Os ydych yn prynu cartref yn Lloegr neu Gogledd Iwerddon efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT). Ni fyddwch yn talu unrhyw Dreth Stamp os yw'r swm a dalwch am eich prif gartref o dan £250,000.
Current Stamp Duty rates will stay the same until 31 March 2025.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw’r Dreth Stamp?
- Faint yw’r Dreth Stamp?
- Treth Stamp ar ail gartrefi
- Rhyddhad Treth Stamp i brynwyr tro cyntaf
- Treth Stamp ar gyfer pobl sy’n amhreswyl
- Ad-daliad cyfraddau uwch o Dreth Stamp
- Pa mor hir sydd gennych i dalu Treth Stamp?
- Sut i dalu Treth Stamp
- Pryd nad yw'r Dreth Stamp yn daladwy?
- Treth Stamp wrth drosglwyddo eiddo
Beth yw’r Dreth Stamp?
Mae Treth Stamp yn dreth y gallai fod yn rhaid i chi ei thalu wrth brynu eiddo neu ddarn o dir.
Byddwch yn talu Treth Stamp ar eiddo preswyl yn Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n costio mwy na £250,000, oni bai eich bod yn brynwr tro cyntaf
Mae'r dreth hon yn berthnasol i eiddo rhydd-ddaliad a lesddaliad. Mae hefyd yn berthnasol p'un ai ydych yn prynu'n llwyr neu gyda morgais.
- Os ydych yn prynu eiddo yn yr Alban, byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn hytrach na Threth Stamp.
- Os ydych yn prynu eiddo yng Nghymru, byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir yn hytrach na Threth Stamp.
Faint yw’r Dreth Stamp?
Mae sawl band cyfradd ar gyfer Treth Stamp.
Cyfrifir y dreth ar y rhan o bris prynu’r eiddo sy’n dod o fewn pob band.
Byddwch yn talu Treth Stamp ar brynu eich prif eiddo sy’n costio mwy na £250,000, oni bai eich bod yn brynwr tro cyntaf
Enghraifft
Er enghraifft, os prynwch dŷ am £350,000, cyfrifir y Dreth Dir y Dreth Stamp sy'n ddyledus gennych fel hyn:
- 0% ar y £250,000 cyntaf = £0
- 5% ar y swm o £250,001 a £350,000 = £5,000
Cyfanswm Treth Stamp i dalu = £5,000
Cyfraddau Treth Stamp
Bandiau prisiau prynu eiddo | Cyfradd Treth Stamp |
---|---|
Hyd at £250,000 |
0% |
£250,001 i £925,000 |
5% |
£925,001 i £1,500,00 |
10% |
Dros £1.5 miliwn |
12% |
Treth Stamp ar ail gartrefi
Os ydych yn prynu eiddo ychwanegol fel ail gartref, bydd rhaid i chi dalu 3% ychwanegol mewn Treth Stamp ar ben y cyfraddau safonol.
Ni fyddwch yn talu unrhyw Dreth Stamp os yw'r eiddo'n costio llai na £40,000.
Nid yw'n berthnasol i garafanau, cartrefi symudol neu gychod preswyl.
Isafswm pris prynu eiddo | Cyfradd Treth Stamp |
---|---|
Hyd at £250,000 |
3% |
£250,001 i £925,000 |
8% |
£925,001 i £1,500,00 |
13% |
Dros £1.5 miliwn |
15% |
Rhyddhad Treth Stamp i brynwyr tro cyntaf
Os ydych yn brynwr tro cyntaf yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ni fyddwch yn talu Treth Stamp ar bryniannau eiddo hyd at £425,000. Gelwir hyn yn 'rhyddhad prynwyr tro cyntaf'.
Ar gyfer eiddo sy'n costio hyd at £625,000, ni fyddwch yn talu Treth Stamp ar y £425,000 cyntaf. Yna byddwch yn talu Treth Stamp ar gyfradd o 5% ar y swm sy'n weddill, hyd at £200,000.
Os yw'r eiddo rydych yn ei brynu yn werth mwy na £625,000, bydd angen i chi dalu'r cyfraddau Treth Stamp safonol ac ni fyddwch yn gymwys i gael rhyddhad prynwyr tro cyntaf.
Pwy sy’n cyfrif fel prynwr tro cyntaf
Rydych chi'n brynwr tro cyntaf os ydych chi'n:
- prynu eich unig breswylfa neu'ch prif breswylfa
- nad ydych erioed wedi bod yn berchen ar rydd-ddaliad neu fod gennych fuddiant lesddaliad mewn eiddo preswyl yn y DU neu dramor.
