Faint o gynhaliaeth plant ddylwn i ei dalu?

Os oes gennych chi a’ch cynbartner blant, mae disgwyl i chi eich dau barhau i dalu tuag at eu costau ar ôl i chi wahanu. Ac mae hynny’n aml yn golygu y bydd un rhiant yn talu i’r llall. Gallwch gytuno ar hyn rhyngoch, neu, os na allwch gytuno, gofynnwch i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gyfrifo’r swm.

Trefnu cynhaliaeth plant eich hunain

Os byddwch chi a’r rhiant arall yn trefnu cynhaliaeth plant rhyngddoch, mae gennych y rhyddid i benderfynu ar y swm y bydd un rhiant yn ei dalu i’r llall. Cyfeirir at hyn fel trefniant seiliedig ar y teulu.

Tra nad oes yn rhaid i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fod yn rhan os ydych yn gwneud hyn, mae’n syniad da i wirio’r swm rydych yn cytuno arno yn erbyn beth fyddant hwy yn ei asesu i fod.

Mae’n bwysig meddwl beth fyddech chi’n hoffi ei gynnwys yn y taliad hwn a sut y byddech yn hoffi talu:

  • A ydych am dalu swm penodol cyson neu a fyddwch yn ei amrywio i helpu i dalu am dreuliau ychwanegol trwy gydol y flwyddyn?
  • A ydych am dalu yn uniongyrchol am bethau fel gwisg ysgol, gweithgareddau neu wyliau?
  • A ydych am dalu canran o’ch enillion? Os yw eich enillion yn amrywio, gall hyn fod o gymorth i chi ond byddai’n golygu y bydd yn anodd rhagweld y swm o gynhaliaeth plant.

Faint mae disgwyl i chi ei dalu?

Os na allwch gytuno ar faint o gynhaliaeth plant y dylai un rhiant ei dalu i’r un arall, gallwch ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ei gyfrifo i chi.

Byddant yn ystyried:

  • faint to blant sydd gennych
  • incwm y rhiant sy’n talu
  • faint o amser fyddant yn ei dreulio gyda’r rhiant sy’n talu
  • a yw’r rhiant sy’n talu yn talu cynhaliaeth plant am blant eraill.

Pryd mae cynhaliaeth plant yn dod i ben?

Fel arfer mae disgwyl i chi dalu cynhaliaeth plant nes bydd eich plentyn yn 16 oed, neu yn 20 os byddant mewn ysgol neu goleg llawn amser yn astudio am:

  • Lefel A
  • Highers, neu
  • gyfatebol.

Gall cynhaliaeth plant ddod i ben yn gynharach – er enghraifft petai un rhiant yn marw neu os bydd y plentyn yn peidio â bod yn gymwys am fudd-dal plant.

Sut mae eich incwm yn effeithio ar faint fyddwch yn ei dalu

Mae cyfraddau gwahanol o gynhaliaeth plant yn ôl incwm wythnosol gros y rhiant sy’n talu – mae hyn yn golygu faint y byddwch yn ei dderbyn cyn i bethau fel treth ac Yswiriant Gwladol gael eu tynnu allan.

Symiau cynhaliaeth plant yn seiliedig ar dâl wythnosol
Incwm gros wythnosol Cyfradd Swm wythnosol

Anhysbys

Diofyn

£38 i un plentyn, £51 i ddau blentyn, £61 i dri neu fwy o blant

Llai na £7

Dim

Ni fyddwch yn talu unrhyw gynhaliaeth plant

Rhwng £7 a £100 neu os byddwch ar fudd-daliadau

Gwastad

£7 yr wythnos

Rhwng £100.01 a £199.99

Wedi’i ostwng

Rhwng £200 a £3000

Sylfaenol

(ffigyrau 2021 - gweler GOV.UK am fwy o fanylion)

Os yw eich incwm wythnosol gros yn fwy na £3,000,  gallwch ymgeisio i’r llys am orchymyn ychwanegiad at gynhaliaeth plant.

Ond cyn y gall y llys ddelio â’ch cais, byddant angen gweld cyfrifiad Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant sy’n dangos hyn.

Sut y mae’r nifer o blant yn effeithio ar faint y byddwch yn ei dalu

Os ydych yn talu cynhaliaeth plant a’ch bod ar y gyfradd sylfaenol o gynhaliaeth plant, bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar y nifer o blant y bydd gofyn i chi dalu ar eu cyfer.

Mae’r ffigyrau isod yn tybio bod eich plant yn aros gyda’r rhiant sy’n derbyn cynhaliaeth plant trwy’r amser.

Ar y gyfradd sylfaenol, os byddwch yn talu ar gyfer:

  • un plentyn: byddwch yn talu 12% o’ch incwm wythnosol gros
  • dau blentyn: byddwch yn talu 16% o’ch incwm wythnosol gros
  • tri neu fwy o blant: byddwch yn talu 19% o’ch incwm wythnosol gros

Sut y mae rhannu’r gofal yn effeithio ar gynhaliaeth plant

Mae llawer o rieni yn penderfynu rhannu’r gofal am eu plant.

Os bydd eich plant yn treulio peth amser gyda’r rhiant sy’n talu, bydd hyn yn lleihau’r swm o gynhaliaeth plant y bydd ef neu hi yn ei dalu.

Mae ‘bandiau’ gwahanol sy’n pennu faint y bydd y gynhaliaeth plant yn cael ei ostwng.

Mae swm y gynhaliaeth plant yn cael ei ostwng ar gyfer pob plentyn sy’n treulio amser gyda’r rhiant sy’n talu.

Os yw eich plentyn gyda’r rhiant sy’n talu rhwng:

  • 52 a 103 noson: mae cynhaliaeth plant yn cael ei ostwng o 1/7fed am bob plentyn
  • 104 a 155 noson: mae cynhaliaeth plant yn cael ei ostwng o 2/7fed am bob plentyn
  • 156 a 174 noson: mae cynhaliaeth plant yn cael ei ostwng o 3/7fed am bob plentyn
  • 175 noson neu fwy: mae cynhaliaeth plant yn cael ei ostwng 50%, a gostyngiad ychwanegol o £7 yr wythnos ar gyfer pob plentyn

Talu am blant o berthynas arall

Os yw incwm wythnosol gros y rhiant sy’n talu rhwng £200 a £3,000 yr wythnos ac maent yn talu cynhaliaeth plant am blant eraill, mae hyn yn cael ei ystyried wrth gyfrifo faint y dylent ei dalu.

Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn syml yn lleihau’r swm o incwm wythnosol y mae’n gymryd i ystyriaeth. Er enghraifft, os yw’r rhiant sy’n talu yn talu ar gyfer:

  • un plentyn arall, bydd eu hincwm wythnosol yn cael ei ostwng o 11%
  • dau blentyn arall, bydd eu hincwm wythnosol yn cael ei ostwng o 14%
  • tri phlentyn neu fwy, bydd eu hincwm thnosol yn cael ei ostwng o 16%
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.