Os oes angen cymorth arnoch gyda thasgau o ddydd i ddydd, neu os oes angen i chi symud i gartref gofal, efallai y bydd eich cyngor neu ymddiriedolaeth leol yn helpu gyda'r costau. Bydd faint yn dibynnu ar eich anghenion gofal a beth allwch chi ei fforddio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa wasanaethau gofal sy’n cael eu darparu gan gynghorau lleol?
- Sut i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal
- Cael asesiad cyngor lleol o anghenion gofal
- Asesiad ariannol a chymhwyster
- Canlyniad yr asesiad ariannol
- Penderfynu pwy sy’n rheoli’ch cyllideb ar gyfer gofal personol
- Beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad y cyngor lleol
Pa wasanaethau gofal sy’n cael eu darparu gan gynghorau lleol?
Gall eich awdurdod lleol (a elwir hefyd yn gynghorau lleol) neu Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) yng Ngogledd Iwerddon ddarparu lle wedi’i ariannu mewn cartref gofal. Ond gallant hefyd eich helpu, i aros yn eich cartref eich hun os oes gennych anghenion gofal.
Mae’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn cynnwys:
- prydau bwyd
- gofalwyr
- trafnidiaeth
- addasiadau cartref
- offer sy'n helpu gyda thasgau bywyd bob dydd.
Efallai y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu am ddim, neu dim ond os yw'ch incwm a'ch cynilion yn isel.
Hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael yr uchafswm cyllid gan eich cyngor lleol (neu HSC yng Ngogledd Iwerddon), fel arfer bydd angen i chi dalu rhywbeth tuag at eich costau gofal o hyd. Os oes gennych lawer o gynilion neu incwm uchel, mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu’r gost lawn eich hun.
Os oes gennych anabledd neu gyflwr meddygol cymhleth sy'n golygu bod gennych anghenion gofal iechyd yn hytrach nag anghenion gofal cymdeithasol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid gan y GIG.
Sut i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal
Cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol i ofyn am asesiad o anghenion gofal. Naill ai ar yr un pryd â’r asesiad anghenion neu’n fuan wedi hynny, bydd eich cyngor lleol yn cynnal asesiad ariannol i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Os oes gennych gynilion ac asedau o fwy na’r symiau yn y tabl hwn, bydd rhaid i chi dalu am eich gofal eich hun yn llawn (colofn ganol) neu’n rhannol (colofn olaf):
Gwlad | Trothwy cynilion uwch ar gyfer unrhyw gyllid cyngor lleol yn 2023/24 | Trothwy cynilion is ar gyfer uchafswm cyllid cyngor lleol yn 2023/24 |
---|---|---|
Cymru |
£24,000 (gofal gartref) neu £50,000 (gofal mewn cartref gofal) |
£24,000 (gofal gartref) neu £50,000 (gofal mewn cartref gofal) |
Lloegr |
£23,250 |
£14,250 |
Yr Alban |
£32,750 |
£20,250 |
Gogledd Iwerddon |
£23,250 |
£14,250 |
Os yw’ch cynilion yn uwch na’r terfyn uchaf (a ddangosir yng ngholofn ganol y tabl), bydd rhaid i chi dalu’ch costau gofal llawn eich hun nes bod eich cynilion wedi disgyn yn is na’r trothwy hwnnw.
Fodd bynnag, mae’n dal yn werth cysylltu â’ch cyngor lleol neu ymddiriedolaeth, gan fod gennych hawl o hyd i asesiad o anghenion gofal am ddim, waeth beth yw eich sefyllfa ariannol.
Os yw’ch cynilion yn is na’r terfyn uchaf, ond yn uwch na’r terfyn isaf (a ddangosir yn y golofn ddiwethaf), bydd eich cyngor lleol yn talu rhywfaint o’ch costau gofal. Ond bydd disgwyl i chi hefyd gyfrannu o’ch cynilion.
