Mae defnyddio cyfreithiwr yn un o'r ffyrdd mwyaf dibynadwy o ysgrifennu eich ewyllys, ond fel arfer dyma'r opsiwn drutaf.
Yr hyn sydd yn y canllaw hwn
- A ddylwn i ddefnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu fy ewyllys?
- Faint mae cyfreithiwr yn ei godi am ewyllys?
- Gwasanaethau cyfreithiwr am ddim drwy elusennau
- Yr hyn a gewch wrth ddefnyddio cyfreithiwr rheoleiddiedig ar gyfer ewyllys
- Sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad cyntaf gyda chyfreithiwr ar gyfer ewyllys
- Cwestiynau i'w gofyn i gyfreithiwr am ysgrifennu ewyllys
- Pa mor hir mae'n ei gymryd i gyfreithiwr ysgrifennu ewyllys?
- Sut i ddewis y cyfreithiwr cywir ar gyfer eich ewyllys
- Pethau i fod yn wyliadwrus ohono wrth ddewis cyfreithiwr
A ddylwn i ddefnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu fy ewyllys?
Efallai nad cyfreithiwr yw'r dewis cywir i bawb sydd eisiau ewyllys. Efallai y byddwch chi'n gweld bod opsiwn rhatach yn gweithio cystal os yw'ch sefyllfa'n syml. Er enghraifft:
- rydych chi eisiau gadael popeth i nifer fach o bobl
- dim ond eiddo yn y DU rydych chi'n berchen arno
- nid oes unrhyw drefniadau teuluol neu ariannol cymhleth.
Ond mae sefyllfaoedd eraill yn fwy addas ar gyfer cyngor cyfreithiol proffesiynol. Gall cyfreithiwr eich helpu i osgoi camgymeriadau a allai wneud eich ewyllys yn anoddach i'w gorfodi, neu olygu nad yw'ch dymuniadau'n cael eu cyflawni fel yr oeddech chi'n bwriadu
Pryd i ystyried defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu ewyllys
Ystyriwch ddefnyddio cyfreithiwr os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
- Rydych chi'n berchen ar asedau dramor, fel tŷ gwyliau neu gyfrif banc tramor. Mae gan wahanol wledydd wahanol gyfreithiau etifeddiaeth, felly mae angen trin hyn yn ofalus.
- Rydych chi'n rhedeg busnes neu mae gennych chi gyfran mewn un.
- Mae'n debygol y bydd eich ystâd yn werth mwy na’r trothwy Dreth Etifeddiaeth. Gall cyfreithiwr eich helpu i ddeall eich opsiynau a chynllunio yn unol â hynny.
- Mae gennych blant o berthynas flaenorol neu mae eich sefyllfa deuluol wedi'i chymysgu mewn rhyw ffordd.
- Rydych chi wedi ysgaru, wedi gwahanu neu'n byw gyda phartner nad ydych chi'n briod ag ef/hi neu mewn partneriaeth sifil.
- Rydych chi eisiau sefydlu ymddiriedolaeth. Er enghraifft, i amddiffyn asedau ar gyfer plant ifanc neu berthynas fregus.
- Mae gan unrhyw un o'ch buddiolwyr anabledd neu maent yn derbyn budd-daliadau prawf modd. Gallai gadael arian iddynt yn uniongyrchol effeithio ar eu hawliau.
- Mae gennych ddiagnosis lle gallai eich gallu meddyliol gael ei amau'n ddiweddarach. Er enghraifft, Dementia neu Glefyd Alzheimer.
- Rydych chi'n berchen ar eiddo gyda rhywun nad yw'n briod nac yn bartner sifil i chi.
Dewisiadau amgen rhatach i'w hystyried os yw'ch sefyllfa'n syml
Os nad yw'r un o'r datganiadau uchod yn berthnasol i chi, gallech ystyried ffordd rhatach o ysgrifennu ewyllys.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau eraill:
Faint mae cyfreithiwr yn ei godi am ewyllys?
Mae cost defnyddio cyfreithiwr ar gyfer ewyllys yn dibynnu ar eich sefyllfa a lle mae'r cwmni wedi'i leoli. Dyma rai costau nodweddiadol i roi syniad i chi:
- £180 i £420 am ewyllys syml
- £420 i £900 am ewyllys fwy cymhleth mewn cwmni stryd fawr – neu dros £1,800 mewn cwmni mwy.
