Beth yw yswiriant cartref a sut wyf yn cael y fargen orau?

Mae yswiriant cartref yn fath o yswiriant sy'n darparu diogelwch ariannol os bydd rhywbeth yn digwydd i'ch eiddo.

Yn dibynnu ar eich polisi, efallai y cewch sicrwydd am ddifrod a achosir gan dân neu lifogydd, colli dodrefn neu emwaith, torri i mewn a mwy.

Pa fathau o yswiriant cartref sydd ar gael a beth maen nhw'n ei gwmpasu?

Mae dau brif fath - yswiriant adeiladau ac yswiriant cynnwys.

Gellir prynu'r rhain naill ai'n unigol neu gyda'i gilydd fel cynnyrch yswiriant cartref cyfun. 

Yswiriant adeiladau

Mae hyn rhoi sicrwydd os bydd difrod i strwythur eich cartref, fel y waliau, y to a'r lloriau. Mae fel arfer yn cynnwys difrod i osodiadau a ffitiadau hefyd. Nid yw'n orfodol, ond fel rheol mae'n amod o'ch morgais i’w gael. Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, gyda morgais neu hebddo, dylai'r yswiriant hwn fod yn brif flaenoriaeth.

Yswiriant cynnwys

Mae hyn yn eich gwarchod am golled neu ddifrod i eiddo personol os bydd tân, lladrad, llifogydd a digwyddiadau tebyg. Mae'n cynnwys eich holl eiddo personol - unrhyw beth nad yw'n gysylltiedig yn gorfforol â'r adeilad - yn erbyn cost colled neu ddifrod.

Yn wahanol i yswiriant adeiladau, mae hyn yn ddewisol. Ond yn gyffredinol mae sicrhau eich eiddo yn syniad synhwyrol i denantiaid a pherchnogion tai.

Oes rhaid i mi brynu yswiriant cartref ac a oes angen yswiriant adeiladau a chynnwys arnaf?

Bydd angen yswiriant adeiladau a chynnwys ar lawer o bobl, ond dim ond un math o yswiriant fydd ei angen ar rai.

Efallai y bydd angen y ddau arnoch os ydych:

  • Yn berchennog tŷ. Mae'n debyg bod angen y ddau arnoch. Er nad yw yswiriant adeiladau yn ofyniad cyfreithiol, fel rheol bydd yn ofynnol gan eich benthyciwr morgais. Hyd yn oed os ydych yn berchen yn llwyr (h.y. nid oes morgais) mae'n syniad da o hyd, gan ei fod yn talu costau atgyweirio neu ailadeiladu os bydd difrod - a gall y costau hynny fod yn uchel iawn.
  • Yn berchen ar y rhydd-ddaliad i'ch eiddo. Gall fod yn ddrud iawn atgyweirio unrhyw ddifrod strwythurol, felly mae yswiriant yn syniad da. Os ydych yn berchen ar y rhydd-ddaliad ar fflat neu fflat deulawr efallai y gallwch lunio polisi adeiladau sengl gyda pherchnogion eraill.
  • Yn landlord. Mae'n debygol y bydd eich benthyciwr morgais yn mynnu bod gennych yswiriant adeiladau, ac mae'n synhwyrol cael yswiriant cynnwys os ydych yn darparu'r dodrefn yn yr eiddo. Un opsiwn yw cymryd yswiriant landlord, sy'n amddiffyn eich eiddo yn ogystal â'ch incwm rhent ac sy'n cynnwys eich rhwymedigaethau os bydd difrod neu anaf i'ch tenantiaid.

Efallai na fydd angen y ddau arnoch os ydych:

  • Yn denant. Mae'n debygol mai dim ond yswiriant cynnwys fydd ei angen arnoch. Nid oes angen i chi gymryd yswiriant adeiladau, gan mai cyfrifoldeb eich landlord fydd sicrhau bod yr yswiriant cywir ar waith. Ond os ydych am i'ch eiddo gael ei yswirio, chi sy’n penderfynu cymryd yswiriant cynnwys, nid y perchennog/landlord. Darganfyddwch fwy yn ein blog am Rwyf yn rhentu fy nghartref – oes angen yswiriant arnaf?
  • Yn berchen ar fflat prydlesol. Efallai y bydd yr adeilad yn cael ei yswirio gan y landlord sy'n berchen ar y rhydd-ddaliad. Bydd eich cyfreithiwr yn gallu eich cynghori os yw'ch prydles yn golygu bod yn rhaid i chi gael yswiriant adeiladau. Oni bai eich bod yn byw mewn fflat lle mae'r lesddeiliaid wedi clymu gyda'i gilydd i brynu cyfran o'r rhydd-ddaliad gan y landlord, ni fydd angen yswiriant adeiladau arnoch. Ond bydd angen yswiriant cynnwys arnoch os ydych am i'ch eiddo gael eu gwarchod.

