Oes gennych chi gyfrif Prynu Nawr Talu Wedyn?
"Wel, rydych chi wedi ennill rhai hawliau pwysig.
Mae cwmnïau BNPL bellach yn cael eu rheoleiddio.
Ond beth mae hynny'n ei olygu i chi?
Wel, yn gyntaf, pan fyddwch chi’n cofrestru, mae’n rhaid iddyn nhw yn ôl y gyfraith wirio
eich bod chi’n gallu fforddio ei ad-dalu.
Ac os na allwch ei ad-dalu,
mae’n rhaid iddyn nhw gynnig cymorth i chi os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch arian.
Ac os oes gennych broblem,
gallwch wneud cwyn i’r Ombwdsmon Ariannol.
Ac mae hynny’n golygu y gallech gael cynnig iawndal
os byddan nhw’n canfod mai’r cwmni BNPL oedd ar fai.
I ddarganfod mwy,
chwiliwch am BNPL HelpwrArian.