Nid yw hyn yn berthnasol yng Nghymru, lle nid oes mond un terfyn cynilo - ni chewch unrhyw gyllid (uwchlaw’r terfyn), cewch ychydig o help (islaw’r terfyn).
Hyd yn oed os yw’ch cynilion yn is na’r terfyn isaf, sy’n golygu eich bod yn cael yr uchafswm cyllid gan eich cyngor lleol, fel arfer bydd disgwyl i chi dalu rhan o’ch incwm tuag at gost gofal.
Cael asesiad cyngor lleol o anghenion gofal
Cyn iddynt allu helpu, mae rhaid i’ch cyngor lleol gwblhau asesiad anghenion gofal. Mae am ddim ac mae gennych hawl cyfreithiol i gael un.
Ni ddylid gwrthod asesiad i chi oherwydd bod y cyngor lleol yn credu nad yw’ch anghenion yn ddigonol neu na fyddech yn gymwys am gymorth ariannol.
Bydd eich cyngor lleol yn adnabod eich gofynion gofal ac yn gwirio eu bod yn bodloni meini prawf cenedlaethol.
Os ydych yn gymwys am gymorth, yn gyfreithiol mae rhaid i’r cyngor lleol ddarparu neu drefnu’r gwasanaethau rydych eu hangen.
Yna byddant yn cyflawni asesiad ariannol i weld a ddylech dalu am unrhyw wasanaethau fydd eu hangen arnoch.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
I ddarganfod pa gyngor lleol sy’n gyfrifol am eich asesiad ewch i wefan GOV.UK
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Bydd eich Health and Social Care Trust lleol yn cynnal asesiad o anghenion gofal cymdeithasol
Darganfyddwch eich Health and Social Care Trust lleol ar wefan nidirect
Asesiad ariannol a chymhwyster
Os ydych yn gymwys i gael help, bydd y cyngor lleol yn cyflawni asesiad ariannol.
Gelwir hyn yn ‘brawf modd’. Mae hyn yn helpu i gyfrifo faint dylech ei gyfrannu tuag at gost eich gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Profion modd i gael help gyda chostau gofal – sut maent yn gweithio
Canlyniad yr asesiad ariannol
Canlyniad yr asesiad ariannol yw y bydd y cyngor lleol naill ai’n:
- cytuno i dalu’n llawn am eich anghenion gofal
- cytuno i dalu rhywfaint o’r gost – a bydd angen i chi dalu’r gweddill, neu
- gadael i chi dalu’n llawn am eich anghenion gofal.
Cewch ddatganiad o’r enw ‘cyllideb bersonol’ sy’n nodi cost y gofal, y swm y mae rhaid i chi ei dalu a faint y bydd y cyngor lleol yn ei dalu.
Penderfynu pwy sy’n rheoli’ch cyllideb ar gyfer gofal personol
Os ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, gallwch:
- ofyn i’ch cyngor lleol drefnu’r gwasanaethau gofal ar eich rhan
- cael taliadau uniongyrchol gan y cyngor lleol a threfnu pethau drosoch chi’ch hun. Gall hyn olygu mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth ar eich gofal a’ch arian
- cael ‘pecyn cymysg’. Dyma ble mae’r cyngor lleol yn trefnu rhai darnau o’ch gofal ac rydych yn derbyn taliadau uniongyrchol am rannau eraill.
Os byddwch yn dewis taliadau uniongyrchol, gallwch ofyn i rywun arall reoli’ch cyllideb a threfnu gwasanaethau i chi. Gallai hyn fod yn aelod o’r teulu, ffrind, gweithiwr gofal proffesiynol neu eiriolwr annibynnol.
Beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad y cyngor lleol
Gallwch herio penderfyniad y cyngor lleol os:
- byddant yn gwrthod talu am eich gwasanaethau gofal
- nad ydych yn credu bod digon o gymorth wedi’i gynnig i fodloni’ch anghenion.