Mae angen i ni siarad am y Nadolig

Cyhoeddwyd ar:

Wedi'i ddiweddaru diwethaf:

Gall y Nadolig fod yn ddrud, ac mae’r argyfwng costau byw wedi ychwanegu trafferthion ychwanegol i bobl a oedd â chyllideb cyfyngedig yn barod. 

Mae aelwyd cyffredinol yn y DU yn gwario £740 mwy ym mis RhagfyrYn agor mewn ffenestr newydd na mewn unrhyw fis arall o’r flwyddyn, nid yn unig ar anrhegion ond hefyd ar fwyd a diodydd.

Gwnaeth y pandemig daro ein cyllid yn galed, gyda miloedd o golledion busnes a swyddi a niferoedd enfawr o bobl yn hawlio budd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol, am y tro cyntaf. Y flwyddyn hon, mae costau byw cynyddol wedi ychwanegu hyn yn oed mwy o bwysau ar aelwydydd i leihau eu gwariant dros yr ŵyl.

Dyna pam, yn fwy nag erioed, mae angen i ni siarad â’n ffrindiau a’n teulu am gost y Nadolig, Hanukkah, neu beth bynnag arall rydych yn ei ddathlu.

Siaradwch â’ch ffrindiau a’ch teulu

Mae pwysau i blesio anwyliaid ac i roi’r Nadolig perffaith i blant yn un o’r prif resymau y mae pobl yn eu gorwario yn ystod tymor yr ŵyl.

Pan fyddwch wedi gweithio allan faint y gallwch fforddio ei wario ar anrhegion, siaradwch â'r bobl rydych yn bwriadu rhoi anrhegion iddynt am faint rydych yn bwriadu ei wario.

Gallai hyn beri embaras. Yn ein harolwg, dywedodd tri chwarter y DU wrthym y byddent yn hapus i siarad am gyfanswm cost anrhegion gyda’u partner, ond dim ond traean a fyddai’n gyffyrddus yn siarad â’u mam, ffrindiau, brodyr a chwiorydd neu blant a dim ond chwarter gyda’u tad.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol cofio y bydd llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd y Nadolig hwn. Os ydych yn gwario gormod ar anrhegion i anwyliaid, efallai y byddant yn teimlo’r pwysau i wario’r un faint arnoch chi, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu fforddio gwneud hynny.

Efallai y byddwch yn teimlo dan straen am y syniad o gael sgwrs anodd am arian, ac efallai y byddwch yn anghofio’r pethau pwysig yr oeddech am eu codi. Felly dilynwch ein hawgrymiadau ar gyfer ar Sut i gael sgwrs am arian.

Fe fyddwch yn teimlo’n well pan fyddwch wedi cael y sgwrs. Gyda hynny allan o’r ffordd, dyma ychydig mwy o awgrymiadau i sicrhau nad yw unrhyw hwyl dros yr ŵyl a gewch eleni yn effeithio ar eich dyfodol ariannol.

Gwnewch gyllideb a chadwch ati

Os nad ydych yn siŵr o’ch cynlluniau ar gyfer tymor yr ŵyl eto, fe allai wneud cyllidebu’n anodd. Gall cynllunio a chyllidebu eich helpu i deimlo mwy o reolaeth dros eich gwario am yr ŵyl a gwneud biliau mis Ionawr yn fwy hylaw.

I ddechrau’ch cyllideb, gwnewch restr o deulu a ffrindiau y byddwch yn prynu anrhegion ar eu cyfer a dyrannwch swm ar gyfer pob person. Os yw arian yn dynn, gallai fod yn werth cytuno â’ch ffrindiau a'ch teulu o flaen llaw i beidio â chyfnewid anrhegion.

Eleni yn arbennig, mae anwyliaid yn debygol o ddeall a byddai’n well ganddynt gyfnewid cardiau na'ch gweld yn cael trafferthion ariannol.

