Gall gofalwyr preifat neu gynorthwywyr personol eich cefnogi i fyw ar eich pen eich hun gartref. Os ydych chi'n cyflogi un gan ddefnyddio'ch arian eich hun neu gyda thaliadau uniongyrchol, mae llawer o bethau i'w hystyried.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth all gofalwr neu gynorthwyydd personol ei wneud i mi?
Gall gofalwr preifat neu gynorthwyydd personol helpu gydag amrywiaeth o dasgau fel:
- siopa
- paratoi prydau bwyd
- helpu gyda meddyginiaeth
- gyrru neu eich helpu i symud o gwmpas
- cefnogi gofalwyr teulu pan fydd angen seibiant arnynt
- gofal personol, fel ymolchi, gwisgo a defnyddio'r toiled.
Efallai y byddant yn gweithio am ychydig oriau'r wythnos yn unig, neu am sawl awr bob dydd (neu gyda'r nôs).
Os oes angen i chi drefnu gwasanaethau gofalwyr â thâl, mae gennych ddau brif opsiwn:
- Defnyddio asiantaeth gofal cartref i gyflogi gofalwr.
- Cyflogi eich gofalwr eich hun.
Ystyriwch eich anghenion, cyllideb, a faint o gyfranogiad rydych chi ei eisiau yn y broses wrth ddewis rhwng yr opsiynau hyn.
Defnyddio asiantaeth gofal cartref i gyflogi gofalwr preifat neu gynorthwyydd personol
I lawer, mae defnyddio asiantaeth gofal cartref yn haws na chyflogi gofalwr neu gynorthwyydd personol eich hun. Ond mae yna bethau pwysig i'w hystyried.
Manteision
-
Maen nhw'n gofalu am recriwtio, hyfforddi a rheoli, felly does dim rhaid i chi boeni am ei wneud eich hun.
-
Maent yn sicrhau bod gofalwyr a chynorthwywyr personol yn gymwys ac yn gallu ymdrin ag unrhyw faterion sy'n codi.
-
Mae asiantaethau gofal cartref rheoledig yn gofalu am daliadau, trethi, yswiriant, ac yn gwneud gwiriadau cefndir.
Anfanteision
-
Nid yw pob cwmni gofal cartref yn cael ei reoleiddio. Gwiriwch wefan y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) i weld a yw asiantaeth gofal cartref yn cael ei rheoleiddio a darllenwch ei hadroddiad.
-
Mae defnyddio asiantaeth gofal cartref fel arfer yn ddrytach na chyflogi rhywun yn uniongyrchol. Mae'r gost yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen arnoch a ble rydych chi'n byw.
-
Ni fyddwch yn cael dewis eich gofalwr fel y byddech pe byddech yn cyflogi rhywun yn uniongyrchol.
-
Efallai na fydd yr un gofalwr bob amser yn dod i helpu. Ond yn aml gall asiantaethau ddarparu gofalwr arall os yw'ch gofalwr rheolaidd yn absennol.
I ddod o hyd i asiantaeth gofal cartref yn eich ardal chiYn agor mewn ffenestr newydd gweler gwefan CQC.
Cyflogi gofalwr preifat neu gynorthwyydd personol
Os nad ydych chi'n gwybod am rywun rydych chi am ei gyflogi, fel ffrind neu argymhelliad gan eich cyngor lleol, neu'r Health and Social Care Trust yng Ngogledd Iwerddon (HSCNI), bydd angen i chi hysbysebu a chyfweld ymgeiswyr.
Chwilio am ofalwr neu gynorthwyydd personol
Mae rhai cynghorau, neu HSCNI, yn caniatáu i chi hysbysebu ar eu gwefannau. Gallwch hefyd hysbysebu mewn:
- canolfannau gwaith lleol
- papurau newydd lleol
- swyddfa bost, siopau, archfarchnadoedd neu golegau addysg bellach neu addoldai lleol
- ar-lein, er enghraifft, GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- asiantaethau recriwtio a fydd yn codi ffioedd, ond maent yn delio â’r broses fetio, a allai fod yn werth chweil am y tawelwch meddwl ychwanegol.
