Mae pensiwn personol grŵp yn fath o gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio y mae rhai cyflogwyr yn ei gynnig i’w gweithwyr. Yn yr un modd â mathau eraill o gynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio, mae aelodau o bensiwn personol grŵp yn casglu cronfa bensiwn bersonol, y maent yn ei throi’n incwm ar ôl ymddeol wedyn.
Pensiwn personol grŵp – Sut mae’n gweithio?
Caiff cynllun pensiwn personol grŵp ei redeg gan ddarparwr pensiwn a ddewisir gan eich cyflogwr. Ond contract unigol rhyngoch chi a’r darparwr yw eich pensiwn .
Fel rheol, bydd eich cyflogwr yn cyfrannu ac yn aml gofynnir i chi gyfrannu hefyd .
Eich cyflogwr sy'n gosod symiau'r cyfraniad. Byddant yn rhoi manylion i chi pan ofynnir i chi ymuno â'r cynllun .
Serch hynny, mae isafswm cyfraniadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymrestru’n awtomatig – cyflwyniad
Byddwch yn cael rhyddhad treth ar gyfraniadau a wnewch i bensiwn personol grŵp. Dyma arian a fyddai fel arall wedi mynd i'r llywodraeth fel treth.
Mewn pensiwn personol grŵp, bydd y darparwr bob amser yn hawlio rhyddhad treth ar eich cyfraniadau gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol. Yna byddant yn ychwanegu hwn at eich cronfa bensiwn.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch neu ychwanegol, bydd angen i chi hawlio'r rhyddhad ychwanegol trwy eich ffurflen dreth .
Mae'ch cronfa bensiwn yn cronni gan ddefnyddio :
- eich cyfraniadau
- unrhyw gyfraniadau gan eich cyflogwr
- enillion buddsoddiadau
- rhyddhad treth.
Sut bydd eich pensiwn yn tyfu tra byddwch yn gweithio
Caiff y gronfa ei buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau fel rheol, ynghyd â buddsoddiadau eraill. Y nod yw cynyddu’ch cronfa bensiwn yn ystod y blynyddoedd cyn i chi ymddeol.
Ni thelir unrhyw dreth ar y twf na'r incwm o fuddsoddiadau yn eich cronfa bensiwn.
Gallwch ddewis o amrywiaeth o gronfeydd i fuddsoddi ynddynt fel rheol. Felly gallwch ddewis un, neu nifer o gronfeydd, sy'n diwallu'ch anghenion neu'ch amgylchiadau orau.
Os na ddewiswch pan ymunwch â'r pensiwn gyntaf, buddsoddir eich arian mewn cronfa a ddewisir gan y cynllun pensiwn. Efallai y cyfeirir ati fel cronfa ‘ddiofyn’ a bydd yn cael ei chynllunio i weddu i ystod eang o bobl.
Os yw'ch arian yn cael ei fuddsoddi mewn cronfa ddiofyn, gellir ei roi mewn cronfa ffordd o fyw. Cronfa ymddeol yw hon sy'n gweithio trwy symud eich arian i fuddsoddiadau risg is wrth ichi agosáu at ymddeol.
Ond cofiwch y gall gwerth buddsoddiadau godi neu ostwng.
Os oes angen help arnoch i benderfynu sut i fuddsoddi'ch cyfraniadau, darllenwch ein canllaw Dewisiadau buddsoddi pensiwn – trosolwg
Bydd maint eich cronfa bensiwn, a faint o incwm a gewch pan fyddwch yn ymddeol, yn dibynnu ar:
- pa mor hir byddwch yn cynilo
- faint byddwch yn ei gyfrannu i'r pensiwn
- faint, os unrhyw beth, y bydd eich cyflogwr yn ei gyfrannu
- mor dda bydd eich buddsoddiadau yn perfformio
- lefel y taliadau bydd eich darparwr pensiwn yn eu cymryd
Cymryd arian o'ch pensiwn
O 55 oed (yn codi i 57 yn 2028), gallwch ddewis cael mynediad i'ch cronfa bensiwn trwy un o'r opsiynau isod, neu gyfuniad ohonynt.
Yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau personol, gallai rhai neu bob un ohonynt fod yn addas i chi.
Eich prif opsiynau yw:
- Cadwch eich cynilion pensiwn lle maent - a’u cymryd yn nes ymlaen.
- Defnyddiwch eich cronfa bensiwn i brynu incwm gwarantedig am oes neu am dymor penodol – a elwir hefyd yn flwydd-dal oes neu dymor penodol. Mae'r incwm yn drethadwy. Ond gallwch ddewis cymryd hyd at 25% (weithiau mwy gyda rhai cynlluniau) o'ch cronfa fel cyfandaliad di-dreth unwaith ac am byth ar y dechrau.
- Defnyddiwch eich cronfa bensiwn i ddarparu incwm ymddeol hyblyg - a elwir hefyd yn dynnu i lawr pensiwn. Gallwch gymryd y swm y caniateir i chi ei gymryd fel cyfandaliad di-dreth (hyd at 25% o'r cronfa fel arfer). Yna gallwch ddefnyddio'r gweddill i ddarparu incwm trethadwy rheolaidd.
- Cymerwch nifer o gyfandaliadau – fel arfer bydd y 25% cyntaf o bob tynnu arian allan o'ch cronfa yn ddi-dreth. Bydd y gweddill yn cael ei drethu.
- Cymerwch eich cronfa bensiwn ar yr un pryd – fel arfer bydd y 25% cyntaf yn ddi-dreth ac mae'r gweddill yn drethadwy.
- Cymysgwch eich opsiynau – dewiswch unrhyw gyfuniad o'r uchod, gan ddefnyddio gwahanol rannau o'ch cronfa neu gronfeydd ar wahân.
Mae terfyn oes ar y cyfanswm y gellir ei dynnu yn ddi-dreth a elwir yn ‘Lwfans Cyfandaliad’ neu LSA. Ar gyfer 2024/25, mae hyn wedi’i osod ar £268,275 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Gall y rheolau fod yn gymhleth ac os credwch y gallech gael eich effeithio efallai y byddwch am geisio cyngor ariannol rheoledig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau pensiwn - beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa?
Yr hyn y mae angen i chi ei ystyried
Bydd rhai cyflogwyr hefyd yn cyfrannu i’r pensiwn gweithle maent yn ei redeg. Mae hyn yn golygu y byddwch yn colli allan ar eu cyfraniadau os byddwch yn penderfynu peidio ymuno.
Oni bai mai’ch blaenoriaeth yw delio â dyledion sydd allan o reolaeth, neu nad ydych wir yn gallu ei fforddio, dylech ystyried ymuno ag un o’r cynlluniau hyn os gallwch.
Gall faint y mae eich cyflogwr yn ei gyfrannu ddibynnu ar faint rydych yn fodlon ei gynilo, a gallai gynyddu wrth i chi fynd yn hŷn.
Er enghraifft, efallai y bydd eich cyflogwr yn barod i dalu’r un cyfraniad â chi ar sail gyfatebol hyd at lefel benodol, ond gallai fod yn fwy hael.
Mae hyn yn arian am ddim gan eich cyflogwr, felly os gallwch fforddio'r cyfraniadau ychwanegol mae'n werth ei gymryd.
Newid swydd
Os byddwch yn newid swydd, bydd eich cronfa bensiwn yn parhau i gael ei fuddsoddi - a gobeithio yn parhau i dyfu.
Gallwch barhau i gyfrannu ato'n annibynnol ar eich cyflogwr blaenorol os ydych eisiau. Fodd bynnag, gwiriwch i weld a oes taliadau am y newid hwn.
Os ydych yn dechrau swydd, fel rheol bydd rhaid i'ch cyflogwr newydd eich cofrestru yn eu cynllun pensiwn .
Mae'n werth gwirio hyn cyn i chi barhau i gynilo i mewn i unrhyw rai eraill sydd gennych. Mae hyn oherwydd y byddwch fel arfer yn well eich byd yn ymuno â'ch cynllun cyflogwr newydd, yn enwedig os yw'r cyflogwr yn cyfrannu.