Eich hawliau os oes rhywbeth o’i le ar eich car

Os prynwch gar sy’n ddiffygiol wedyn, mae’ch hawliau ac opsiynau’n dibynnu i raddau helaeth ar bwy rydych wedi’i brynu ganddo a sut y cafodd y car ei ddisgrifio ichi. Mae gennych lai o ddiogelwch cyfreithiol wrth brynu gan werthwr preifat neu arwerthiant ceir nag wrth brynu gan ddeliwr.

Problemau gyda cheir a brynir gan ddelwyr

Os byddwch yn prynu car newydd neu ail-law gan ddeliwr ac yn profi problemau gydag ef, mae gennych hawliau statudol dan Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Mae’r Ddeddf yn datgan bod yn rhaid i’r car fod “o ansawdd foddhaol”, “yn addas i’r diben” a “fel y’i disgrifiwyd”. (Ar gyfer car ail-law, mae “ansawdd foddhaol” yn cymryd i ystyriaeth oed a milltiredd y car.)

Mae gennych hawl i wrthod rhywbeth diffygiol ac mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn cyn pen 30 diwrnod ar ôl ei brynu yn y rhan fwyaf o achosion.

Ar ôl 30 diwrnod, byddwch chi'n colli'r hawl tymor byr i wrthod y nwyddau.

Bydd gennych hefyd lai o hawliau, fel dim ond gallu gofyn am atgyweiriad neu amnewidiad, neu ad-daliad rhannol.

Mewn gwirionedd, yn gyfreithiol rydych chi'n cael ei ddychwelyd hyd at chwe blynedd ar ôl i chi ei brynu (yn yr Alban, mae'n bum mlynedd ar ôl i chi sylweddoli gyntaf fod problem).

Ond mae'n mynd yn anoddach profi nam ac nid traul arferol yw achos unrhyw broblem.

Sut i fynd ati i unioni pethau

Dyma beth i’w wneud os oes gennych broblem gyda char newydd neu ail-law rydych wedi’i brynu gan ddeliwr:

  • Cysylltwch â’r deliwr cyn gynted ag yr ydych yn sylwi ar y broblem – yn bersonol os yn bosibl.
  • Os yw’r deliwr yn cynnig trwsio’r broblem, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall unrhyw gostau sydd ynghlwm. Cadwch gofnod o’ch sgyrsiau a gohebiaeth, a chael pob cytundeb llafar yn ysgrifenedig.
  • Os bydd popeth arall yn methu, gallwch wrthod eich car cyhyd â’ch bod wedi ceisio datrys y broblem gyda’r deliwr yn gyntaf.
  • Mae’n rhaid ichi roi manylion ysgrifenedig i’r deliwr ynghylch eich rhesymau dros wrthod y car, ac o fewn chwe mis o dderbyn y car.
  • Os yw’r deliwr yn gwrthod derbyn eich gwrthodiad o’r car, cysylltwch ag adran cysylltiadau cwsmeriaid ei weithgynhyrchydd ar unwaith. Efallai y byddant yn gallu cyfryngu.

I gael cymorth wrth gyflwyno’ch cwyn ystyriwch ddefnyddio Resolver - gwasanaeth ac yn ap rhad ac am ddim ar-lein sy’n cynnig cyngor i’r defnyddiwr ac sy’n symleiddio’r broses o gwyno

Problemau gyda char ail law – eich hawliau fel defnyddiwr

Er na phrynoch chi eich car yn newydd, nid yw hyn golygu nad oes gennych chi hawliau os aiff unrhyw beth o’i le.

Gallech fod â hawl cyfreithiol i gael iawndal. Mae hyn yn dibynnu ar:

  • pryd a ble y gwnaethoch ei brynu
  • beth yw'r union broblem
  • a oeddech chi'n gwybod bod problem pan wnaethoch chi ei brynu. Gallai hyn fod yn atgyweiriad, swm o arian i dalu cost atgyweiriad, neu ad-daliad llawn neu rannol o'r arian a wariwyd gennych.

Mae gan Cyngor ar Bopeth offeryn sy’n egluro’ch hawliau fel defnyddiwr. Y cwbl sydd ei angen arnoch yw’r dyddiad y prynoch y car ac a gafodd ei brynu’n breifat neu drwy werthwr masnachol.

