Mae unrhyw arian neu gynilion sydd yn enw’ch plentyn yn perthyn iddynt ac nid i chi neu’ch cyn bartner. Ond efallai y bydd angen i chi hysbysu’r banc, cymdeithas adeiladu neu’r llywodraeth ynglŷn â’r newid yn eich amgylchiadau.
Beth sy’n cyfrif fel cyfrifon neu gynilion plant?
Mae cyfrifon neu gynilion plant yn cynnwys pethau fel:
- ISAs i Bobl Iau
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant
- Cynilion Cenedlaethol
- Banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’ch plentyn
- Bondiau Plant.
Mae’r rheolau ar gyfer Bondiau Plant wedi newid – darganfyddwch fwy yn ein canllaw Bondiau Plant
Cyfrifon plant ac arian a ofalir amdanynt ar y cyd
Mae arian mewn cyfrif plentyn yn perthyn i’r plentyn.
Ond byddwch yn ymwybodol fod rhai pobl yn talu arian i mewn i gyfrif plentyn heb fwriad o gwbl i roi’r arian hwnnw i’r plentyn. Mae eraill yn cymryd arian allan o gyfrif plentyn.
Os ydych yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil, mae rhai amgylchiadau prin lle gellir cynnwys cynilion plant ymysg yr asedau ariannol sydd i’w rhannu.
Os, er enghraifft, y bydd eich cyn ŵr, cyn wraig neu bartner sifil yn rhoi ei arian ef neu hi’n fwriadol yng nghyfrif eich plentyn er mwyn eich atal chi rhag ei gael.
Ydych chi’n pryderu y gall eich cyn-bartner gymryd arian o gyfrif eich plentyn? Yna gallwch ofyn i’r banc neu i’r gymdeithas adeiladu rewi’r cyfrif dros dro.
Mae’n bwysig i gael cyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
Dweud wrth y banc neu gymdeithas adeiladu eich bod wedi newid cyfeiriad
Os mai chi yw’r cyswllt a enwir ar gyfrif eich plentyn a’ch bod yn newid cyfeiriad, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod iddynt - er enghraifft y banc neu’r gymdeithas adeiladu.
Ac os yw’ch plentyn yn ddigon hen i gynnal cyfrif yn eu henw eu hun, gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn dweud wrth y banc neu gymdeithas adeiladu am y cyfeiriad newydd, os yw’n symud..
Efallai y gall eich plentyn wneud hyn ar-lein neu dros y ffôn.
Newid y cyswllt cofrestredig
Efallai y penderfynwch yr hoffech chi newid enw’r unigolyn a gofrestrwyd fel cyswllt.
Os dymunwch wneud hyn, fel arfer bydd yn rhaid i chi ffonio’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant neu’r darparwr ISA Iau, neu gwblhau ‘ffurflen dileu cyswllt cofrestredig’.
Gall y broses amrywio o ddarparwr i ddarparwr, ac efallai y bydd yn ofynnol i chi a’ch cyn bartner arwyddo’r ffurflen i nodi eich bod yn cytuno â’r newid.
Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, mae’n debygol bod ganddynt gyfrif mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Dyma gyfrif cynilo hirdymor, di-dreth, lle rhoddodd y llywodraeth daleb i bob plentyn i’w thalu i mewn i’r cyfrif.
Nid oes unrhyw Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant newydd yn cael eu cyhoeddi. Ond, gall y cyswllt cofrestredig, aelodau eraill o’r teulu a ffrindiau barhau i ychwanegu at y cyfrif hyd nes i’r plentyn gyrraedd 18 oed.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant
ISAs i Bobl Iau
Mae ISAs i Bobl Iau wedi disodli Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant. Maent ar gael i blant dan 18 oed nad ydynt yn gymwys i gael Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Yn union fel Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, maent yn gyfrifon hirdymor a di-dreth.
Gallwch symud arian rhwng gwahanol ddarparwyr o ISAs i Bobl Iau.
Ac, os oes gan eich plentyn Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, gallwch drosglwyddo’r arian i ISA i Bobl Iau. Mantais gwneud hyn yw bod rhai darparwyr ISA i Bobl Iau yn talu cyfradd llog uwch na’r hyn sydd ar gael mewn Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.