Rheolau ar gyfer cyflogi teulu neu ffrindiau
Os ydych chi'n cael arian gan eich cyngor lleol, neu HSCNI, am ofal, mae yna reolau penodol ynglyn â chyflogi aelodau o'r teulu yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Fel arfer, ni fydd eich cyngor lleol, neu HSCNI, yn gadael i chi dalu aelodau agos o'r teulu sy'n byw gyda chi am wasanaethau. Ond gall fod eithriadau os oes ei angen i ddiwallu eich anghenion, neu ar gyfer plentyn, i gefnogi eu llês.
Gwiriwch y rheolau ar gyflogi aelod o'r teulu neu ffrind drwy gysylltu â'ch cyngor lleol, neu HSCNI.
Os ydych chi'n ofalwr, darganfyddwch pa gymorth ariannol sydd ar gael i'ch helpu chi yn ein canllaw Budd-daliadau y gallwch eu hawlio fel gofalwr.
Gwiriadau Hawl i weithio yn y DU
Mae'n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw un yr ydych yn ei gyflogi yn medru gweithio’n y DU yn gyfreithiol drwy wirio eu pasbort neu ID arall o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a chadw copi.
Am restr o wledydd Ardal Economaidd EwropYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i GOV.UK.
Am fwy o wybodaeth am yr hawl i weithio yn y DUYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i GOV.UK.
Cynnal gwiriadau cefndir
Cyn i rywun ddechrau gweithio, mae'n syniad da gwirio eu cofnod troseddol. Mae hyn yn cael ei alw'n:
- Wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yng Nghymru a Lloegr.
- Archwiliad Protecting Vulnerable Groups (PVG) yn yr Alban.
- Gwiriadau cofnodion troseddol AccessNI yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'n bwysig cael copi o'r gwiriad gan unrhyw un rydych chi'n bwriadu ei gyflogi cyn i chi eu cyfweld neu eu gadael i mewn i'ch cartref.
- Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu Loegr, mynnwch fwy o wybodaeth am wiriadau'r DBSYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
- Os ydych chi'n byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am wiriadau PVGYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.
- Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, am wiriadau cofnodion troseddolYn agor mewn ffenestr newydd cysylltwch ag AccessNI.
Darparu contract cyflogaethi’ch gofalwr preifat neu gynorthwyydd personol
Bydd angen i chi lunio contract cyflogaeth ar gyfer eich gofalwr neu gynorthwyydd personol. Dylai hyn gynnwys:
- y tasgau sydd eu hangen
- y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth a hyd y gyflogaeth
- gweithle
- oriau gwaith
- egwyliau gorffwys
- cyfradd cyflog
- trefniadau talu (amseroedd a dulliau talu)
- hawliau a thâl gwyliau
- taliadau cadw (er enghraifft, pan fyddwch yn yr ysbyty neu'n mynd ar wyliau am gyfnod hir)
- hawl i absenoldeb salwch
- cyfnod a thâl mamolaeth/tadolaeth
- cyfnod hysbysiad/terfynu cyflogaeth
- taliadau diswyddo
- cynlluniau pensiwn
- gweithdrefnau disgyblu.
Am fwy o wybodaeth am gontractau cyflogaeth, gweler:
- GOV.UK: help a chefnogaeth i'ch busnesYn agor mewn ffenestr newydd
- ACAS: am gontractau, oriau a thaliadauYn agor mewn ffenestr newydd
- Disability Rights UK: am gontractau cyflogaethYn agor mewn ffenestr newydd
- Labour Relations Agency yng Ngogledd Iwerddon: i wella perthnasau cyflogaethYn agor mewn ffenestr newydd
Talu eich gofalwr preifat neu gynorthwyydd personol
Mae'n rhaid i chi dalu o leiaf Isafswm Cyflog Cenedlaethol i'ch cynorthwyydd personol.
Efallai y byddwch hefyd yn gyfrifol am ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol o'u cyflog ac yn gorfod talu cyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwr.