Diogelwch ychwanegol wrth brynu gan ddeliwr

Os prynwch gar newydd neu ail-law gan ddeliwr ac mae rhywbeth yn mynd o chwith arno, bydd gennych ddiogelwch ychwanegol os ydych wedi’i brynu drwy hurbwrcasu,

Mae gennych ddiogelwch dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 a Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Dylai’r car fod o ansawdd foddhaol, yn addas i’r diben a fel y’i disgrifiwyd

Gyda hurbwrcasu, darparwr y cyllid yn hytrach na’r deliwr sy’n gyfrifol ichi dan y gyfraith os oes problemau gyda’r car.

Os taloch y cyfan neu ran o gost eich car gyda cherdyn credyd, mae’n bosibl bod y cwmni cerdyn a’r masnachwr yn gyd-gyfrifol am eich digolledu dan Adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr 1974.

Talu arian parod gan ddefnyddio cerdyn debyd

Ni fydd eich pryniant yn dod o dan Adran 75 o'r Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Ond efallai y gallwch hawlio ad-daliad gan eich darparwr cerdyn debyd trwy gynllun gwirfoddol o’r enw ‘chargeback’.

Mae Visa, MasterCard, Maestro ac American Express ymhlith y cwmnïau sydd wedi cofrestru i 'chargeback'.

Yn dibynnu ar y cerdyn a ddefnyddiwyd gennych, mae'n debyg y bydd angen i chi wneud eich cais cyn pen 120 diwrnod ar ôl sylwi ar y broblem.

Gall ceisiadau ‘chargeback’ gymryd peth amser i'w prosesu oherwydd bod yn rhaid i'r cwmni cardiau gael yr arian yn ôl cyn y gallant ei drosglwyddo i chi.

Problemau gyda cheir ail-law a brynir yn breifat

Prynu’n breifat yw un o’r ffyrdd mwyaf peryglus o brynu car. Os aiff rhywbeth o chwith gydag ef ni fydd gennych gymaint o ddiogelwch cyfreithiol â’r hyn a fyddai gennych pe byddech wedi prynu’r car gan ddeliwr.

Mae’n rhaid i’r car gyfateb â disgrifiad y gwerthwr, fod yn addas ar gyfer y ffyrdd ac mae’n rhaid bod gan y gwerthwr yr hawl gyfreithiol i’w werthu ichi.

Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i’r car weithio, cwrdd â’r gofynion cyfreithiol i’w yrru ar ffyrdd cyhoeddus, a chael ei berchen gan y gwerthwr.

Ond chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y car “o ansawdd foddhaol” ac yn “addas i’r diben” cyn ichi ei brynu.

Gwyliwch am unrhyw werthwyr diegwyddor yn cymryd arnynt eu bod yn berchnogion preifat fel y gallant gael gwared ar geir diffygiol neu geir wedi’u lladrata.

Problemau gyda cheir ail-law a brynir mewn arwerthiant

Mae arwerthiannau ceir yn gyflym a chyffrous, ond gallant gyflwyno perygl i bobl amhrofiadol ac anwyliadwrus.

Pan fyddwch wedi gwneud eich cynnig ni allwch ei ddadwneud. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod o flaen llaw beth sydd gennych wrth gefn os bydd car yn ddiffygiol nes ymlaen.

Arwerthiannau byw i geir

Efallai na fydd gennych unrhyw hawliau dan Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 a gellir gwerthu’r car ichi “fel y’i gwelir”.

Felly cyn cynnig, gwiriwch delerau ac amodau tŷ’r arwerthiant bob tro yn ogystal â’r car ei hunan.

Arwerthiannau ceir ar-lein:

Gydag awerthiannau ar-lein mae’ch hawliau cyfreithiol yn dibynnu ar a yw’r gwerthwr yn unigolyn preifat neu’n ddeliwr ceir.

Os yw’r gwerthwr yn unigolyn preifat, does ond angen i’r car fod fel y’i disgrifir - felly mae’n achos o “brynwr byddwch yn wyliadwrus”

Mae’ch hawliau cyfreithiol yr un peth â phe byddechyn prynu ganddynt yn bersonol (gweler ‘Problemau gyda ceir ail-law a brynir yn breifat’ uchod).

Os yw’r gwerthwr yn ddeliwr, cewch eich diogelu gan y Ddeddf Gwerthu Nwyddau os canfyddwch nad yw’r car o ansawdd foddhaol, yn addas i’r diben neu fel y’i disgrifir.

Hefyd fe’ch diogelir gan Rheoliadau Cytundebau Defnyddiwr (Gwybodaeth, Canslo a Ffioedd Ychwanegol) 2013 Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i ganslo’r archeb o fewn 14 diwrnod o’r pryniad gwreiddiol.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.