Os ydych yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil, mae gennych chi’ch dau rwymedigaeth i gefnogi eich gilydd yn ariannol nes caiff ei gwblhau. Darganfyddwch sut gallwch drefnu ‘aliment’ (taliadau cynhaliaeth rheolaidd) yn ystod y cyfnod hwn a beth gallech ei gael neu ei dalu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Taliadau aliment
Beth os na allwch gytuno faint y dylid ei dalu, neu a ddylid talu o gwbl? Yna gall y partner sy’n credu ei fod neu ei bod angen cefnogaeth ariannol wneud cais i’r llys am yr hyn a elwir yn ‘aliment’.
Gwneud cais i’r llys am aliment
Gallwch wneud cais i’r llysoedd am orchymyn i’ch cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) dalu aliment os bydd camau ysgaru neu ddiddymu ar y gweill.
Bydd llys yn ystyried a oes angen y taliadau ar y sawl sy’n gwneud cais am aliment, ac a all y sawl sydd i’w dalu yn gallu fforddio’r taliadau.
Gall cyfreithiwr roi cyngor i chi ynghylch a fyddai’n werth i chi wneud y math hwn o gais.
Os nad ydych yn siŵr am sefyllfa ariannol eich cyn-bartner, ac nad oes ganddo ef neu hi yr arian i dalu i chi, gallech wario arian ar ffioedd llys a chyfreithiol am ddim rheswm.
Os na allwch fforddio cyfreithiwr gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Beth sydd angen arnoch i wneud cais i’r llysoedd
Os byddwch yn penderfynu parhau i wneud cais i’r llysoedd, bydd angen i chi roi datganiad ysgrifenedig byr yn nodi eich sefyllfa ariannol. Dylai hyn gynnwys:
- eich cyfalaf
- unrhyw ddyledion sydd gennych
- eich gallu i ennill cyflog
- manylion am yr hyn sydd ei angen arnoch o ddydd i ddydd yn y tymor byr, ac
- eich incwm ar hyn o bryd, gan gynnwys unrhyw enillion, arian a gewch gan eich cyn-bartner, ac unrhyw fudd-daliadau y wladwriaeth.
Y llys sy’n penderfynu a ddylid dyfarnu aliment– ac os felly, faint – trwy edrych ar holl amgylchiadau’r achos.
Mae hyn yn cynnwys edrych ar y swm cyffredinol o arian sydd ar gael, yn ogystal â faint y gallai’r sawl fydd angen talu’r aliment ei ennill. Ni fydd yn edrych ar faint o incwm sydd gan yr unigolyn hwnnw yn unig.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol os oes gan un ohonoch lefel isel o incwm, ond asedau sylweddol - er enghraifft, busnes sy’n gwneud elw da.
Daw aliment i ben unwaith y bydd eich ysgariad neu ddiddymiad wedi ei gwblhau.
Cynhaliaeth plant
Mae cynhaliaeth plant yn rhywbeth y gallwch ei drefnu cyn gynted ag y byddwch yn gwahanu.
Fel arfer bydd yn cael ei dalu i’r rhiant y mae’r plentyn yn byw gydag ef neu hi am y rhan fwyaf neu’r cyfan o’r amser gan y rhiant arall.
Nid oes rhaid i chi fod wedi cael trefn derfynol ar eich ysgariad neu ddiddymiad cyn trefnu cynhaliaeth plant.
Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch chi a’ch cyn-bartner gytuno ar gynhaliaeth plant.