Sut dwi’n helpu fy mhlant i ddeall cynyddiadau yng nghostau byw

Cyhoeddwyd ar:

Mae Sarah Porretta, Cyfarwyddwr Mewnwelediad ac Ymgysylltu Allanol y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), yn siarad am sut i helpu’ch plant i ddeall y cynyddiadau yng nghostau byw.

Fel rhieni, yn aml mae’n rhaid i ni esbonio pethau i’n plant rydym efallai’n ffeindio’n anodd deall ein hunain. Mae plant yn naturiol yn chwilfrydig ac fel fi, efallai bod eich plant wedi gofyn cwestiynau am bynciau fel bwyd ac ynni yn dod yn fwy drud, y rhyfel yn Wcráin neu newid hinsawdd.

Mae’r pethau hyn dros y newyddion i gyd ar hyn o bryd, ac fel oedolyn a mam i ddau blentyn ifanc, nid oes modd osgoi hwn. Mewn gwirionedd, mae costau byw cynyddol yn debygol yn peri pryder i chi’n barod.

Ond mae plant yn agored i hyn hefyd, a bydd hyd yn oed plant ifanc iawn yn clywed am y problemau hyn, a gall eu bod yn effeithio ar eu bywydau bob-dydd yn uniongyrchol yn barod. 

Bydd effaith costau byw cynyddol yn wahanol i bob teulu, yn ogystal â’r newidiadau i’ch cyllideb efallai y bydd angen i chi ei wneud. A bydd rhai plant yn ei chael yn anoddach nag eraill - ni fydd pawb yn cael eu heffeithio.

Felly sut rydym yn siarad am hwn yn hyderus â’n plant, ac ei wneud yn sgwrs addysgiadol, ond ddim un sy’n peri pryder? Sut rydym yn codi’r mater o wahaniaethau, a sut gall eraill teimlo’r effaith yn wahanol i sut rydym ni, fel gall ein plant bod yn empathetig a meddylgar?

Mae costau byw a newid hinsawdd wedi bod yn gyfle i siarad yn fwy am reoli arian bob-dydd, a thrafod pethau fel cost ynni a bwyd a sut a pham mae costau’n newid. Mae fy mhlant wir yn poeni am yr amgylchedd, felly rwy’n meddwl bod hwn yn fan cychwyn da iawn am siarad am arian.

Rydym wedi edrych ar fap o’r byd a siarad am o ble mae gwahanol gynnyrch yn dod, sut mae gan rai gwledydd nwy ac olew, ac mae gan eraill tywydd da ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau yn ystod ein tymor gaeaf. Pan maent yn deall hwn, gallwch esbonio pam gall newid hinsawdd a rhyfel meddwl ei fod yn fwy drud i brynu eitemau penodol. Gallwch hefyd siarad am gyflenwad a galw, felly pan mae nifer o bobl am brynu rhywbeth, os nad oes llawer ar gael, bydd y pris yn cynyddu.

Gan ein bod yn byw mewn cymuned ffermio, rydym wedi cymryd pethau’n ôl i’r sylfaen o ran cael trafodaethau am e.e. beth sy’n digwydd os nad oes glaw, ac nad yw’r glaswellt yn tyfu, ac mae llai gan y gwartheg i fwyta... ac yn cysylltu hynny yn ôl â phris cig. Gwelon nhw’r caeau brown cawsom oherwydd sychder yr haf yma gyda llygaid eu hun, felly mae hwn yn ymddangos yn hawdd ei ddeall.

Fy awgrymiadau ar sut y gallwch ddechrau sgyrsiau costau byw

Dyma fy nhri awgrym da am sut y gallwch ddechrau sgyrsiau am arian gan obeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi. 

1. Siarad am aros o fewn cyllideb

Yr haf yma ar ein gwyliau trafodon fel teulu sut yr oeddem fynd i aros o fewn cyllideb a gofynnon i’r plant dewis sut byddem yn gwario ein cyllideb ar trîts. Ffeindiom fod pethau a oedd fel arfer yn foethus adref yn rhai o’r pethau fwyaf rhad gallem brynu lle roeddem yn aros, felly wnaethom fwyta mwy o’r cynnyrch lleol. Roedd hwn yn gyfle i siarad am gostau sy’n gysylltiedig â thyfu, pacio a throsglwyddo nwyddau o gwmpas y byd.

Nid oes angen i chi fod ar wyliau i ofyn y plant i’ch helpu cyllidebu. Yn yr archfarchnad, ystyriwch roi ychydig o arian iddynt a gofynnwch iddynt gyllidebu am ginio neu eu cinio ysgol am yr wythnos. Mae gadael iddynt ddod i’r arfer a meddwl am faint mae pethau’n costio ac felly faint gallech brynu yn dechrau gwych.

2. Gofynnwch iddynt feddwl am strategaethau i dorri'n ôl ar y defnydd o ynni

Rydym wedi dechrau siarad â’r plant am y gaeaf sydd i ddod, a pha newidiadau byddem yn ei wneud i ymdopi â chostau ynni uwch, a pha rôl gall y plant cael i helpu arbed ynni, a wnaethom ofyn am eu syniadau.

Mae rhoi rôl iddynt o fewn hwn yn bwysig iawn - gallent wir cael effaith diriaethol. Rydym wedi siarad am ddefnydd ynni gwahanol bethau o gwmpas y tŷ, ac am bethau fel insiwleiddio (neu ddiffyg yn ein hen dŷ drafftiog), bath yn erbyn cawod, pa mor aml rydym yn golchi ein dillad. 

3. Defnyddio enghreifftiau bywyd go iawn i ddechrau sgyrsiau am arian o gwmpas y byd

Rydym hefyd wedi siarad llawer am sut gall fod teuluoedd eraill, sydd â llai o arian, ymdopi â chostau popeth yn cynyddu mor gyflym. Mae gan fy mhlant pen pals yn Kenya, felly rydym wedi siarad llawer am sut gall newid hinsawdd a chostau cynyddol effeithio ar eu ffrindiau yna, yn ogystal â chyd-ddisgyblion yn yr ysgol.

Rydym wedi dechrau gwylio Newsround yn fwy rheolaidd ar-lein hefyd, ac rydw i newydd danysgrifio i dreial am ddim o Week Junior i weld os bydd hwnna’n helpu dod â’r materion hyn i fywyd.

Beth rydw i am i rieni eraill cymryd o’r blog hwn, yw bod rhaid i ni siarad am arian â’n plant. Gallem siarad am yr holl bethau sydd yn ein pennau am arian - boed yn balcio ar brisiau archfarchnadoedd, costau ynni, neu golli cwsg am rent yn cynyddu neu’r llog ar eich morgais, os ydym yn defnyddio’r geiriau cywir. A bydd ein plant yn dysgu a thyfu ac adeiladu sgiliau pwysig os ydym yn gwneud hyn. 

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.