Os digwydd unrhyw beth i’ch ewyllys, neu os nad yw eich ysgutor yn gwybod ble i gael hyd iddi, nid oedd pwrpas i chi ysgrifennu un yn y lle cyntaf. Mae rhaid i chi benderfynu sut i ddiogelu eich ewyllys, a gadael i’ch ysgutor wybod ble mae’n cael ei chadw.
Ble na ddylech gadw eich ewyllys
Peidiwch byth â chadw eich ewyllys mewn blwch cadw yn y banc.
Pan fydd rhywun farw, ni all y banc agor y blwch cadw hyd nes i’r ysgutor gael profeb (caniatâd gan y llys i weinyddu eich materion) – ac ni ellir cymeradwyo’r brofeb heb yr ewyllys.
Gwnewch yn siŵr bob amser bod eich ewyllys ar gael heb brofeb.
Dywedwch wrth eich ysgutor ble mae eich ewyllys
Unwaith y byddwch wedi gwneud penderfyniad am sut i wneud yn siŵr bod eich ewyllys yn ddiogel, mae’n bwysig gadael i’ch ysgutorion wybod ymhle mae’n cael ei chadw a sut i’w chael.
Mae’n bwysig ei ysgrifennu i lawr – yn hytrach na ddweud wrthynt yn unig.
Dulliau o gadw eich ewyllys
Nid oes un lle penodol y mae’r gyfraith yn dweud y dylid cadw’ch ewyllys.
Dewiswch yr opsiwn sydd fwyaf diogel ac addas ar eich cyfer.
Gadewch eich ewyllys gyda’ch cyfreithiwr
Os mai cyfreithiwr fydd yn ysgrifennu eich ewyllys, byddant fel arfer yn cadw copi gwreiddiol heb ffi a rhoi copi i chi – ond gofynnwch iddynt i wneud yn siŵr.
Bydd y rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cadw ewyllys na wnaethant ysgrifennu, ond maent yn debygol o godi ffi.
Manteision
-
Mae cyfreithwyr yn cael eu rheoleiddio felly os yw’r ewyllys yn cael ei cholli neu ei difrodi mae gennych achos i unioni pethau.
Anfanteision
-
Os nad y cyfreithiwr a ysgrifennodd eich ewyllys sy’n ei chadw, efallai bydd hyn yn golygu y bydd angen i chi dalu mwy.
Edrychwch ar ein canllaw ar Defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys
Gadael i wasanaeth ysgrifennu ewyllys ei chadw
Os defnyddiwch wasanaeth ysgrifennu ewyllys yn aml gallant ei chadw ar eich cyfer am gost ychwanegol.
Manteision
-
Gall gostio llai na defnyddio cyfreithiwr – ond gwiriwch y ffi cyn ymrwymo.
Anfanteision
-
Gallech fod yn llai diogel petai rhywbeth yn mynd o’i le – gofynnwch beth fyddai’n digwydd petai’r ewyllys yn cael ei cholli neu ei difrodi neu bod y gwasanaeth yn mynd i’r wal. Cofiwch ofyn am gopi i’ch dibenion.
Edrychwch ar ein canllaw Gwasanaethau ysgrifennu ewyllys – manteision ac anfanteision
Cofrestrwch yr ewyllys gyda’r Gwasanaeth Profeb (Cymru a Lloegr)
Bydd y Gwasanaeth Profeb yn cadw eich ewyllys ar eich cyfer – bydd rhaid i chi ei chofrestru yn swyddogol, a gwneud ceisiadau swyddogol i’w thynnu hi allan eto.
Manteision
-
Mae ffi safonol o £20.
Anfanteision
-
Chi yn unig all gymryd yr ewyllys yn ôl tra byddwch fyw drwy gyflwyno’r ffurflen gywir, er enghraifft, ni allwch ofyn i gyfreithiwr ei nôl ar eich rhan.
Mae rhagor o wybodaeth am gadw’ch ewyllys gyda’r Gwasanaeth Profiant ar GOV.UK
I ddarganfod eich Gwasanaeth Profiant lleol er mwyn gwneud cais i gadw’ch ewyllys, defnyddiwch wefan GOV.UK
Cadw’r ewyllys eich hun
Gallwch gadw eich ewyllys â’ch dogfennau eraill, mewn coffor, neu unrhyw le y mynnwch – ond gwnewch yn siwr bod eich ysgutor yn gwybod ble mae’n cael ei chadw.
Manteision
-
Mae am ddim.
Anfanteision
-
Gallai fod yn risg, oherwydd gall yr ewyllys gael ei thaflu i ffwrdd neu ei difrodi yn ddamweiniol.
Pwysig
Peidiwch byth ag atodi unrhyw ddogfennau eraill at eich ewyllys, drwy styffylu neu ddefnyddio clip papur. Maent yn gadael marc ar yr ewyllys, gan godi cwestiynau ynglŷn ag a oes unrhyw ran neu atodiad o’r ewyllys ar goll neu angen newid.
Mae hyn yn gwneud pethau’n anos i’ch ysgutor, a all fod yn gostus a chymryd llawer o amser. Er enghraifft, efallai y bydd yn cysylltu ag un o’r tystion i brofi ai’r ddogfen yw’r un a dystiodd yn cael ei llofnodi.