Pan fyddwch yn nesáu at ymddeol, mae angen i chi wneud llawer o benderfyniadau gan gynnwys sut i drosi eich cronfa bensiwn i incwm ymddeoliad. Darganfyddwch pam ei bod yn bwysig cael help a ble y gallwch ddod o hyd iddo.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pam cael help?
- Rheolau ar gyfer cael mynediad at eich pensiwn
- Ceisiwch ychydig o gymorth am ddim yn gyntaf
- Pa fath o gyngor allwch chi ei gael?
- Mwy o ddewis, llai o risg
- Rydych yn cael yr hyn yr ydych yn talu amdano
- Sut ydych chi’n talu am gyngor ariannol?
- Dewis ymgynghorydd ariannol
- Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol sy’n arbenigo mewn cyngor ar ymddeoliad
Pam cael help?
Oni bai eich bod mewn cynllun pensiwn (a elwir yn gynllun ‘cyflog terfynol’ neu ‘fuddion wedi’u diffinio’) sy’n talu incwm i chi yn seiliedig ar eich cyflog pan fyddwch yn ymddeol, rydych yn fwyaf tebygol o fod yn cynilo mewn cynllun sy’n eich darparu â swm o arian (a elwir yn gronfa bensiwn).
Os felly, bydd yn rhaid i chi benderfynu sut ydych chi’n mynd i ddefnyddio’ch cronfa bensiwn i ddarparu incwm pan fyddwch yn ymddeol.
Mae sawl opsiwn ar gael, rhai yn fwy cymhleth nag eraill, ond nid yw penderfynu beth sy’n gywir i chi yn syml.
Ond hyd yn oed cyn i chi gyrraedd y cam hwnnw, mae yna gwestiynau y gallech fod angen cymorth i’w hateb. Er enghraifft:
- A allwch chi fforddio ymddeol?
- A ddylech ddod â’ch holl cronfeydd pensiwn ynghyd?
- Faint fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth?
Bydd gallu ateb y cwestiynau hynny yn eich helpu i wneud penderfyniadau da a chael y gorau o'ch cronfa bensiwn.
Rheolau ar gyfer cael mynediad at eich pensiwn
Yn y gorffennol, ar ôl i chi gymryd eich arian parod di-dreth o’ch cronfa bensiwn, byddech bron yn sicr wedi gorfod defnyddio’r gweddill i brynu blwydd-dal. Byddai’r blwydd-dal yn rhoi incwm gwarantedig i chi am weddill eich oes.
Ond mae rheolau a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2015 yn golygu pan fyddwch yn 55 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio'ch cronfa bensiwn mewn unrhyw ffordd yr hoffech.
Fodd bynnag, gyda mwy o ryddid daw mwy o ddewis a chymhlethdod. Efallai y bydd angen cyngor ariannol proffesiynol ar lawer o bobl i’w cynorthwyo i benderfynu beth i’w wneud gyda’u cronfa.
Hyd yn oed os nad ydych erioed wedi cael cyngor ariannol o’r blaen, mae’n debyg mai dyma’r amser i wneud hynny.
Oni bai eich bod yn bendant iawn ynglŷn â’r hyn a hoffech ei wneud, efallai mai cymryd cyngor fyddai’r penderfyniad ariannol doethaf a wnewch yn eich bywyd.
Darganfyddwch fwy am eich dewisiadau yn ein canllaw Opsiynau i ddefnyddio eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio
Ceisiwch ychydig o gymorth am ddim yn gyntaf
Cyn i chi weld ymgynghorydd ariannol sicrhewch eich bod yn manteisio ar eich sesiwn cyngor ar bensiwn am ddim gyda Pension Wise.
Gwasanaeth am ddim wedi’i gefnogi gan y llywodraeth yw hwn sy’n rhoi cymorth i chi ddeall yr hyn allwch ei wneud gyda’ch cronfa bensiwn a goblygiadau treth y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi.
Yna, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddeall mwy am eich sefyllfa ariannol eich hun a pha gwestiynau ddylech ofyn i’ch ymgynghorydd os ydych yn defnyddio un.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Deall beth yw Pension Wise a sut i’w ddefnyddio
Pa fath o gyngor allwch chi ei gael?
Os byddwch yn penderfynu mynd ymlaen a chael cyngor ariannol, mae’n bwysig deall pa fath o wasanaeth rydych yn ei gael.
Yr hyn a all fod yn ddryslyd yw nad yw pob math o gyngor ariannol yn rhoi'r un lefel o ddiogelwch i chi.
Mae yna ddigon o wybodaeth a help ar gael ynghylch cynnyrch ymddeoliad, ond ni fydd hyn o reidrwydd yn gyngor ariannol personol i chi. Hynny yw, bydd yn gyffredinol ac nid yw'n seiliedig ar eich sefyllfa neu'ch amgylchiadau eich hun.
Gyda chyngor ariannol personol bydd eich ymgynghorydd yn mynd trwy broses canfod ffeithiau gyda chi i gasglu gwybodaeth amdanoch.
Yna maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i asesu eich hamgylchiadau ac i roi argymhelliad personol i chi am y camau y dylech eu cymryd yn eu barn nhw.
Rhaid i unrhyw gamau a argymhellwyd fod yn addas ar eich cyfer chi.
Os yw hyn yn troi allan i beidio â bod yn wir, mae gennych amddiffyniad cyfreithiol a gallwch gwyno am gamwerthu i’r cwmni mae’r ymgynghorydd yn gweithio iddo.