Mae'r hyn sy'n cyfrif fel cymhleth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Os yw'ch ewyllys yn cynnwys cynllunio treth, eiddo tramor neu ymddiriedolaethau, gall costau fod yn gannoedd o bunnoedd neu fwy.
Fel arfer, bydd cyfreithiwr yn rhoi syniad cliriach i chi o'r gost ar ôl iddynt ddeall eich sefyllfa. Gofynnwch am ffi sefydlog bob amser yn hytrach nag amcangyfrif cost. Mae ffi sefydlog yn cloi'r pris; gall amcangyfrif newid.
Mae ewyllysiau drych ar gyfer cyplau fel arfer yn rhatach
Os yw'ch ewyllys bron yn union yr un fath â'ch partner, mae cael ewyllys drych fel arfer yn rhatach na dwy ewyllys ar wahân. Er enghraifft, os yw'ch ewyllys yn gadael popeth i’ch partner ac ewyllys eich partner yn gadael popeth i chi.
Gwasanaethau cyfreithiwr am ddim drwy elusennau
Mae rhai elusennau a chynlluniau yn cynnig ysgrifennu ewyllysiau am ddim drwy gyfreithwyr. Mae hyn yn cynnwys:
- Mis Ewyllysiau Am DdimYn agor mewn ffenestr newydd yn ystod mis Mawrth a mis Hydref mewn rhannau o Gymru a Lloegr
- Will Aid ym mis TachweddYn agor mewn ffenestr newydd – fel arfer mae angen archebu ymlaen llaw.
Mae'r gwasanaethau hyn yn gweithio'n dda os yw'ch sefyllfa'n syml. Er enghraifft, os ydych chi'n gadael popeth i un neu ddau o bobl heb unrhyw drefniadau cymhleth.
Pan fyddwch chi'n defnyddio un o'r gwasanaethau hyn, gofynnir i chi a hoffech chi adael rhodd i elusen yn eich ewyllys. Nid oes rhaid i chi, ac mae'r swm yn gyfan gwbl i fyny i chi.
Os yw'ch amgylchiadau'n fwy cymhleth, efallai na fydd y cynlluniau hyn yn gallu darparu'r lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, felly mae'n werth ystyried cyfreithiwr preifat yn lle.
Yr hyn a gewch wrth ddefnyddio cyfreithiwr rheoleiddiedig ar gyfer ewyllys
Rheoleiddio ac amddiffyn
Mae cyfreithwyr yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA)Yn agor mewn ffenestr newydd
Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, gallwch gwyno i'r cwmni yn gyntaf ac yna i'r Ombwdsmon Cyfreithiol os na chaiff y mater ei ddatrysYn agor mewn ffenestr newydd
Mae'n ofynnol hefyd i gyfreithwyr gael yswiriant indemniad proffesiynol, sy'n darparu haen ychwanegol o amddiffyniad.
Llai o risg o gamgymeriadau
Gall camgymeriadau fel defnyddio'r tystion anghywir neu lofnodion coll wneud ewyllys yn annilys, felly gall cyfreithiwr eich helpu i osgoi'r problemau hyn.
Ar ôl ei llofnodi o flaen dau dyst annibynnol, daw eich ewyllys yn ddilys yn gyfreithiol. Gall camgymeriadau nad ydynt yn cael eu dal yn gynnar fod yn gostus ac yn llawn straen i'ch teulu eu datrys yn ddiweddarach.
Cymorth gyda sefyllfaoedd cymhleth
Mae cyfreithwyr yn deall Treth Etifeddiaeth, ymddiriedolaethau a chymhlethdodau cyfreithiol eraill y gall fod yn hawdd eu gwneud yn anghywir heb arweiniad proffesiynol.
Storio diogel
Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn storio'ch ewyllys wreiddiol yn ddiogel heb unrhyw dâl ychwanegol.
Sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad cyntaf gyda chyfreithiwr ar gyfer ewyllys
Gall mynd i weld cyfreithiwr am y tro cyntaf deimlo'n frawychus, yn enwedig os nad ydych erioed wedi gwneud ewyllys o'r blaen.