Darganfyddwch fwy am dreth ac Yswiriant Gwladol wrth gyflogi pobl yn eich cartrefYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Amser i ffwrdd, tâl salwch a thâl gwyliau
Mae gan eich gofalwr neu gynorthwyydd personol hawl i:
- egwyliau gorffwys
- tâl gwyliau
- tâl salwch
- uchafswm o oriau gwaith mewn unrhyw wythnos.
Nid yn unig y bydd yn rhaid i chi dalu'r rhain, ond bydd angen i chi ddod o hyd i ofalwr newydd dros dro hefyd.
Gweler GOV.UK i gyfrifo'r hawl gwyliau statudolYn agor mewn ffenestr newydd mewn dyddiau neu oriau.
Cynllun pensiwn ac ymrestru awtomatig
Mae'n rhaid i chi ymrestru'ch gofalwr preifat neu'ch cynorthwyydd personol yn awtomatig (yn dibynnu ar oedran ac enillion) i mewn i gynllun pensiwn gweithle.
I gael gwybod mwy am eich ymrestriad awtomatig a'r hyn sydd angen i chi ei wneud, gweler:
Cymryd yswiriant
Fel cyflogwr, mae'n rhaid i chi gymryd Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
Os ydych yn derbyn taliadau uniongyrchol, dylai eich cyngor lleol, neu'r HSCNI, helpu tuag at gost hyn. Cysylltwch â'ch cyngor lleol, neu HSCNI, i gael rhestr o ddarparwyr yswiriant a all gynnig hyn i chi.
Bydd angen i chi adnewyddu eich yswiriant bob blwyddyn.
Defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi gofalwr preifat neu gynorthwyydd personol
Mae taliadau uniongyrchol yn gadael i chi brynu gwasanaethau gan ddarparwyr gofal, cyflogi eich gofalwr eich hun neu benodi asiantaeth gofal cartref i wneud hynny ar eich rhan, gan roi mwy o reolaeth i chi dros eich cefnogaeth.
Os yw eich cyngor lleol, neu HSCNI, yn cytuno i ariannu eich gwasanaethau gofal yn gyfan neu’n rhannol, gallwch ddewis cael yr arian fel taliadau uniongyrchol.
Mae hyn yn golygu y bydd eich cyngor lleol, neu'r HSCNI, yn trosglwyddo arian i gyfrif banc ar wahân a sefydlwyd gennych at y diben hwn. Dylai'r cyfrif hwn ddal y taliadau hyn yn unig ac unrhyw gronfeydd ychwanegol y cytunwyd arnynt. Gellir gwneud taliadau gan eich cyngor lleol, neu HSCNI, bob wythnos, bob pedair wythnos, yn fisol neu fel arall. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yr amserlen talu i dalu eich staff ar amser.
Darganfyddwch yn ein canllaw sut mae taliadau uniongyrchol yn gweithio a sut i'w defnyddio
Cael mwy o help
Disability Rights UK: yn cynnig cyngor ar daliadau uniongyrchol,Yn agor mewn ffenestr newydd cael mynediad at gyllid gofal cymdeithasol, asesiad anghenion gofal gan gyflogi cynorthwywyr personol a thaliadau gofal cymunedol amhreswyl.
ACAS: yn darparu canllawiau ar ystyriaethau cyflogaethYn agor mewn ffenestr newydd, ceisiadau am swyddi, a phrosesau cyflogi.
Os ydych yn byw yn Lloegr:
Mae Sgiliau GofalYn agor mewn ffenestr newydd yn rhoi awgrymiadau ar gyflogi cynorthwywyr personol a manylion am wasanaethau cymorth lleol.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru:
Mae Dewis CymruYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cyngor ar daliadau uniongyrchol a chyflogi cynorthwywyr personol.
Os ydych yn byw yn yr Alban:
Mae Self-Directed Support ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd yn adnodd ar gyfer gwybodaeth am gymorth hunangyfeiriedig, taliadau uniongyrchol, a chefnogaeth leol ar gyfer cyflogi gweithwyr gofal.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon:
Mae’r Centre for Independent LivingYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cyngor ar daliadau uniongyrchol, cyllidebau personol, a chyflogi gofalwyr a chynorthwywyr personol.