Os gwrthodir eich cwyn, gallwch ei chyfeirio at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Byddant yn asesu eich cwyn am ddim
Darganfyddwch fwy ar wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Sicrhewch bob amser bod yr ymgynghorydd a'r cwmni y maent yn gweithio iddo yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Os ydynt, byddant wedi'u rhestru ar Gofrestr Cwmnïau Awdurdodedig yr FCA. Mae'n bwysig gwirio eu hawdurdodiad cyn i chi ymrwymo i unrhyw beth.
Gwiriwch y gofrestr ar wefan FCA
Mwy o ddewis, llai o risg
Mae cael cyngor ariannol yn golygu mwy na dim ond gallu gwneud cwyn os aiff pethau o chwith.
Mae gan ymgynghorwyr ariannol sy’n rhoi cyngor ariannol personol fynediad at ystod fwy eang o gynhyrchion a gwasanaethau nag y gallech gael mynediad atynt o ddifrif ar eich pen eich hun.
Bydd ganddynt arbenigedd a chymwysterau yn y maes y mae angen cyngor arnoch, yn ogystal â gwybodaeth am y farchnad.
Gall ymgynghorwyr hefyd sicrhau, pan fydd cynlluniau wedi'u gwneud, eu bod wedyn yn aros ar y trywydd iawn i gyflawni'ch amcanion.
Rydych yn cael yr hyn yr ydych yn talu amdano
Rhaid talu am gyngor ariannol personol. Rhaid i ymgynghorwyr roi gwybod i chi faint fydd y cyngor yn ei gostio a beth sydd wedi’i gynnwys cyn i chi fwrw ymlaen.
Trwy ddefnyddio gweithiwr proffesiynnol cymwys, rydych yn talu rhywun i’ch helpu i osgoi gwneud camgymeriadau drud ac a allai newid eich bywyd.
Os byddwch yn penderfynu prynu’n uniongyrchol heb gyngor dylech wirio faint mae hyn yn ei gostio i chi.
Efallai na fyddech yn arbed arian trwy brynu heb gael cyngor gan fod ffioedd canolwr neu frocer yn aml wedi eu cuddio mewn taliadau cynnyrch ac nid ydynt yn amlwg.
Hyd yn oed os byddwch yn prynu’n uniongyrchol gan ddarparwr, efallai y bydd yna costau cynnyrch cudd sy’n golygu nad ydych yn talu llawer llai na phe byddech wedi cael cyngor.
Dylech o leiaf gymharu’r costau o brynu’n uniongyrchol gyda chostau cael cyngor cyn i chi wneud penderfyniad terfynol.
Sut ydych chi’n talu am gyngor ariannol?
Telir cyngor ariannol am ddewisiadau ymddeoliad trwy ffioedd. Roedd yn arfer fod yn bosibl i dalu am gyngor ariannol drwy gomisiwn ar werthiant cynnyrch, ond cafodd hynny ei stopio sawl blwyddyn yn ôl.
Rhaid i’ch ymgynghorydd roi gwybodaeth i chi ar y ffioedd mae’n eu codi cyn i chi ymrwymo i dderbyn ei gyngor.
Mae’n bwysig eich bod yn cytuno ymlaen llaw ar y math o gyngor sydd ei angen arnoch er mwyn iddynt gallu rhoi amcangyfrif cywir i chi o'r gost gyffredinol am y cyngor.
Os ydych chi’n amwys neu’n aneglur am eich anghenion, mae’n ei gwneud yn anoddach iddynt gyfrifo faint o waith fydd ei angen.
Gallwch ofyn i’r ymgynghorydd fanylu ar y ffioedd er mwyn i chi fedru deall yn union beth fydd natur y gwaith a wneir ganddynt ar eich rhan.
Cofiwch hefyd gadw cost y cyngor mewn persbectif. Os bydd cyngor da yn helpu i ddatrys problem gymhleth a allai effeithio ar eich sefyllfa ariannol am flynyddoedd i ddod, bydd yn arian gwerth ei wario.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ffioedd ymgynghorwyr ariannol
Dewis ymgynghorydd ariannol
Mae ymgynghorwyr ariannol sy’n darparu cyngor ariannol personol ar opsiynau ymddeol wedi eu dosbarthu naill ai’n annibynnol neu gyfyngedig.
Nid yw ymgynghorwyr ariannol annibynnol (IFAs) wedi eu cyfyngu o ran y mathau o gynnyrch y gallant argymell na’r darparwyr a’u cynnyrch a gynigiant.
Ar y llaw arall gall ymgynghorwyr cyfyngedig un ai fod wedi eu cyfyngu o ran yr ystod o gynnyrch, neu’r nifer o ddarparwyr a ddewisant ohonynt.
Y cwestiwn allweddol i ofyn i’ch ymgynghorydd yw a yw’n cynnig gwasanaeth sy’n adlewyrchu’r farchnad gyfan.
Mae hyn yn golygu pa bynnag gynnyrch neu wasanaeth sy’n cael ei argymell, gall eich ymgynghorydd ddewis o ddetholiad o ddarparwyr cynnyrch yn y farchnad benodol honno ac nid dim ond un neu ddau. Felly gallwch fod yn sicr eich bod yn cael y dewis ehangaf posib.
Sicrhewch bob amser bod yr ymgynghorydd a'r cwmni y maent yn gweithio iddo yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Os ydynt, byddant wedi'u rhestru ar Gofrestr Cwmnïau Awdurdodedig yr FCA. Mae'n bwysig gwirio eu hawdurdodiad cyn i chi ymrwymo i unrhyw beth.