Os ydych erioed wedi etifeddu eiddo (neu ran o un), ni fyddwch yn cael eich ystyried yn brynwr tro cyntaf.
Treth Stamp os ydych yn prynu gyda rhywun arall
Os ydych yn prynu eiddo gyda pherson arall, rhaid i'r ddau ohonoch fodloni'r meini prawf i brynwyr tro cyntaf i gael rhyddhad Treth Stamp.
Treth Stamp ar gyfer pobl sy’n amhreswyl
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU yn prynu eiddo preswyl yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu 2% ychwanegol ar ben y cyfraddau Treth Stamp presennol. Mae hyn yn berthnasol i eiddo sy'n costio mwy na £40,000.
Darganfyddwch fwy am gyfraddau Treth Stamp os nad ydych yn breswylydd yn y DUYn agor mewn ffenestr newydd
Ad-daliad cyfraddau uwch o Dreth Stamp
Os ydych yn prynu prif breswylfa newydd ond bod oedi cyn gwerthu'ch cartref blaenorol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r cyfraddau uwch o Dreth Stamp gan y byddwch bellach yn berchen ar ddau eiddo.
Fodd bynnag, os ydych yn gwerthu eich cartref blaenorol o fewn tair blynedd i brynu'ch cartref newydd, gallwch wneud cais am ad-daliad Treth Stamp. Bydd hyn yn gadael i chi hawlio'r dreth ychwanegol a dalwyd gennych ar eich cartref newydd yn ôl.
Gallwch ofyn am ad-daliad am y swm dros y cyfraddau Treth Stamp arferol os:
- rydych yn gwerthu'ch cartref blaenorol o fewn tair blynedd, a
- rydych yn hawlio'r ad-daliad o fewn 12 mis i'r gwerthiant, neu o fewn 12 mis i ddyddiad ffeilio eich ffurflen Treth Stamp, pa un bynnag ddaw yn hwyrach.
Gallwch wneud cais am ad-daliad Treth Stamp ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pa mor hir sydd gennych i dalu Treth Stamp?
Mae gennych 14 diwrnod i gyflwyno ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) a thalu unrhyw SDLT sy'n ddyledus.
Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen dreth ac yn talu'r dreth o fewn 14 diwrnod, efallai y bydd CThEF yn codi cosbau a llog i chi.
Darganfyddwch fwy am gosbau Treth Stamp a llogYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i dalu Treth Stamp
Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Treth Stamp, hyd yn oed os nad ydych yn talu unrhyw SDLT. Fel arfer, bydd eich cyfreithiwr yn cyflwyno eich ffurflen, er y gallwch ei wneud eich hun.
Neillffordd, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod popeth yn cael ei gyflwyno ar amser.
Gallwch ddysgu am ffeilio ffurflen dreth a thalu Treth Stamp ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pryd nad yw'r Dreth Stamp yn daladwy?
Mae rhai amgylchiadau lle na fydd angen i chi dalu Treth Stamp.
Os ydych yn etifeddu eiddo, ni fydd yn rhaid i chi dalu Treth Stamp fel arfer. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych yn cymryd morgais sy'n ddyledus.
Nid oes angen i chi gyflwyno ffurflen Treth Stamp os ydych wedi etifeddu eiddo mewn ewyllys. Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant. Dysgwch fwy yn ein canllaw i Dreth Etifeddiaeth.
Trosglwyddo perchnogaeth eiddo oherwydd gwahaniad neu ysgariad
Ni fydd yn rhaid i chi dalu Treth Stamp os ydych yn trosglwyddo eiddo i'ch partner oherwydd eich bod yn:
- gwahanu'n gyfreithiol
- dod â phartneriaeth sifil i ben
- dirymu priodas, neu
- ysgaru.
Os yw hyn yn wir, nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF am y trosglwyddiad.
Os ydych yn ddibriod ac nid mewn partneriaeth sifil wrth drosglwyddo eiddo, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Stamp.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Diogelu eich hawliau ar berchen cartref yn ystod ysgariad neu ddiddymiad.
Rhoi eiddo fel anrheg
Os ydych yn rhoi eich eiddo fel anrheg i rywun arall, ni fydd yn rhaid iddynt dalu Treth Stamp os nad oes morgais sy'n ddyledus.
Mae anrheg yn wahanol i drosglwyddiad, gan nad oes unrhyw beth o werth ariannol yn cael ei gyfnewid. Byddai hyn yn golygu nad yw'r person sy'n derbyn yr eiddo yn talu unrhyw arian, yn cymryd dim rhan o'r morgais ac yn cynnig dim yn gyfnewid.