Os ydych yn gwahodd pobl draw am bryd, ystyriwch faint o bobl fydd yn dod a faint y bydd angen i chi ei wario ar fwyd a diod. Os yw arian yn dynn, efallai y gallech ofyn eich gwesteion ddod â phryd ar blât. Mae hefyd sawl awgrym gennym ar Sut i dorri cost cinio Nadolig.

Ar ôl i chi gael eich cyllideb mae’n bwysig cadw ati. Gallai hyn olygu siarad â’ch ffrindiau a’ch teulu fel bod ganddynt yr un disgwyliadau cyllidebol.

Peidiwch â defnyddio dyled i dalu

Mae chwarter o bobl y DU yn poeni am fynd i ddyled y Nadolig hwn. Efallai y bydd yn ymddangos yn hawdd nawr talu am anrhegion ar eich cerdyn credyd neu hyd yn oed gymryd benthyciad tymor byr.

Ond gallai ad-dalu’r ddyled fod yn ddrud, ac os byddwch yn colli taliadau, bydd effaith negyddol ar eich adroddiad credyd – a allai effeithio ar eich gallu yn y dyfodol i gael unrhyw fath o ddyled o gwbl.

Os ydych yn gallu, ceisiwch neilltuo ychydig bach o arian bob mis, dim ond ar gyfer eich gwariant Nadolig. Darllenwch ein hawgrymiadau ar gynilo ar gyfer y Nadolig.

Os ydych yn cael trafferth gydag arian, gallwch siarad â rhywun heddiw, am ddim ac yn gyfrinachol, ar-lein neu dros y ffôn. Mae gennym ymgynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi’n arbennig a all eich helpu i ddechrau datrys eich problemau ariannol.

Defnyddiwch ein canllaw am ddim i’ch helpu i benderfynu a ddylech fod yn benthyca arian.

Chwilio am ddewisiadau amgen rhad

Efallai ei fod yn swnio’n wirion ond yr ymdrech sy’n bwysig mewn gwirionedd. Nid yw rhad neu hyd yn oed am ddim yn golygu nad oes ymdrech wedi mynd i mewn i rywbeth.

Dechreuwch gynllunio ar gyfer y Nadolig mor gynnar â phosib. Ym mis Ionawr, prynwch hanfodion y Nadolig fel addurniadau a phapur lapio am brisiau gostyngedig.

Os ydych yn gwybod pa roddion sydd angen i chi eu prynu, gall prynu eitem y mis helpu i ledaenu’r gost ac osgoi’r drafferth o siopa pan fydd pawb arall yn eu gwneud.

A pheidiwch â bod ofn chwilio ar eBay neu mewn siopau elusennol am anrhegion ail-law da sy’n edrych fel newydd. Os gallwch bobi neu os ydych yn grefftus, mae anrheg wedi'i gwneud â llaw yn ystyriol ac nid oes angen iddi fod yn ddrud.

Ac os ydych am ddal gafael ar yr hud Nadoligaidd hwnnw, mae gan MoneySavingExpert restr o awgrymiadau am ddim (Opens in a new window)

Peidiwch â bod ofn rhannu eich pryderon

Un o effeithiau ansicrwydd yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw ei gwneud hi'n normal deimlo, ar brydiau, fod popeth yn ormod.

Ond os ydych yn aml yn teimlo’n isel gallai fod yn arwydd o les meddyliol gwael. Gall teimlo isel ei gwneud hi’n anodd rheoli arian. A gall poeni amdano wneud i chi deimlo hyd yn oed yn waeth.

Os gallwch, gymerwch bum munud i ddarllen ein canllaw Problemau arian a’ch lles meddyliol.

Os yw’ch pryderon yn gysylltiedig â’ch annibyniaeth ariannol, gallai hyn fod yn arwydd o gam-drin ariannol. Mae cefnogaeth i chi. Darllenwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel.

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.