Gall prynu’r polisi yswiriant cywir am bris fforddiadwy fod yn anodd os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd. Yma rydym yn crynhoi’r hyn sydd angen i chi ei wybod i gael y polisi gorau ar gyfer eich anghenion am bris rhesymol.
Eich hawliau cyfreithiol
Gall cwmnïau yswiriant wrthod eich yswirio os ydyn nhw'n ystyried bod y risg yn rhy uchel. Gallant weithredu amodau arbennig neu godi tâl ychwanegol arnoch am bolisi os gallant ddangos bod mwy o risg y byddwch angen gwneud hawliad.
Ond dylent esbonio'r rheswm y gwrthodwyd chi neu fod amodau arbennig neu bremiwm ychwanegol wedi'u cymhwyso.
I bwy mae deddfwriaeth anabledd yn gymwys?
Hyd yn oed os nad ydych yn ystyried eich bod yn unigolyn anabl, mae’n bosibl y bydd gennych yr hawl gyfreithiol i beidio â dioddef gwahaniaethu oherwydd eich cyflwr.
Er enghraifft, os oes gennych:
- gyflwr iechyd corfforol fel canser, MS neu HIV
- salwch meddwl megis iselder.
Mae’r ddeddfwriaeth, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn gymwys i unrhyw unigolyn sydd ag ‘amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor’ ar ei allu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol.
Darganfyddwch fwy am wahaniaethu ar sail anabledd ar y wefan Cyngor ar Bopeth
Darganfyddwch fwy am yswiriant ac iechyd meddwl ar y wefan Mind
Yswiriant teithio
Pethau i’w gwirio wrth brynu yswiriant teithio
Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd - y cyfeirir ato gan yswirwyr fel ‘cyflwr a oedd yn bodoli eisoes’ - mae angen ichi gymryd gofal arbennig wrth chwilio am yswiriant teithio. Os nad ydych yn datgan gwybodaeth pan fydd y cwmni yswiriant yn gofyn, gallai eich yswiriant fod yn annilys ac efallai y bydd hi'n anoddach i chi sicrhau yswiriant yn y dyfodol.
Mae hefyd yn bwysig wirio bod y polisi’n rhoi sicrwydd am unrhyw gyfarpar drud mae angen ichi fynd ag ef gyda chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant teithio os oes gennych gyflwr meddygol
Ble i brynu yswiriant teithio os ydych yn anabl neu os oes gennych chi gyflwr meddygol
Os oes gennych gyflwr meddygol, neu os ydych wedi cael salwch difrifol, gallai fod yn anodd cael yswiriant teithio.
Mae gan ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio fanylion cyswllt darparwyr sy'n arbenigo mewn darparu yswiriant teithio i bobl â chyflyrau meddygol difrifol.
Chwiliwch am frocer yswiriant arbenigol trwy ddefnyddio gwasanaeth Canfod Brocer BIBA
Sut i wirio eich polisi yswiriant teithio
Os ydych am wirio bod y polisi rydych ar fin ei brynu’n ddigon da, rydym wedi creu rhestr o nodweddion a lefelau sicrwydd ichi ei wirio o’i gymharu â hi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant teithio - sut mae polisi da yn edrych?
Yswiriant bywyd
Os oes sicrwydd bywyd gennych eisoes
Os oes gennych bolisi yswiriant bywyd eisoes a’ch bod yn datblygu cyflwr iechyd neu anabledd, nid oes rhaid ichi hysbysu’ch cwmni yswiriant oni bai ei fod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny yn y polisi.
Beth bynnag a wnewch, peidiwch â chanslo’ch polisi gan ei fod yn annhebygol y byddwch yn gallu ei amnewid nawr bod gennych yr hyn mae yswirwyr yn ei alw yn ‘gyflwr a oedd yn bodoli eisoes’.
Pethau mae angen ichi eu gwybod wrth brynu yswiriant bywyd.
Ni ddylai bod yn anabl neu fod â chyflwr meddygol eich atal rhag cael sicrwydd bywyd, ond yn y mwyafrif o achosion bydd yn costio mwy a hefyd gallai fod yn anodd dod o hyd iddo.
Bydd y siawns y cynigir polisi fforddiadwy i chi yn dibynnu ar ffactorau gan gynnwys difrifoldeb eich anabledd, ei effaith ar eich disgwyliad oes ac i ba raddau y mae'n effeithio ar eich trefn ddyddiol. Peidiwch â chael eich temtio i ddal gwybodaeth am eich cyflwr yn ôl.
Gallai hyn olygu bod eich polisi’n annilys ac efallai na fydd y cwmni yswiriant yn talu os oes mae’n rhaid i chi wneud cais.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o bolisi neu lefel yr yswiriant i'w gael, darllenwch ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd?
Ble i brynu yswiriant bywyd os ydych yn anabl neu os oes gennych chi gyflwr meddygol
Efallai y byddwch am ddefnyddio brocer arbenigol i chwilio’r farchnad ar eich rhan ac i argymell polisi addas. Mae yna gynghorwyr a broceriaid sy'n arbenigo mewn dod o hyd i yswiriant ar gyfer pobl sy'n anabl neu sydd â chyflyrau meddygol.
