Os byddwch yn gadael cynllun pensiwn eich cyflogwr, efallai y gallwch chi ail-ymuno yn nes ymlaen.
Eich opsiynau os byddwch yn gadael eich cynllun pensiwn
Os byddwch yn gadael eich cynllun pensiwn, ni fyddwch yn colli'r buddion rydych wedi'u cronni (er os ydych mewn cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio, gall gwerth eich buddsoddiadau ostwng yn ogystal â mynd i fyny. Gweler isod am ragor o fanylion).
Mae'r hyn rydych wedi'i adeiladu yn parhau i fod yn eiddo i chi, ac mae gennych sawl opsiwn ar gyfer beth i'w wneud ag ef. Dylai gweinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn ddweud wrthych pa opsiynau sy'n berthnasol i chi.
A ydych yn dal i weithio i'r un cyflogwr? Yna gallwch ofyn i weinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn a yw'n bosibl ail-ymuno â'r cynllun.
A yw'r cynllun roeddech yn aelod ohono bellach wedi cau i aelodau newydd? Yna efallai y cewch gyfle i ymuno â chynllun newydd. Ond byddwch yn ymwybodol efallai na fydd y cynllun newydd hwn yn cynnig yr un buddion â'ch un gwreiddiol.
Cofrestru'n awtomatig
Os gwnaethoch optio allan o gynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr, byddant yn eich rhoi yn ôl mewn pensiwn gweithle. Mae hyn fel arfer yn digwydd bob tair blynedd - cyhyd â'ch bod yn gymwys i gofrestru'n awtomatig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cofrestru awtomatig
Efallai na fydd y cynllun hwn yr un un ag roeddech yn perthyn iddo o'r blaen. Efallai y bydd ganddo lefelau cyfrannu gwahanol, ac mae'n cynnig buddion gwahanol.
A ydych wedi ail-ymuno â chyflogwr rydych wedi gweithio iddo o'r blaen - ac wedi bod yn aelod o'u cynllun pensiwn? Yna efallai y gallwch ail-ymuno â'r un cynllun. Dylai gweinyddwr y cynllun neu'r darparwr pensiynau ddweud wrthych eich opsiynau.
Ail-ymuno â chynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio
Os ydych yn ail-ymuno â'ch cynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio - mae rheolau'r cynllun yn penderfynu sut rydych yn cael eich trin.
Efallai y cewch eich trin fel pe na baech erioed wedi gadael y cynllun. Mae hyn yn golygu bod eich dau gyfnod (neu fwy) o wasanaeth yn cael eu hychwanegu at ei gilydd i bennu'r budd-daliadau pensiwn y byddwch yn eu derbyn pan fyddwch yn ymddeol.
Neu, efallai y bydd eich dau gyfnod (neu fwy) o aelodaeth cynllun yn cael eu trin ar wahân. Felly, er enghraifft, pan fyddwch yn ymddeol, byddech yn derbyn eich pensiwn, a fyddai'n seiliedig ar eich cyfnod aelodaeth cyntaf, ynghyd â budd-daliadau pensiwn yn seiliedig ar bob un o'ch cyfnodau aelodaeth diweddarach.
Darganfyddwch fwy am gynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio yn ein canllaw cynlluniau pensiwn Gweithle
Ail-ymuno â chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig
Os byddwch yn ail-ymuno â'ch cynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, bydd y cyfraniadau newydd yn cael eu hychwanegu at eich pot pensiwn. Bydd yn parhau i dyfu, yn seiliedig ar y buddsoddiadau o'ch dewis.