Efallai rydych yn poeni bydd eich plant yn siomedig am beidio agor gymaint o anrhegion ar fore Nadolig ag y maent wedi arfer.
Pe bawn yn hŷn ac yn gwybod ‘y gwir’ neu’n ifanc o hyd, bydd rhaid i chi gael sgwrs am arian. Mae ein canllaw ar Sut i siarad â’ch plant am arian yn lle gwych i ddechrau.
Os yw’ch plentyn yn hŷn, opsiwn da yw bod yn onest a siarad am sut bydd rhaid i chi i gyd wario’n llawer llai, fel teulu. Dylech ystyried gosod cyllideb yn seiliedig ar beth allwch ei fforddio a gofyn i’ch plant feddwl am eitemau maent wir eisiau a fydd yn dod o fewn y gost.
Os oes gennych blant ifanc sydd dal yn gyffrous am ymweliad gan Sion Corn ei hunan, gallwch ddweud bod dim digon o le ar y sled ganddo i lwytho llawer o anrhegion am bob plentyn ac mae cael dim ond ychydig yn gwneud pethau’n deg.
Sicrhewch eich bod yn cysuro eich plant eu bod yn ddiogel, ac nid yw’r Nadolig gwir am anrhegion, ond treulio amser gyda’ch gilydd yn cael hwyl.