Y pum rheswm mwyaf poblogaidd dros newid banc
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
25 Ebrill 2021
Mae'n bron i ddwy flynedd ers i'r gwasanaeth newid cyfrif cyfredol mewn saith diwrnod ei gwneud hi'n haws i bob un ohonom newid ein banc. Mae’r gystadleuaeth i ddenu cwsmeriaid mor gryf ag erioed, gyda llu o gynigion a chymhellion ar gael ar ein cyfer. Drwy ddewis y cyfrif banc cywir, gallech weld gwelliant ar unwaith yn eich sefyllfa ariannol.
Y rheswm mwyaf poblogaidd dros newid banc yw cael llog uwch, gyda 41% o gwsmeriaid gyda’r nod i roi hwb i'w cynilion, yn ôl arolwg gan wefan cymharu MoneySuperMarket.
Gwnaeth arian yn ôl a buddion fel yswiriant denu 20% o’r rhai a newidiodd fanc, tra roedd cyfleuster gorddrafft yn flaenoriaeth i 14%. Newidiodd y grŵp lleiaf (5%) oherwydd eu bod eisiau safon well o wasanaeth cwsmeriaid.
Gyda'r holl ddewis hwn, sut ydych chi'n gwybod pa un yw'r opsiwn gorau?
Wel yn gyntaf oll - nid oes angen i chi bob amser newid banc i gael y cytundebau hyn. Gyda llawer, gallwch agor ail neu drydydd cyfrif cyn belled â'ch bod chi'n bodloni'r telerau ac amodau. Efallai y byddwch hefyd wedi’ch glynu â'ch banc, yn aml, os oes gennych forgais.
Fodd bynnag, os nad yw'ch banc presennol yn rhoi unrhyw beth ychwanegol i chi, mae'n werth archwilio'ch opsiynau. Dyma ein barn ar yr hyn i’w hystyried wrth newid banc.
A ddylech chi newid banc am log uwch?
Mae'n sicr yn wir y gallwch gael cyfraddau llog llawer uwch gan rai cyfrifon cyfredol nag unrhyw gyfrif cynilo mynediad hawdd neu ISAs.
Fodd bynnag, mae'r cyfraddau hyn yn dod ag amodau.
Yn aml mae cap ar faint o arian y gallwch chi ennill llog arno. Mae hyn yn amrywio o gyfrif i gyfrif, ond efallai mai dim ond 2% ar y £2,000 cyntaf a dim byd ar ôl hynny.
Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu isafswm i mewn bob mis. Nid yw o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid i chi ei gadw yno, ond mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich cyflog yn gallu talu'r swm hwnnw.
Mae hefyd yn werth ystyried unrhyw ddyledion sydd gennych. Efallai y bydd yn fwy o fantais i chi dalu’r dyledion hynny yn hytrach na chynilo, gan y gallech fod yn talu mwy mewn llog nag y byddech yn ei ennill o’ch cynilion.
A ddylech chi newid banc am arian yn ôl?
Gall arian yn ôl fod yn ychwanegiad gwych i'ch incwm, yn enwedig os ydych fel arfer yn gwario arian gyda'r siopau a'r cwmnïau sy'n ei gynnig.
Gallai hyn fod yn opsiwn da os nad oes gennych lawer o gynilion ac nad ydych yn fynd i’ch gorddrafft.
Gallwch hefyd ddod o hyd i rai cynigion arian yn ôl deniadol dros newid banc, lle byddwch yn cael taliad untro rhwng £100 a £150 am newid.
Fodd bynnag, mae'n debyg na fydd yr arian ychwanegol, er ei fod yn ddefnyddiol, yn swm enfawr dros y flwyddyn, a gallai fod ffi fisol ynghlwm wrth y cyfrif.
A ddylech chi newid banc am wobrau a buddion?
Os ydych chi eisoes yn gwario llawer o arian am yswiriant car yn torri lawr, cymorth twyll ID, neu yswiriant teithio, teclyn a ffôn, efallai y byddwch chi'n gallu cael y rhain am ddim gyda rhai cyfrifon banc.
Byddwch yn ymwybodol fodd bynnag efallai y bydd ffi i’w thalu am y cyfrifon premiwm hyn.
Os ydych chi'n cael eich temtio, darganfyddwch yn gyntaf faint rydych chi'n ei dalu ac ystyriwch a ydych chi wir yn gwneud arbedion unwaith y bydd ffi'r banc yn cael ei ychwanegu.
Darganfyddwch fwy am Gyfrifon wedi'u pecynnu
A ddylech chi newid banc am orddrafftiau?
Os ydych chi'n aml yn eich gorddrafft, dylech ystyried a allwch chi gael cytundeb gwell mewn banc gwahanol.
Yn gyntaf, darganfyddwch a allwch chi gael gorddrafft di-log. Mae'r rhain yn aml am symiau bach ond gallai hynny fod yn ddigon tan ddiwrnod cyflog.
Os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n mynd dros y terfyn yn rheolaidd, edrychwch ar y taliadau am orddrafft awdurdodedig ac anawdurdodedig. Gallai talu llai bob mis am fynd i'r coch eich helpu i fynd yn ôl i gredyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
A ddylech chi newid banc am wasanaeth cwsmeriaid?
Os yw hyn yn bwysig i chi, mae yna rai banciau sydd ag enw da am ddelio â chwsmeriaid yn gyflym ac yn deg.
Mae'n debyg y byddwch chi'n gallu cael un o'r fuddion eraill a restrir uchod gyda'r banciau sydd ag enw da, felly gallai hyn eich helpu i wneud penderfyniad rhwng dau neu dri banc gwahanol.