Dylai eich cyfreithiwr:
- ofyn cwestiynau manwl am eich amgylchiadau, eich teulu a'ch iechyd
- egluro'ch opsiynau'n glir
- rhoi ffi neu amcangyfrif sefydlog i chi yn gynnar ac egluro sut mae'n cael ei gyfrifo
- darparu cyngor sy'n gyfrinachol a rhoi eich lles pennaf yn gyntaf
- drafftio a gwirio'ch ewyllys yn ôl eich cyfarwyddiadau
- goruchwylio llofnodi a thystio'ch ewyllys.
Mae bod yn barod yn golygu y byddwch yn cael mwy allan o'r cyfarfod, a allai arbed amser ac arian i chi.
Beth i ddwyn ynghyd ac ystyried cyn i chi fynd
Dechreuwch drwy gael darlun clir o'r hyn sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys:
- eiddo – naill ai’n eiddo i chi’ch hun neu gydag eraill
- cynilion a chyfrifon banc
- pensiynau
- buddsoddiadau neu gyfranddaliadau
- asedau tramor, fel tŷ gwyliau neu gyfrif banc tramor
Nid oes angen ffigurau union arnoch, ond bydd syniad bras o’r hyn sydd gennych a ble ydyw helpu’r cyfreithiwr i ddeall eich sefyllfa.
Cyn i chi weld cyfreithiwr, mae’n help i feddwl am yr hyn rydych chi am ei gynnwys. Gall ein canllaw Gwneud ewyllys a chynllunio beth i’w adael eich helpu i baratoi
Ystyriwch pwy rydych chi am iddo elwa a phwy fydd yn gyfrifol
Meddyliwch am:
- eich buddiolwyr – i bwy rydych chi am adael pethau (pobl a/neu sefydliadau)
- eich ysgutor – y person sy’n gyfrifol am gyflawni eich dymuniadau ar ôl i chi farw, fel ffrind dibynadwy, aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol
- gwarcheidwad – rhywun i ofalu am unrhyw ddibynyddion neu blant dan 18 oed.
Mae’n bwysig dewis eich ysgutorion yn ofalus. Gall ein canllaw Pwy all fod yn ysgutor ewyllys? helpu
Dyledion ac ymrwymiadau ariannol
Gwnewch nodyn o unrhyw ddyledion sylweddol, fel morgais, benthyciadau neu gardiau credyd. Bydd y rhain yn effeithio ar werth eich ystâd pan fyddwch chi'n marw.
Unrhyw roddion yr hoffech eu rhoi
Os ydych chi am adael eitemau neu symiau penodol i bobl benodol, ysgrifennwch y rhain ymlaen llaw. Er enghraifft, darn o emwaith i ŵyr neu rodd i elusen.
Eich dymuniadau angladd
Nid ewyllys yw'r unig le i gofnodi dymuniadau angladd, ond mae llawer o bobl yn dewis eu cynnwys.
Meddyliwch a oes gennych unrhyw ddewisiadau ynghylch claddu neu amlosgi, neu fath penodol o wasanaeth.
Unrhyw beth sy'n gwneud eich sefyllfa'n fwy cymhleth
Mae angen cynllunio mwy gofalus ar gyfer rhai amgylchiadau. Rhowch wybod i'r cyfreithiwr os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych blant o berthynas flaenorol, neu deulu cymysg
- rydych chi'n priodi, yn mynd i mewn i bartneriaeth sifil neu'n ysgaru (mae priodas yn canslo unrhyw ewyllys flaenorol yn awtomatig)
- rydych chi'n gwahanu oddi wrth eich partner (os nad ydych chi'n briod)
- mae eich buddiolwyr yn cynnwys rhywun sy'n fregus neu ag anabledd
- rydych chi eisiau sefydlu ymddiriedolaeth (er enghraifft, i ddiogelu asedau ar gyfer plant ifanc)
- rydych chi eisiau eithrio rhai aelodau o'r teulu o'ch ewyllys.
Mae bod yn agored am y pethau hyn yn golygu y gall y cyfreithiwr roi cyngor priodol i chi, yn hytrach na sylwi ar broblem yn ddiweddarach.
