Mae fy mhartner neu rywun yn fy nheulu wedi marw – beth wyf yn ei wneud am eu pensiwn?

Os bydd rhywun sy’n agos i chi yn marw, efallai y byddwch yn cael eu pensiwn – waeth a oeddynt wedi dechrau cymryd arian ohono. Gall hyn fod yn bensiwn personol neu bensiwn gwaith. 

Beth i’w gwneud yn gyntaf

Mae bob amser yn drallodus colli rhywun, ond mae'n werth delio â chyllid cyn gynted ag y gallwch.

Bydd hyn yn osgoi pethau'n mynd yn fwy cymhleth, er enghraifft, os gofynnir i chi ad-dalu arian neu dalu taliadau treth.

Mae'r buddion y gallech eu cael, a sut y cânt eu trethu, yn dibynnu ar:

  • y math o gynllun pensiwn yr oedd y person yn perthyn iddo
  • a oeddent yn dal i dalu i mewn i'r cynllun pan fuont farw
  • a oeddent wedi dechrau cymryd arian o'u cronfa bensiwn.
  • rheolau'r cynllun pensiwn.

Os oedd y person a fu farw yn tynnu pensiwn, mae'n bwysig dweud wrth y cynllun pensiwn cyn gynted â phosibl. Mae hyn oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw daliadau pensiwn a dderbyniwyd ar ôl eu marwolaeth.

Efallai y gallwch gael gwybodaeth am bwy sydd wedi bod yn gwneud taliadau pensiwn trwy edrych ar gyfriflenni banc diweddar.

Os nad oeddent wedi dechrau tynnu pensiwn cyn iddynt farw, cysylltwch â'r darparwyr ar gyfer yr holl gynlluniau pensiwn yr oeddent yn perthyn iddynt.

Efallai y byddai'n werth gwirio hefyd am aelodaeth o gynlluniau eraill trwy'r gwasanaeth olrhain pensiwn.

Pensiwn gweithle

Ers 2012, mae'r rhan fwyaf o weithwyr wedi ymuno â chynllun pensiwn eu cyflogwr. Roedd llawer o gyflogwyr, yn enwedig rhai mwy, yn cynnig cynlluniau pensiwn cyn hyn - gan gynnwys i'r mwyafrif o weithwyr yn y sector cyhoeddus.

Wrth gysylltu â chynllun, mae'n syniad da cadw copi o'ch holl ohebiaeth, oherwydd gall fod yn anodd cofio beth sydd wedi digwydd ar adeg fel hon.

Cadwch nodyn o unrhyw alwadau ffôn, gan gynnwys y dyddiad ac enw'r person y gwnaethoch siarad â nhw.

Ewyllys ac ystâd person

Fel arfer, nid yw pensiynau yn rhan o ystâd y person, ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn eu hewyllys.

Felly os ydych fod i dderbyn buddion o'r cynllun, fel arfer gallwch ddelio'n uniongyrchol â'r darparwr. Byddwch yn ymwybodol y gallent ofyn pwy yw'r ysgutor a gallent ofyn i weld copi o’r ewyllys.

Oherwydd nad yw'r cynllun pensiwn yn rhan o ystâd y person, gallai fod yn bosibl talu buddion cyn i'r broses brofiant ddechrau. Gallai hyn helpu i dalu biliau, er enghraifft, nes bod gweddill eu hystâd wedi'i setlo.

Bydd y darparwr pensiwn yn dweud wrthych ba waith papur sydd ei angen arno i dalu unrhyw fudd-daliadau. Er enghraifft, byddan nhw eisiau gweld y dystysgrif marwolaeth ac efallai bydd angen tystiolaeth arnyn nhw o hunaniaeth y buddiolwr. Hyd yn oed os ydych yn gwybod eich bod wedi'ch enwi fel y buddiolwr, mae gan y mwyafrif o ddarparwyr pensiwn ddisgresiwn i bwy maen nhw'n talu'r arian. Felly efallai y byddan nhw'n gofyn am fanylion amgylchiadau ariannol yr unigolyn sydd wedi marw. Er y byddant yn ystyried i chi gael eich dewis gan y person pan oeddent yn fyw.

Pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio

Os oedd gan yr unigolyn a fu farw bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, a'ch bod i fod cael arian ar ôl iddynt farw, gallwch gael apwyntiad am ddim a diduedd gyda Pension Wise. Bydd ein harbenigwyr yn esbonio'r opsiynau sydd ar gael i chi gyda'r arian o'r gronfa.

Pensiwn y Wladwriaeth

A oedd y person sydd wedi marw yn tynnu Pensiwn y Wladwriaeth, neu wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'i ohirio? Yna mae'n bwysig rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn. 

Yn gyffredinol, pan fydd rhywun yn marw, bydd eu Pensiwn y Wladwriaeth yn stopio cael ei dalu. Ac os nad ydynt wedi dechrau tynnu eu Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd taliad yn ddyledus i’w hystâd.

Mae yna ychydig o sefyllfaoedd lle gallai eu priod neu bartner sifil etifeddu rhywfaint o'u Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae'r rheolau ar etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth eich partner yn gymhleth. Gall ddibynnu ar yr hyn y mae pob un ohonoch wedi'i gronni a phryd y cyrhaeddodd pob un ohonoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Nid yw'n bosibl i unrhyw un heblaw priod neu bartner sifil etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth.

Pethau eraill i’w hystyried

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.