasanaethau ar-lein neu fancio ffôn.

Os nad yw bancio ar-lein yn addas i chi, nid oes dim haws na chodi’r ffôn i dalu bil. Mae’n gyflym, hawdd a diogel talu fel hyn.

Cam 4 – Defnyddiwch fancio ar-lein neu dros y ffôn i gadw llygad ar eich balansau

Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cadw llygad barcud ar eich balans banc fel na fyddwch yn mynd i ddyled a gorfod talu ffioedd ychwanegol.

Gall bancio ar-lein neu dros y ffôn eich helpu i weld beth yw beth os ydych adref.

Os byddwch yn rhagweld trafferth, meddyliwch am ffonio eich banc cyn iddynt orfod eich ffonio.

Cam 5 – Gofynnwch am gymorth gan eich banc

Mae rhaid i fanciau sicrhau bod eu gwybodaeth a’u gwasanaethau mor hygyrch â phosibl ar gyfer eu cwsmeriaid anabl.

Mae’r cymorth y gallwch ofyn amdano yn cynnwys:

  • cyfriflenni banc a dogfennau eraill mewn fformatau Braille, print bras a sain
  • cownteri lefel isel mewn cangen a chownteri wedi’u ffitio â dolen sain
  • cardiau sglodyn a llofnod ar gyfer y cwsmeriaid hynny na allant gofio PIN
  • peiriannau ATM (peiriannau arian parod) sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac sydd â swyddogaeth testun-i-lais.

Gofynnwch i’ch banc ba gymorth y gallant ei gynnig i chi.

Cael rhywun i’ch helpu gyda’ch arian bob dydd

Ydych chi angen help i wneud pethau penodol, fel cael arian parod o’r banc? Yna gallwch ddysgu mwy am eich opsiynau a sut i wneud trefniadau i gael cymorth yn ein canllaw Cael cymorth anffurfiol i reoli eich arian.

Os ydych yn poeni am faint sydd gennych i fyw arno

Os ydych yn poeni am gael digon i fyw arno, cymrwch olwg ar ein cyngor ar gael dau ben llinyn ynghyd a hawlio’r budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am arbed arian ar filiau'ch cartref.

Os nad oes gennych gyfrif banc

Pan fyddwch yn agor cyfrif, bydd angen i chi ddangos prawf o bwy ydych a'ch cyfeiriad.

Os nad oes gennych y dogfennau cywir, gofynnwch i'r banc beth fyddant yn eu derbyn yn lle.

Bydd rhai banciau yn derbyn llythyr gan berson cyfrifol, fel athro/athrawes neu weithiwr cymdeithasol, neu lythyr hysbysiad budd-daliadau.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.