Cwestiynau i'w gofyn i gyfreithiwr am ysgrifennu ewyllys
Mae'n gwbl resymol gofyn cwestiynau cyn i chi ymrwymo i ddefnyddio cyfreithiwr penodol. Bydd cyfreithiwr da yn croesawu hyn. Dyma rai sy'n werth eu gofyn:
Oes gennych chi'r profiad cywir?
Gofynnwch a ydyn nhw'n delio'n rheolaidd ag ewyllysiau ac ystadau. Weithiau gelwir y maes hwn o'r gyfraith yn waith "cleient preifat".
Mae hefyd yn werth gofyn a ydyn nhw wedi delio â sefyllfaoedd fel eich un chi o'r blaen, yn enwedig os yw eich amgylchiadau'n gymhleth.
Ydych chi wedi'ch rheoleiddio a'ch yswirio?
Gofynnwch i'r cwmni gadarnhau eu bod wedi'u rheoleiddio a gwirio a oes ganddyn nhw yswiriant indemniad proffesiynol.
Gofynnwch sut i wneud cwyn os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Beth sydd wedi'i gynnwys yn y pris?
Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig llawn cyn i chi gytuno i unrhyw beth. Gwiriwch a yw'r ffi yn cwmpasu:
- ymgynghoriad cychwynnol
- drafftio'r ewyllys
- unrhyw ddiwygiadau os ydych chi eisiau gwneud newidiadau
- cyfarfod i lofnodi a thystio'r ewyllys
- storio'r ewyllys wreiddiol
- rhoi copi i chi.
Os codir tâl ar unrhyw un o'r rhain ar wahân, gofynnwch faint maen nhw'n ei gostio.
Sut mae ffioedd ysgutor yn cael eu codi os ydych chi'n gweithredu fel ysgutor?
Os yw'r cyfreithiwr yn awgrymu bod eu cwmni'n gweithredu fel eich ysgutor, gofynnwch sut maen nhw'n codi tâl am hyn.
Er enghraifft, gallai cwmnïau godi canran o werth yr ystâd, ffi fesul awr neu swm sefydlog.
Gall ffi sy'n seiliedig ar ganran ar ystâd fawr fod yn sylweddol, felly mae'n werth deall hyn yn glir cyn cytuno.
Sut fyddwch chi'n delio â diweddariadau bywyd?
Gofynnwch a ydyn nhw'n cynnig gwasanaeth atgoffa i'ch annog i adolygu eich ewyllys.
Gofynnwch a ellir delio â newid syml gyda chodisil (ychwanegiad ffurfiol at ewyllys sy'n bodoli eisoes) neu a fyddai angen ewyllys hollol newydd arnoch chi - a faint fyddai pob opsiwn yn ei gostio.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gyfreithiwr ysgrifennu ewyllys?
I'r rhan fwyaf o bobl, mae'n cymryd rhwng un a thair wythnos. Mae hyn fel arfer yn cynnwys ymgynghoriad cychwynnol, drafftio, adolygu a llofnodi'r ddogfen.
Os ydych chi'n wynebu diagnosis difrifol neu bwysau amser arall, mae'n werth dweud wrth y cyfreithiwr o'r dechrau fel y gallant flaenoriaethu eich achos lle bo modd.
Sut i ddewis y cyfreithiwr cywir ar gyfer eich ewyllys
Nid oes prinder cwmnïau sy'n cynnig helpu gydag ewyllysiau, ond gall yr ansawdd a'r amddiffyniadau sydd ar gael amrywio. Dyma sut i wneud dewis hyderus.
Dod o hyd i gyfreithiwr rheoleiddiedig i ysgrifennu eich ewyllys
Defnyddiwch gyfreithiwr sy'n cael ei reoleiddio gan y corff priodol ar gyfer lle rydych chi'n byw yn unig. Defnyddiwch un o'r cyfeiriaduron yn y tabl isod i ddod o hyd i gyfreithiwr cymwys yn agos atoch chi.
| Os ydych chi’n byw: | Dewch o hyd i gyfreithiwr cymwys yn eich ardal |
|---|---|
|
Yng Nghymru a Lloegr |
|
|
Yn yr Alban |
|
|
Yng Ngogledd Iwerddon |
Chwiliwch am gyfreithwyr sy'n arbenigo mewn ewyllysiau, profiant neu waith cleientiaid preifat. Gallwch wirio cofrestriad cwmni ar wefan y corff perthnasol.
