Yswiriant teithio os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd sy’n bodoli eisoes

Os oes gennych gyflwr meddygol, neu os ydych erioed wedi cael salwch difrifol, gall fod yn anodd cael yswiriant teithio. Darganfyddwch sut i gael yr yswiriant rydych ei angen am y pris iawn.

Yswiriant teithio os oes gennych gyflwr meddygol

Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau chwilio am yswiriant teithio os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd.

Gall y cyflyrau hyn cynnwys nifer o gyflyrau iechyd corfforol a/neu feddyliol sydd ag effaith hirdymor ar eich gallu i gwblhau gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Mae sawl darparwr yswiriant teithio sy’n cynnwys nifer o gyflyrau iechyd ac anableddau; gwelwch ein Cyfeirlyfr yswiriant teithio.

Mae’n debyg bydd yswirwyr am wybod manylion am eich cyflwr iechyd neu anabledd, sut mae’n effeithio ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd ac unrhyw drefniadau arbennig efallai bydd angen amdanoch chi neu’ch cyfarpar meddygol. 

Beth sy’n cael ei ystyried yn gyflwr meddygol ar gyfer yswiriant teithio?

Mae gan wahanol gwmnïau yswiriant ddiffiniadau gwahanol. Ond mae’n debyg y bydd eich yswiriwr yn ystyried unrhyw un o’r canlynol fel cyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes:

  • unrhyw gyflwr rydych yn aros am lawdriniaeth ar ei gyfer
  • unrhyw gyflwr rydych yn aros am ganlyniadau profion amdano ar hyn o bryd
  • unrhyw gyflwr, hyd yn oed un bach, rydych wedi gweld meddyg amdano yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
  • unrhyw gyflwr difrifol – canser, trafferthion y galon, problemau anadlu – rydych erioed wedi’i gael.
Os nad ydych yn meddwl bod eich cyflwr meddygol yn ddifrifol, mae dal yn werth ceisio darparwr sydd ar ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio yn ogystal â chwmni prif ffrwd i gymharu prisiau.

Defnyddio brocer yswiriant teithio

Os yw siopa o gwmpas yn rhy flinedig, gallwch ofyn i frocer yswiriant teithio wneud hwn ar eich rhan. Bydd dim ond angen i chi ddarparu eich manylion unwaith, a bydd y brocer yn danfon y rhain ymlaen i sawl yswiriwr gwahanol.

Gall brocer yswiriant hefyd eich cefnogi os oes angen i chi wneud cais.

Gallwch ddod o hyd i frocer yswiriant trwy’r British Insurance Brokers’ AssociationYn agor mewn ffenestr newydd

Yswiriant teithio os ydych yn teithio yn y DU

Hyd yn oed os nad ydych yn teithio dramor, mae’n dal yn syniad da cael yswiriant teithio.

Mae’r mwyafrif o bolisïau’n cynnwys yswiriant ar gyfer:

  • bagiau yn cael eu colli neu eu dwyn
  • costau meddygol brys
  • costau canslo, gohirio neu dorri’ch taith yn fyr (bydd rhai polisïau’n talu os yw’n gysylltiedig â choronafeirws)
  • atebolrwydd personol, rhag ofn eich bod wedi cael eich siwio am niweidio eiddo neu achosi anaf.

A yw yswiriant teithio yn werth chweil?

Gallai teithio heb yswiriant, yn enwedig os oes gennych gyflwr meddygol difrifol, fod yn llawer mwy costus na chost polisi.

Gallai olygu peidio â chael y driniaeth rydych ei hangen yn gyflym neu wynebu biliau meddygol enfawr neu gostau uchel i’ch cael adref.

Felly, mae’n bwysig peidio â mentro teithio heb yswiriant.

Beth dylwn ei wneud os na allaf gael yswiriant teithio?

Efallai na fydd yn bosibl cael yswiriant ar gyfer y daith roeddech wir wedi edrych ymlaen ati, naill ai oherwydd oedran neu resymau meddygol. Efallai na fydd hefyd yn bosibl cael yswiriant os ydych yn aros am ddiagnosis am gyflwr meddygol difrifol neu ddiagnosis diwygiedig o gyflwr iechyd sydd gennych eisoes. 

Fodd bynnag, efallai y bydd gennych fwy o siawns os byddwch yn newid i:

  • lleoliad arall – yn agosach i gartref efallai, neu
  • o bolisi aml-daith i un daith.

Mae’n werth dyfalbarhau gan nad yw’r risgiau o deithio heb yswiriant – yn enwedig os oes gennych gyflwr meddygol – yn werth chweil.

Mae gan ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio fanylion cyswllt darparwyr sy’n arbenigo mewn darparu yswiriant teithio i bobl â chyflyrau meddygol difrifol.

Yswiriant teithio a choronafeirws

Mae’r pandemig presennol wedi newid polisïau yswiriant teithio a’r hyn a fydd ac na fydd yn cael ei yswirio.

Bydd gan y mwyafrif o bolisïau yswiriant teithio sy’n cael eu cyhoeddi nawr ryw fath o yswiriant coronafeirws ond, fel bob amser, darllenwch delerau’r polisi yn ofalus iawn.

Er enghraifft, os yw yswiriant rhag canslo oherwydd coronafeirws wedi’i gynnwys yn y polisi, fel arfer dim ond os yw’r deiliad polisi’n profi’n bositif am y feirws y bydd hyn yn berthnasol. Os oes rhaid i chi ganslo oherwydd bod rhaid i chi hunan-ynysu neu fod mewn cwarantin, yna ni fydd y rhan fwyaf o bolisïau’n talu allan.

Os oes gennych bolisi yswiriant teithio yn barod, gwiriwch y telerau’n ofalus i weld a oes gennych yswiriant os:

  • rydych yn profi’n bositif am goronafeirws cyn i chi deithio,
  • neu tra’ch bod ar eich taith.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan