Cynlluniwr cyllideb
I’ch helpu i reoli’ch cyllid yn well defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
02 Rhagfyr 2021
Twrci euraidd, moch mewn blancedi, tatws rhost i gyd wedi'u gorchuddio â haenau o grefi. Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer gor-fwyta ac mae llawer ohonom eisoes yn breuddwydio am ein gwledd Dydd Nadolig a’r byrbrydau Nadoligaidd eraill.
Yn anffodus, mae hyn i gyd yn gostus. Mewn gwirionedd, yn ôl Banc Lloegr (Opens in a new window), mae cartref nodweddiadol yn gwario £740 yn fwy ar gyfartaledd ym mis Rhagfyr nag yr ydym yn ei wneud mewn unrhyw fis arall o’r flwyddyn Gyda phryderon ychwanegol materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi a phrisiau cynyddol, efallai eich bod yn pendroni mor anodd efallai y bydd eleni i drefnu taeniad Nadolig gwych.
Yn y canllaw hwn byddwn yn rhannu rhai awgrymiadau a chanllawiau defnyddiol i gadw rheolaeth ar gost eich siopa Nadolig a sut i gael gwledd Nadoligaidd gofiadwy heb dorri’r banc.
Boed yn dwrci, gwydd neu hyd yn oed os ydych yn mynd i lawr y trywydd llysieuol a fegan, bydd canolbwynt eich pryd yn costio’r mwyaf. Yn ôl BBC Good Food (Opens in a new window), gall twrci gostio unrhyw beth o £12 am dwrci 4kg i oddeutu £80 am fersiwn moethus. Mae’n werth treulio peth amser yn ystyried pa mor fawr y mae angen iddo fod. Os ydych wedi yn ofalus ynglŷn â defnyddio bwyd dros ben, yna ewch am bryd yn fwy ac ymlaciwch gan wybod nad ydych chi ar ddyletswydd coginio am weddill yr wythnos. Fodd bynnag, os ydych yn annhebygol o ddefnyddio’r cyfan, yna byddwch yn fwy ceidwadol gyda’ch archeb a byddwch yn arbed ychydig o arian.
Fel Siôn Corn heb ei farf, ni fyddai cinio Nadolig yn gyflawn heb yr ychwanegiadau eraill.
Moch mewn blancedi, tatws rhost ac, hyd yn oed ysgewyll Brwsel. Maent i gyd yn rhannau hanfodol o wledd yr ŵyl.
Er nad y rhain yn sicr yw’r pethau drutaf y byddwch yn eu prynu ym mis Rhagfyr, mae yna ffyrdd i arbed arian ar y rhain.
Gall fod yn demtasiwn mawr arbed rhywfaint o amser i chi’ch hun a phrynu pethau sydd wedi'u paratoi ymlaen llaw, felly dim ond eu rhoi yn y ffwrn fydd angen i chi ei wneud.
Ond yn anffodus, daw hyn yn aml gyda thag pris llawer uwch na phrynu pethau sy’n rhaid i chi baratoi eich hun. Ein prif awgrym yw derbyn unrhyw gynigion o gymorth yn y gegin fel bod pawb yn teimlo eu bod wedi cyfrannu at y diwrnod. Gofynnwch i’r bobl ifanc grafu tatws a’r ewythrod i lapio’r moch mewn blancedi a byddwch wedi eu gwneud mewn dim o dro.
Un rheswm mae cinio Nadolig yn ddrytach na phrydau mawr eraill yw oherwydd ein bod yn aml yn prynu llawer gormod.
Ond peidiwch â digalonni a pheidiwch â meddwl bod angen i chi brofi wythnos o frechdanau twrci oer.
Gellir defnyddio twrci dros ben i wneud cyri a chaserolau. Gellir defnyddio tatws rhost oer i wneud ‘bubble a squeak’ gydag unrhyw lysiau sbâr. Gellir defnyddio hyd yn oed y carcas twrci i wneud stoc ar gyfer cawl i’ch cynhesu.
Ffordd wych o arbed arian cyn ac ar ôl y Nadolig yw gwneud y defnydd gorau o’ch rhewgell.
Manteisiwch ar fargeinion cyn y Nadolig i stocio pethau y bydd eu hangen arnoch ym mis Rhagfyr a’u cadw’n ffres yn y rhewgell.
Yn aml gall prynu twrci a gwydd wedi’i rewi fod yn llawer rhatach na phrynu’n ffres.
Yna ar ôl y pryd bwyd, peidiwch â thaflu pethau i ffwrdd. Defnyddiwch y Cynwysyddion storio bwyd a siopau tecawê rydych wedi’u cadw yng nghefn y cwpwrdd a’u rhewi ar gyfer nes ymlaen.
Dim ond cyngor da yn gyffredinol yw hwn mewn gwirionedd, ond yn enwedig adeg y Nadolig pan mae temtasiwn i orwario.
Yn gyntaf, gwnewch gynllun pryd bwyd. Pa berthnasau sy'n dod draw a phryd? Pa ddyddiau ydych allan ar gyfer partïon swyddfa? Pwy sy’n caru ysgewyll Brwsel a phwy sy’n ei gasáu?
Trwy hyd yn oed gael cynllun sylfaenol, byddwch yn lleihau’r siawns o gael deg bocs o fins peis, tri phecyn o stwffin, pum jar o saws llugaeron, pedwar pwdin Nadolig a chwe charton o fenyn brandi dros ben.
Os ydych yn croesawu pobl draw dros y Nadolig, gall y gost fod yn uchel. Beth am ofyn i westeion ddod â byrbrydau neu ran o bryd yr ŵyl gyda nhw? Mae diodydd a phwdinau yn un o’r eitemau hawsaf i'w cludo, a gallant fod yn rhai o’r pethau mwyaf costus ar eich rhestr siopa Nadolig.
Mae archfarchnadoedd yn llawn o gynigion arbennig, BOGOFs a phrynu tri am bris dau yr adeg hon o’r flwyddyn.
Er y gallai rhai ohonynt fod yn fargen dda, fel gyda phob gwerthiant, nid yw hyn yn wir bob amser.
Edrychwch ar y label ar y silff i weld faint rydych yn ei gael yn ôl maint neu bwysau i sicrhau eich bod yn talu pris teg ac nad ydych dim ond yn cael eich camarwain oherwydd ei fod ar gynnig.
Sicrhewch eich bod ei angen mewn gwirionedd. Gall aml-fargen ar saws llugaeron swnio fel gwerth da, ond os mai’r unig ddiwrnod rydych chi’n ei fwyta yw dydd Nadolig yna dylai un jar fod yn ddigon.
Mae prynu brandiau rhatach yn ffordd dda arall o arbed rhywfaint o arian ar yr pethau ychwanegol dewisol, a allai yn lle fynd tuag at eich twrci Nadolig.