Os byddwch yn cymryd drosodd rhywfaint neu’r cyfan o’r morgais sy’n ddyledus, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Stamp ar werth y morgais.
Treth Stamp wrth drosglwyddo eiddo
Os byddwch yn trosglwyddo'r cyfan neu ran o eiddo i rywun arall, efallai y bydd Treth Stamp i'w thalu.
Bydd angen i chi dalu Treth Stamp os ydych yn:
- cyfnewid unrhyw beth o werth ariannol ar gyfer trosglwyddo’r eiddo, neu
- trosglwyddo ecwiti ar forgais.
Mae cyfraddau Treth Stamp yr un fath ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth ag ydynt ar gyfer prynu eiddo, ond mae sut y cânt eu cyfrifo yn wahanol.
Trosglwyddo eiddo fel cyfnewidfa
Os ydych yn rhoi unrhyw beth o werth ariannol yn gyfnewid am drosglwyddo eiddo cyfan neu ran ohono, efallai y bydd angen i chi dalu Treth Stamp.
Bydd p’un a fyddwch yn talu yn dibynnu ar y ‘cydnabyddiaeth drethadwy’. Dyma’r pris cyfan a dalwyd am eiddo, a gall gynnwys:
- taliadau arian parod
- atebolrwydd y cyfan neu ran o'r morgais sy'n ddyledus
- unrhyw osodiadau neu ffitiadau
- unrhyw ffioedd cyfreithiol
- unrhyw asedau eraill a drosglwyddwyd fel rhan o’r fargen.
Byddwch yn talu Treth Stamp am y gydnabyddiaeth drethadwy gyfan ar yr un cyfraddau ag y byddech ar gyfer prynu eiddo. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfraddau ychwanegol os yw hwn yn ail eiddo neu'n eiddo prynu-i-osod.
Trosglwyddo ecwiti
Mae trosglwyddo ecwiti fel arfer yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei ychwanegu at forgais neu ei ryddhau ohono. Efallai y bydd angen talu Treth Stamp yn dibynnu ar:
- y swm sy'n weddill ar y morgais
- gwerth yr ecwiti sy'n cael ei drosglwyddo
- unrhyw beth sy'n cael ei gyfnewid am yr ecwiti.
Os yw'r gydnabyddiaeth drethadwy gyfan yn is na'r trothwy Treth Stamp, ni fydd angen i chi dalu. Er enghraifft:
- Mae tŷ yn werth £200,000, gyda £100,000 yn ddyledus ar y morgais a £100,000 mewn ecwiti.
- Mae'r perchennog yn cytuno i rannu'r eiddo yn gyfartal â'i bartner.
- Mae'r sawl sy'n cymryd perchnogaeth yn talu £50,000 iddynt am hanner arall yr ecwiti £100,000 sydd ar ôl yn yr eiddo.
- Mae'r person hwnnw hefyd yn dod yn gyfrifol am hanner arall y morgais sy'n weddill, sef £50,000.
Yn y sefyllfa hon, y gydnabyddiaeth drethadwy yw £100,000, felly ni fyddai angen i'r perchennog newydd dalu Treth Stamp oni bai mai hwn yw ei ail gartref.
Mewn enghraifft arall:
- Mae gan berchennog eiddo gwerth £700,000 gyda £600,000 ar ôl ar ei forgais.
- maent yn priodi ac yn trosglwyddo hanner yr eiddo i'w partner.
- Erbyn hyn, mae gan eu partner £50,000 mewn ecwiti, ac mae'n gyfrifol am £300,000 o'r morgais.
Mae gan y partner gydnabyddiaeth drethadwy o £350,000. Byddant yn talu £5,000 mewn Treth Stamp (0% o'r £250,000 cyntaf a 5% o £100,000).
Efallai y byddwch yn dewis i beidio â rhannu'r ecwiti. Yn yr achos hwn, byddech ond yn talu Treth Stamp ar werth y morgais sy'n ddyledus yn cael ei drosglwyddo.
Trosglwyddo ecwiti os gaiff ei rannu’n anghyfartal
Os yw eiddo yn cael ei rannu'n anghyfartal, gallai'r person sydd â'r gyfran fwy digolledu’r llall. Telir Treth Stamp ar yr iawndal hwn os yw'n uwch na'r trothwy.
Fodd bynnag, os bydd un perchennog yn penderfynu peidio â digolledu’r llall, neu os caiff ei roi fel anrheg, nid oes Treth Stamp i'w thalu.