Gall y gwasanaeth yswiriant BIBA helpu eto helpu gyda hyn.
Fel arall, os oes gennych salwch penodol, ceisiwch gysylltu â'r elusen berthnasol i gael cyngor ar yswiriant bywyd.
Er enghraifft, mae Cancer Research neu Macmillan Cancer Support yn cynnig gwybodaeth am yswiriant bywyd ar gyfer dioddefwyr canser.
Mae'n bwysig edrych o gwmpas a chymharu gwahanol yswirwyr - gall meini prawf a dulliau amrywio'n sylweddol rhwng gwahanol ddarparwyr. Efallai y bydd rhai yswirwyr yn cynnig polisi yswiriant bywyd gyda gwaharddiadau, a fydd yn talu allan os bydd marwolaeth, oni bai bod y farwolaeth yn ganlyniad i'r anabledd.
Darllenwch ein canllaw Pryd i ddefnyddio brocer yswiriant
Pethau i wylio amdanynt wrth brynu yswiriant bywyd - ar y wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Yswiriant cartref
A ddylech sôn am eich anabledd wrth brynu yswiriant cartref?
Ni ddylai’r ffaith eich bod yn anabl neu’ch bod â chyflwr iechyd effeithio ar eich gallu i gael sicrwydd yswiriant cartref cystadleuol.
Llawer o gyfarpar drud i’w hyswirio?
Os yw eich cartref wedi’i addasu gydag eitemau drud fel lifftiau grisiau, taclau codi a lifftiau baddon, sicrhewch eu bod i gyd wedi’u hyswirio ar gyfer difrod damweiniol dan eich polisi cynnwys.
Peidiwch â chael eich temtio i beidio cael yswiriant digonol ar gyfer eich cynnwys. Adiwch, ystafell wrth ystafell, beth fyddai popeth yn ei gostio i’w brynu eto.
Gweler ein canllawiau ar yswiriant cartref er mwyn penderfynu ar fath a lefel yr yswiriant rydych ei angen
Chwilio am yswiriant cartref
Barod i brynu? Darllenwch ein canllaw Yswiriant cartref - sut i gael y fargen orau
Yswiriant car
Os oes yswiriant car gennych eisoes
Os ydych yn datblygu cyflwr iechyd neu anabledd dylech hysbysu’ch cwmni yswiriant car.
Os oes gennych broblem iechyd meddwl a allai effeithio ar eich gyrru, fel seicosis, anhwylder deubegwn a sgitsoffrenia, rhaid i chi roi gwybod i DVLA fel y gallant asesu a ydych chi'n ddiogel i barhau i yrru.
Efallai y bydd eich meddyg teulu hefyd yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i'r DVLA os oes gennych broblem iechyd meddwl a allai o bosibl effeithio ar eich gallu i yrru, fel iselder ysbryd, pryder neu anhwylder straen wedi trawma. Ond ni all eich darparwr yswiriant car godi premiwm uwch arnoch na chynyddu eich gormodedd heb dystiolaeth eich bod yn risg uwch.
Os ydych yn gyrru cerbyd wedi’i addasu
Os ydych yn gyrru cerbyd sydd wedi’i addasu’n arbennig i gwrdd â’ch anghenion, gall y cwmni yswiriant gynyddu eu taliadau er mwyn gwrthbwyso cost uwch unrhyw waith trwsio y gallai fod ei angen yn y dyfodol.
Pan fyddwch chi'n cael dyfynbris, mae'n werth gwirio gyda'r yswiriwr y byddai'ch premiwm yn diwallu'ch anghenion penodol, fel y math o gar cwrteisi y byddai ei angen arnoch chi.
Os ydych yn defnyddio cerbyd a ddarperir gan y cynllun Motability cynhwysir yswiriant gydag ef
Mae rhai cwmnïau yswiriant a broceriaid yn arbenigo mewn yswiriant ar gyfer gyrwyr anabl.
Gweler yr yswirwyr arbenigol a argymhellir gan Disabled Motoring UK
Mae gan Gymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) gronfa ddata o froceriaid y gallwch ei chwilio er mwyn dod o hyd i’r rhai hynny sy’n yswirio cerbydau wedi’u haddasu.
Chwiliwch am frocer yswiriant arbenigol trwy ddefnyddio gwasanaeth Canfod Brocer BIBA
Beth i'w wneud os credwch eich bod wedi dioddef gwahaniaethu
Er bod rhai sefyllfaoedd pan all yswirwyr eich gwrthod neu gynnig telerau arbennig i chi, bu sefyllfaoedd lle gwrthodwyd yswiriant ar gam i bobl ar sail eu hiechyd corfforol neu feddyliol.
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb gallwch herio darparwr yswiriant os credwch nad yw asesiad risg yn seiliedig ar ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy neu berthnasol.
Os credwch fod hyn wedi digwydd i chi, gallwch gwyno yn gyntaf i'r cwmni dan sylw ac yna, yn dibynnu ar y canlyniad, i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol am ddim.