Gwasanaethau gofal i’ch helpu i aros yn eich cartref eich hun

Mae’r rhan fwyaf ohonom am fyw’n annibynnol yn ein cartrefi ein hunain cyhyd â phosibl. Os ydych yn gwella o salwch neu gwymp, neu os ydych angen cymorth gyda’ch gofal hirdymor, mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu i wneud hynny.

Beth yw gofal cartref?

Mae gofal cartref yn disgrifio’r gwasanaethau gofal sy’n galluogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain.

Fe’u darperir gan amlaf gan weithwyr gofal neu nyrsys. Gall gofal cartref gynnwys popeth o help i lanhau’r tŷ unwaith yr wythnos, i ymweliadau sawl gwaith y diwrnod i helpu gydag ymolchi, gwisgo a thasgau gofal personol eraill.

Mae cael gofal yn y cartref yn ddewis mwyfwy cyffredin yn lle aros yn yr ysbyty neu symud i gartref gofal.

Nid yn unig rydych yn osgoi unrhyw aflonyddwch ac yn aros mewn man cyfarwydd, ond hefyd gall fod yn ddewis mwy darbodus na gofal preswyl.

Pa wasanaethau gofal cartref sydd ar gael?

Bydd y gwasanaethau a gynigir i chi’n seiliedig ar asesiad a gynhelir gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon).

‘Pecyn gofal’ yw’r enw arno a bydd yn cael ei ysgrifennu fel rhan o’ch cynllun gofal personol.

Gall gwasanaethau gynnwys help gyda:

  • codi o’r gwely yn y bore, ymolchi a gwisgo
  • defnyddio’r toiled ac offer ymataliaeth
  • paratoi prydau bwyd a diod
  • bwyta ac yfed
  • casglu presgripsiynau
  • rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu anogaeth i’w gymryd
  • tasgau yn ymwneud ag iechyd, yn unol â’r hyn a gytunwyd â meddygon neu nyrsys cymunedol
  • gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig
  • siopa
  • casglu pensiynau
  • arian, rheoli a thalu biliau
  • mynd allan o’r tŷ a chyfarfod ffrindiau
  • goruchwyliaeth a chwmni
  • setlo am y noson a mynd i’r gwely.

Talu am ofal cartref yn eich cartref eich hun

Bydd y swm fydd rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar:

  • eich iechyd a symudedd
  • gwerth eich asedau, a
  • pa lefel o gymorth a chefnogaeth rydych ei angen

Efallai bydd eich awdurdod lleol yn talu rhywfaint neu’r cyfan o’r costau, ond efallai hefyd y bydd yn rhaid ichi dalu am yr holl wasanaethau eich hun.

Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt – Lwfans Gweini a Lwfans Byw i’r Anabl (neu Daliad Annibyniaeth Personol) yw’r rhai mwyaf cyffredin.

Sut i drefnu gofal hirdymor gartref

Gwnewch gais am gymorth gan eich cyngor lleol, fel arfer yr adran gwasanaethau cymdeithasol (neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol yng Ngogledd Iwerddon).

Cyn y gallant eich helpu, rhaid iddynt gynnal asesiado’ch anghenion gofal.

Hyd yn oed os byddwch yn trefnu’r gofal ac yn talu amdano eich hun, mae’n syniad da cael asesiad. Bydd yn eich helpu i ddeall a phenderfynu pa fath o ofal a chymorth sydd eu hangen arnoch, a beth sydd ar gael.

Ar ôl yr asesiad anghenion gofal, fe gewch asesiad ariannol hefyd i bennu a oes angen i chi dalu am eich gofal eich hun, neu a fydd eich cyngor lleol yn cyfrannu.

Os yw’ch cyngor lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn cytuno i ariannu rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwasanaethau gofal, byddwch yn cael dewis rhwng:

  • y cyngor yn darparu’r gwasanaethau’n uniongyrchol i chi, neu
  • cael taliadau uniongyrchol gan y cyngor, a threfnu’ch gwasanaethau cymorth a gofal eich hun a thalu amdanynt eich hun.

Cyllido’ch gofal eich hun gartref – pethau eraill i’w hystyried

Mae nifer o ddewisiadau os oes rhaid i chi dalu am eich gofal cartref eich hun, gan gynnwys:

  • blwydd-dal anghenion brys - ar gael gan rai cwmnïau yswiriant sy'n gwarantu talu ffioedd gofal ar lefel benodol cyhyd ag y mae eu hangen yn gyfnewid am gyfandaliad unwaith ac am byth
  • symud i gartref llai o faint – er enghraifft byngalo i ryddhau cyllid i dalu am eich gofal
  • cynllun rhyddhau ecwiti priodol - os ydych yn berchennog cartref
  • polisïau yswiriant y gallech chi neu’ch priod fod wedi’u prynu amser maith yn ôl.

Mwy o wybodaeth am ofal cartref

Mae mwy o wybodaeth ar y gwefannau hyn:

Gofal cartref, addasiadau ac offer

Os ydych angen gwneud eich cartref yn fwy hygyrch, neu os ydych angen offer arbenigol i'ch helpu i reoli tasgau o ddydd i ddydd yn fwy diogel a haws, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol.

Bydd yr hyn sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.