Gwarantau ceir

Gall gwarantau roi peth diogelwch ychwanegol i chi rhag ofn bod rhywbeth yn mynd o’i le. Dylai pob car newydd ddod â gwarant, ond gallwch brynu gwarantau i geir ail law hefyd.

Ar y dudalen hon fe gewch ffeithiau allweddol am warant y gweithgynhyrchwr sy’n dod gyda char newydd. Rydym hefyd yn esbonio gwarantau ceir ail-law, gyda rhestr wirio i’ch helpu i osgoi costau a siom o warant car ail-law nad yw’n bodloni eich anghenion.

Esbonio gwarantau ceir

Mae gwarant car yn eich diogelu rhag gorfod talu am gostau llafur ac amnewid rhannau penodol o’ch cerbyd os bydd yn dioddef o ddiffygion mecanyddol neu fethiant trydanol. Yn aml gall trwsio eich cerbyd fod yn gostus.

Mae’n bwysig gwirio sut i gadw eich gwarant yn ddilys. Efallai bod uchafswm milltiroedd, neu efallai y byddwch angen gwasanaeth i’ch car yn ystod ysbeidiau penodol a gallai colli gwasanaeth wneud y warant yn annilys. Felly gwiriwch y warant yn ofalus a gweld yn union beth sydd wedi ei gynnwys.

Os na fydd rhywbeth yn glir, gofynnwch i rywun esbonio.

Yn aml, byddwch angen talu swm tuag at gael amnewid a gosod y rhannau. Dyma’r gormodedd ac fel arfer bydd yn ychydig gannoedd o bunnoedd.

Os byddwch yn prynu car newydd, neu gar ail-law gan werthwr, efallai y bydd y warant yn gynwysedig yn safonol neu efallai y bydd rhaid i chi dalu amdano.

Mae pob gwarant car yn wahanol o ran y rhannau sy’n gynwysedig, gyda gwahanol amodau a thelerau, a gall y costau ar gyfer gwarantau amrywio’n sylweddol hefyd.

Ymysg rhai pethau fydd polisïau fel arfer yn eu cynnwys mae:

  • injan a systemau tanwydd
  • cydiwr a gerbocs
  • sysbension
  • breciau
  • llyw.

Weithiau gallwch ymestyn y warant fel eich bod wedi’ch sicrhau am flwyddyn neu ddwy arall, neu fel bod y warant yn cynnwys sicrwydd ar gyfer problemau ychwanegol. Bydd angen i chi dalu ychydig yn fwy os ydych eisiau uwchraddio eich gwarant.

Dywedodd adroddiad gan gylchgrawn Which? “Mae’n anodd cyfiawnhau cost hyd yn oed y warant car ail-law rhataf pan fyddwch yn ystyried y nifer di-rif o eithriadau, premiymau drud a chost gyfartalog isel atgyweirio blynyddol.

Byddem yn argymell rhoi arian i’r naill ochr bob blwyddyn i dalu am unrhyw atgyweiriadau, ond os ydych yn awyddus i gael gwarant, ystyriwch dalu amdano pan fyddwch yn prynu eich car. Mae’r gwarantau estynedig hyn gan y gwneuthurwyr yn dueddol o fod â llai o eithriadau na’u cystadleuwyr trydydd parti.”

Gwarantau i geir newydd

Daw gwarant y gweithgynhyrchwyr gyda phob car newydd.

Gall y rhain barhau am rhwng tair a saith mlynedd a dylent gynnwys y rhan fwyaf o ddiffygion heblaw traul ar rannau fel teiars a phadiau brêc.

Er mwyn i’r warant fod yn ddilys, bydd rhaid i chi ddilyn rhai rheolau fel arfer. Er enghraifft, sicrhau bod y car yn cael gwasanaeth mewn pryd a gan werthwr ceir ag enw da ganddo.

Pan fydd gwarant y gweithgynhyrchwr yn dod i ben, bydd gennych rai opsiynau:

Gwarantau i geir ail-law

Wrth brynu car ail-law, mae angen i chi benderfynu sut i dalu costau biliau trwsio annisgwyl. Mae ambell ddewis ar gael:

Mae dwy brif lefel o yswiriant i ddewis rhyngddynt – ‘torri i lawr mecanyddol’ syml a ‘chynhwysfawr’.

Y rheol gyffredinol yw, rhataf yn y byd yw’r warant, y lleiaf o yswiriant y mae’n ei gynnig.