Os oes angen yswiriant adeiladau a chynnwys arnoch, fel rheol mae'n rhataf eu prynu gyda'i gilydd ar bolisi cyfun yn hytrach na chymryd dau bolisi ar wahân.

Gall cael un polisi ar waith hefyd ei gwneud yn haws ac yn gyflymach os bydd angen i chi hawlio ar eich yswiriant adeiladau a chynnwys.

Sut i leihau cost yswiriant cartref

  • Gwella diogelwch: bydd rhai yswirwyr ond yn eich yswirio os oes gennych gloeon sydd wedi eu cymeradwyo gan y BSI ar bob drws a ffenestr allanol. Bydd y rhan fwyaf o yswirwyr yn eich helpu i weithio allan pa gloeon sydd eisoes gennych. Gallech gael gostyngiad am ymuno â’ch cynllun Gwarchod Cymdogaeth leol a gosod golau diogelwch.
  • Gosodwch larymau; mae larymau mwg a lladron yn bwysig. Sicrhewch eu bod yn fodelau cymeradwy – gall larwm NACOSS (National Approvals Council for Security Systems) ennill gostyngiad i chi ar eich premiymau (er bod yr hyn arbedwch mewn premiymau is yn annhebygol o dalu cost y larwm).
  • Cynyddwch y tâl dros ben ar eich polisi: os ydych yn hapus i dalu ychydig mwy o gost yr hawl eich hun, yna gellir lleihau’ch premiymau.
  • Adeiladwch eich gostyngiad dim hawliadau: os na fyddwch yn gwneud cais am rai blynyddoedd gallwch gael gostyngiad, ond nid yw pob cwmni yn cynnig hyn, felly gwiriwch cyn prynu.
  • Prynu yswiriant adeiladau a chynnwys gyda’i gilydd: gallech gael gostyngiad os cewch y ddau gan yr un cwmni.
  • Talwch yn flynyddol: gall premiymau misol gostio mwy. Fel arfer mae 6% ychwanegol i’w dalu’n fisol.  Er bydd rhai yswirwyr yn caniatáu rhandaliadau am ddim cost ychwanegol, mae’n werth chwilio am y fargen orau.
  • Manteisiwch ar gynigion: mae rhai yswirwyr yn addo i guro unrhyw ddyfynbris (neu adnewyddiad eich polisi presennol) gan hyd at 10%, ar sail cymhariaeth debyg am debyg.
  • Gwiriwch nad yw gennych yn barod: efallai bod gennych ryw fath o yswiriant cartref fel rhan o gyfrif cyfredol wedi'i becynnu. Os oes gennych ddigon o yswiriant eisoes, nid oes angen talu am bolisi ar wahân.

Ble gallaf brynu yswiriant cartref?

  • Gwefannau cymharu: mae'r rhain yn ffordd dda o ddod o hyd i yswiriant rhad sy'n gweddu i'ch anghenion. Ond cofiwch nad y polisi rhataf yw'r gorau i chi o reidrwydd, felly peidiwch â dewis yr un cyntaf a welwch yn unig. Dilynwch ein rheolau euraidd ar gyfer defnyddio gwefannau cymharu i brynu yswiriant ac edrychwch ar ein canllaw am Sut i ddod o hyd i'r cynigion gorau ar gyfer nwy a thrydan a chynhyrchion ariannol ar wefannau cymharu prisiau.
  • Yn uniongyrchol o yswirwyr: nid yw pob yswiriwr yn dod o dan gwefannau cymharu - mae Aviva, Zurich a Direct Line ymhlith yr enwau mawr nad ydynt yn ymddangos - a dim ond yn uniongyrchol y gellir prynu eu cynhyrchion.
  • Broceriaid yswiriant: gallant eich helpu i gael yr yswiriant cartref fwyaf addas i’ch amgylchiadau, yn enwedig os oes gennych anghenion cymleth (e.e. rydych yn landlord yn yswirio sawl eiddo). Edrychwch ar ein canllaw ar Pryd i ddefnyddo brocer yswiriant.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.