Cefnogaeth i’ch helpu i astudio pan fyddwch yn sâl neu’n anabl

Os ydych wedi mynd yn sâl neu’n anabl ac yn gorfod stopio eich astudiaethau dros dro, mae’n bosibl cymryd seibiant heb orfod rhoi’r ffidil yn y to yn gyfan gwbl. Ac os ydych yn meddwl dechrau cwrs newydd, gallwch wneud cais am help ariannol â’r costau ychwanegol o fod yn fyfyriwr anabl.

Cymryd seibiant o’ch astudiaethau

Os oes angen i chi gymryd hyd at 60 diwrnod o absenoldeb

Os ydych yn mynd yn sâl neu’n anabl yng nghanol cwrs ac na allwch astudio, rhowch wybod i’ch prifysgol neu goleg cyn gynted â phosibl.

Gallwch fod yn absennol o’ch cwrs am 60 diwrnod heb ei fod yn effeithio ar eich hawl i gael cymorth ariannol fel myfyriwr.

Beth sy’n digwydd ar ôl 60 diwrnod o absenoldeb?

Ar ôl 60 diwrnod, fel arfer mae’ch prifysgol neu goleg yn hysbysu darparwr eich cymorth ariannol a maent yn stopio’ch taliadau benthyciad neu grant.

Os nad ydych am adael eich cwrs ac rydych yn wynebu caledi eithafol oherwydd nad yw’ch rhandaliadau benthyciad a grant yn cael eu talu, gallwch:

  • siarad â darparwr eich cyllid am randaliadau benthyciad estynedig
  • siarad â’ch prifysgol neu goleg – efallai gallent eich helpu gyda chyllid caledi.

Gall eich corff ariannu benderfynu ymestyn y cymorth sydd ar gael i chi os ydych angen stopio’ch astudiaethau dros dro neu eu hailadrodd oherwydd afiechyd.

Cyllid myfyrwyr

Mae’r help ariannol sydd ar gael i chi’n amrywio gan ddibynnu ymhle yn y DU rydych yn byw a ble rydych yn astudio.

Mae benthyciadau a grantiau yn cael eu torri i lawr i’r prif feysydd canlynol:

  • benthyciad Ffioedd Dysgu – sy’n talu ffioedd eich cwrs
  • benthyciad Cynhaliaeth (ar gyfer myfyrwyr llawn amser yn unig) – sy’n helpu gyda chostau byw fel llety, llyfrau a biliau
  • grant Cynhaliaeth (ar gyfer myfyrwyr llawn amser y gwnaeth eu cyrsiau ddechrau cyn 1 Awst 2016 yn unig) – sydd hefyd yn helpu gyda chostau byw
  • cymorth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr anabl (gweler isod).

Nid oes rhaid ad-dalu’r Grant Cynhaliaeth, ond mae rhaid ad-dalu’r benthyciadau.

O’r flwyddyn academaidd 2016/17 disodlwyd Grantiau Cynhaliaeth gan system fenthyca. Mae hyn yn golygu bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliadau.

Amcangyfrifwch faint o gyllid y gallech ei dderbyn trwy ddefnyddio’r gyfrifiannell cyllid myfyrwyr ar wefan GOV.UK

Cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr anabl

Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl wedi ei lunio i helpu gyda’r costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth fod yn fyfyriwr anabl.

Er enghraifft:

  • prynu cyfarpar arbenigol, fel meddalwedd cyfrifiadur
  • talu am helpwyr anfeddygol, fel rhywun i gymryd nodiadau neu i ddarllen
  • helpu gyda chostau teithio oherwydd eich anabledd.

Gallwch wneud cais am un os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn anabl
  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl
  • mae gennych gyflwr iechyd hirdymor
  • mae gennych anhawster dysgu, fel dyslecsia.

Telir Lwfans Myfyriwr Anabl ar ben eich cyllid myfyriwr arall. A nid oes rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Mae’r hyn a gewch yn dibynnu ar eich anghenion unigol – nid ar eich incwm nac eich rhieni na’ch bartner.

Os ydych yn byw yn Lloegr

Darganfyddwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan GOV.UK

Os ydych yn byw yng Nghymru

Darganfyddwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (Opens in a new window)

Os ydych yn byw yn yr Alban

Darganfyddwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan Student Awards Agency for Scotland

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Darganfyddwch fwy am Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan Student Finance NI

Cyllid gan ymddiriedolaethau elusennol

Os na allwch gael yr arian rydych ei angen er mwyn gwneud cwrs gan gorff ariannu neu’r wladwriaeth, efallai gallech wneud cais i ymddiriedolaeth i ariannu’ch astudiaethau.

Mae pwy maent yn penderfynu dyfarnu arian iddynt yn amrywio o ymddiriedolaeth i ymddiriedolaeth. Felly mae angen i chi dreulio amser yn mynd trwy’r rheolau ar gyfer pob un.

Darganfyddwch fwy am gyllid addysgol gan ymddiriedolaethau elusennol ar wefan Disability Rights UK

Gwasanaethau cymorth anabledd ac addasiadau rhesymol

Mae gan bob coleg a phrifysgol swyddog neu adran sy’n gyfrifol am wasanaethau myfyrwyr anabl.

Mae’n syniad da i gysylltu â hwy cyn penderfynu ble rydych am astudio, yna eto cyn i chi gychwyn eich cwrs.

Hefyd, dylech siarad â hwy os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol i’ch cwrs neu le astudio er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl hygyrch i chi.

Mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn am y fath addasiadau. Gallant gynnwys:

  • darllenydd neu sgrifellwr mewn arholiadau
  • trefniadau llety penodol
  • mynediad i’r holl gyfleusterau yn y coleg a’r campws
  • technoleg gynorthwyol, fel cyfarpar cyfrifiadurol a meddalwedd arbenigol.

Darganfyddwch fwy am addasiadau ar gyfer myfyrwyr anabl ar wefan Disability Rights UK

Mwy o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr anabl

Gwelwch restr lawn o daflenni ffeithiau addysgol ar wefan Disability Rights UK

Am fwy o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr anabl, ewch i wefan UCAS

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.