Ond, mae gwarantau sy’n cael eu gwerthu gan werthwyr ceir yn dueddol o fod yn fwy drud na’r rhai y gallwch eu prynu ar-lein, ond nid ydynt yn rhoi mwy o yswiriant o angenrheidrwydd.

Er bod y rhan fwyaf o geir newydd yn dod â gwarant tair blynedd, mae gan rai warant bum mlynedd ac mae Kia yn cynnig gwarant saith mlynedd, 100,000-milltir.

Felly gallech ystyried edrych ar gar ail-law sydd â rhai blynyddoedd i fynd ar warant y gweithgynhyrchwr. 

Sut ellir annilysu polisi gwarant cerbyd?

Mae sicrhau’ch bod yn bodloni rheolau a gofynion eich polisi gwarant yn allweddol i osgoi cael gwrthod hawliadau.

Gellir annilysu hawliadau o ganlyniad i:

  • barhau i ddefnyddio eich cerbyd hyd yn oed os bydd golau rhybudd yn ymddangos ar y dangosfwrdd
  • gyrru eich cerbyd er bod yna nam mecanyddol neu drydanol amlwg
  • peidio â chael gwasanaethu eich cerbyd yn ystod y cyfnodau a argymhellir gan wneuthurwr y cerbyd
  • gwneud addasiadau i’r cerbyd, neu osod rhannau ansafonol neu rannau nad ydynt gan y gwneuthurwr yn ystod gwaith atgyweirio
  • rhoi’r tanwydd neu hylif anghywir yn eich cerbyd e.e. olew neu oerydd
  • peidio â dilyn y weithdrefn hawliad gwarant yn gywir.

Rhestr wirio gwarantau ceir

Cyn cymryd gwarant car ail-law gofalwch eich bod yn darllen y print mân.

Dyma’r pwyntiau sylfaenol y dylech eu gwirio.

  • A oes terfyn i’r swm o arian y gallwch hawlio amdano?
  • A oes gormodedd ar y gwarant?
  • A yw’r amserlen gwasanaeth yn dderbyniol?
  • A oes cyfnod ystyried safonol o 14 diwrnod?
  • A yw’n nodi cyfyngiad ar eich milltiroedd blynyddol neu gyfanswm y milltiroedd?
  • A allwch hawlio ar ôl cyfnod penodol yn unig, fel mis?
  • A yw’r polisi yn cynnwys costau llawn trwsio – nid dim ond y rhannau neu’r gwaith?
  • A yw’r cwmni gwarant wedi cofrestru â’r ABI (Cymdeithas Yswirwyr Prydain)?
  • A oes uchafswm a fyddai’n cael ei dalu am gostau gwaith, gan adael i chi dalu am unrhyw beth ychwanegol?
  • Pa fodurdai sydd ar y rhestr ar gyfer rhoi gwasanaeth a thrwsio, a ble maent a beth yw eu costau?
  • Cofiwch, os yw eich car yn nesu at yr uchafswm o ran oedran a ganiateir, efallai nad yw’n werth prynu gwarant.
  • Yn aml bydd cytundebau gwarant yn defnyddio terminoleg benodol iawn, felly efallai na fyddwch yn gwybod yn union beth mae termau fel ‘gwellhad’ neu ‘draul gyffredinol’ yn ei olygu. Mae gan Which? restr A-Z i’ch helpu

Amddiffyniad ychwanegol posibl sydd gennych

Nid yw gwarant ddim yn disodli eich hawliau cyfreithiol dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Felly, ynghyd ag unrhyw sicrwydd mae’ch gwarant yn ei gynnig, dan y ddeddf mae gennych yr hawl i wrthod car os yw’n ddiffygiol a chael ad-daliad llawn o fewn 30 niwrnod i’w brynu.

Efallai eich bod hefyd wedi’ch diogelu dan adran 75 y Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 a’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Byddwch wedi’ch diogelu os taloch yn defnyddio cerdyn credyd neu os gwenaethoch brynu’r car gyda hurbwrcas gan werthwr. Mae Adran 75 yn golygu bod y darparwr cerdyn credyd, neu’r darparwr cyllid yn achos hurbwrcas, yn gyfrifol ar y cyd am unrhyw broblemau.

Os ydych yn cael trafferth gyda’r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn yn rhan o’ch gwarant, er enghraifft atgyweiriad gwael, mae camau y gallwch eu cymryd.

Yn gyntaf dylech gysylltu gyda’r garej neu werthwr i geisio datrys y mater.

Os na allwch ddod i gytundeb, dylech gysylltu â’r gymdeithas fasnach neu’r garej neu werthwr rydych yn delio â hwy.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.