Mae rheoleiddio yn golygu bod yn rhaid i'r cwmni fodloni safonau proffesiynol, bod ag yswiriant a dilyn proses gwyno.
Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw fusnes sy'n disgrifio'i hun fel "defnyddio cyfreithiwr" neu'n cynnig "gwasanaethau cyfreithiol" heb fod yn gwmni rheoleiddiedig.
Nid yw ysgrifennu ewyllysiau wedi'i reoleiddio yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y gall busnesau heb eu rheoleiddio ei gynnig yn gyfreithiol, ond heb yr un amddiffyniadau.
Edrychwch y tu hwnt i bris wrth gymharu dyfynbrisiau
Er y gall fod yn ddefnyddiol deall sut mae gwahanol gwmnïau'n strwythuro eu ffioedd, ni ddylai cost fod yr unig ffactor yn eich penderfyniad.
Gall cymryd yr amser i ddeall profiad a dull cyfreithiwr fod yr un mor bwysig â chymharu ffioedd.
Byddwch yn wyliadwrus, dylid trin adolygiadau ar-lein yn ofalus ar gyfer ewyllysiau, gan mai dim ond blynyddoedd lawer ar ôl i'r ewyllys gael ei hysgrifennu y daw materion i'r amlwg yn aml.
Gwiriwch sut mae eich ewyllys yn cael ei storio
Gofynnwch i'r cwmni ble mae eich ewyllys wreiddiol yn cael ei storio, a allwch ei gyrchu'n hawdd a beth sy'n digwydd iddi os yw'r cwmni'n cau neu'n uno â chwmni arall.
Dylech chi bob amser gael copi o'ch ewyllys i'w gadw i chi'ch hun.
Unwaith y bydd eich ewyllys wedi'i hysgrifennu, mae'n bwysig ei storio yn rhywle y gellir dod o hyd iddi. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ble i storio'ch ewyllys a sut i ddweud wrth eich ysgutor
Pethau i fod yn wyliadwrus ohono wrth ddewis cyfreithiwr
Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn gweithio gyda thryloywder a phroffesiynoldeb llwyr, ond mae'n werth gwybod beth i fod yn wyliadwrus ohono .
Ysgrifenwyr ewyllysiau sy'n defnyddio cyfreithiwr
Mae rhai ysgrifenwyr ewyllysiau yn gweithio gyda chyfreithiwr, a all eu gwneud i ymddangos yn fwy dibynadwy. Ond, os bydd rhywbeth yn mynd o'i le a bod y cyfreithiwr hwnnw wedi gadael ers hynny, efallai na fydd gennych lwybr at yr Ombwdsmon Cyfreithiol.
Os ydych chi'n defnyddio cwmni cyfreithwyr rheoleiddiedig, mae'r cwmni ei hun yn atebol, felly gallwch chi gwyno o hyd trwy'r Ombwdsmon CyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd - hyd yn oed os yw'r person a'ch helpodd wedi symud ymlaen ers hynny.
Busnesau nad ydynt yn gyfreithwyr rheoleiddiedig
Mae rhai cwmnïau ysgrifennu ewyllysiau yn cyflwyno eu hunain mewn ffyrdd a allai awgrymu eu bod yn gyfreithwyr pan nad ydynt.
Gwiriwch gofrestr y cwmni gyda'r corff rheoleiddio perthnasol bob amser cyn eu cyfarwyddo.
Deall y trefniant ysgutor
Eich ysgutor yw'r person sy'n trefnu eich ystâd (eich eiddo, arian a meddiannau) ac yn cyflawni'r cyfarwyddiadau yn eich ewyllys ar ôl i chi farw.
Bydd rhai cwmnïau'n awgrymu penodi eu hunain yn ysgutor eich ystâd. Gall cyfreithiwr awgrymu'n rhesymol i weithredu fel eich ysgutor, yn enwedig os yw eich ystâd yn gymhleth.
Ond dylech dderbyn gwybodaeth glir, ysgrifenedig am sut y bydd eu ffioedd yn cael eu cyfrifo. Os yw cwmni'n amharod i ddarparu hyn, ystyriwch fel arwydd o rybudd.