Cynllun pensiwn ‘master trust’

Mae'n rhaid i bob cyflogwr gofrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig i gynllun pensiwn gweithle. Mae'n rhaid iddynt gyfrannu ato hefyd. Yn aml, bydd cyflogwyr yn defnyddio ‘master trust’ - a elwir weithiau yn ‘gynllun pensiwn aml-gyflogwr’

Beth yw cynllun pensiwn ‘master trust’?

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig eu cynllun pensiwn gweithle eu hunain sydd ar gael i'r cyflogwr hwnnw yn unig a'i weithwyr.

Mae cynllun pensiwn ‘master trust’ yn darparu pensiwn gweithle y gellir ei ddefnyddio gan lawer o gyflogwyr a'u gweithwyr. Dyma pam maent hefyd yn cael eu galw'n gynlluniau pensiwn aml-gyflogwr.

Mae yna lawer o gynlluniau ‘master trust’ fawr ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr, gan gynnwys NEST, sef y pensiwn gweithle ‘master trust’ a sefydlwyd gan y llywodraeth.

Nodweddion cynllun pensiwn ‘master trust’

Mae'r mwyafrif o ‘master trusts’ a ddefnyddir am ymrestru awtomatig yn gynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio. Ac meant yn gweithio mewn ffordd debyg i bensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio eraill.

Rydych yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau i'r cynllun pensiwn, sy'n gymhorthdal ​​gan y llywodraeth i roi hwb i'ch cynilion. Hefyd, rydych yn cael budd cyfraniadau'ch cyflogwr.

Buddsoddir yr arian rydych chi a'ch cyflogwr yn ei gyfrannu i'ch pensiwn. A phan fyddwch yn ymddeol, gallwch dynnu'r arian allan mewn unrhyw ffordd rydych ei eisiau.

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o'ch cronfa’n ddi-dreth - ac rydych yn talu treth ar y gweddill.

Bydd gan wahanol gynlluniau ffioedd gwahanol a gwahanol ddewisiadau buddsoddi. Efallai y bydd rhai hefyd yn cyfyngu ar bwy all ymuno a faint y gellir ei dalu i mewn bob blwyddyn.

Eich cyflogwr sy'n penderfynu pa bensiwn ‘master trust’ y mae am ei ddefnyddio.

Os ydych yn gyflogai a'ch bod am ddarganfod mwy am eich pensiwn gweithle, p'un a yw'n ‘master trust’ ai peidio, mae'n well siarad â'ch cyflogwr.

Os ydych yn gyflogwr sydd am sefydlu pensiwn gweithle newydd, neu newid i gynllun arall, mae'n syniad da siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoledig. Byddant yn eich helpu i ddewis. Gall ymgynghorwyr ariannol hefyd gynnig cyngor ariannol rheoledig, trwy'r gweithle, i weithwyr.

Sut mae pensiwn ‘master trust’ yn cael eu rheoli?

Mae pob cynllun pensiwn gweithle yn cael ei lywodraethu gan fwrdd ymddiriedolwyr - ac nid yw ‘master trust’ yn wahanol.

Mae gan yr ymddiriedolwyr nifer o ddyletswyddau cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y cynllun yn cael ei redeg er budd ei aelodau. Er enghraifft, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am reoli buddsoddiadau'r cynllun.

Rhaid bod gan y ‘master trust’ o leiaf dri ymddiriedolwr - er bod gan y mwyafrif fwy. Ac mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o aelodau'r bwrdd fod yn annibynnol o’r gweinyddwr, yn ogystal â'r cyflogwyr sy'n defnyddio'r cynllun.

Hefyd, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr gydymffurfio â Chod Ymarfer y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn awdurdodi ac yn goruchwylio ‘master trusts’. Mae’r cod ymarfer yn seiliedig ar wahanol elfennau sy’n cyfrannu at ‘ganlyniadau da i aelodau’. Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • amddiffyn arian aelodau
  • gweinyddu'r cynllun yn effeithiol ac yn effeithlon
  • a gwerth am arian i aelodau.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.